Pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Materion a chwestiynau i ymgynghori arnynt – Tachwedd 2002

Cefndir
Cafodd y Comisiwn ei benodi ym mis Gorffennaf 2002. Ei swyddgoaeth yw llunio adroddiad annibynnol erbyn diwedd 2003. Bydd yr adroddiad hwn yn cyfrannu at benderfyniadau ar ddyfodol y Cynulliad Cenedlaethol a'r ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu yn y dyfodol.

Wrth baratoi ein hadroddiad hoffem fanteisio ar gael safbwyntiau a phrofiad cymaint o unigolion a sefydliadau ag sy'n bosibl, yn arbennig o Gymru, ond hefyd o wledydd eraill.

Fel cam cyntaf hoffwn eich gwahodd i anfon datganiad ysgrifenedig o'ch safbwyntiau - hwyrach y byddwn am ystyried y rhain maes o law mewn cyfarfodydd gyda chi.

Mae gan Gylch Gorchwyl y Comsiwn ddwy elfen wahanol sef:

  1. Pwerau a
  2. threfniadau etholiadol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â'r cyntaf ohonynt – bydd y Comisiwn yn cyhoeddi papur arall i fynd i'r afael â materion etholiadol.

Bwriad y cwestiynau a nodir yn y Papur Ymgynghori yw helpu'r rhai sy'n cymryd rhan i fynegi eu barn ar y materion, ond y nod yw peidio â chyfyngu ar y drafodaeth. Os oes unrhyw faterion eraill y teimlwch sy'n berthnasol i'r Cylch Gorchwyl ac y dylai'r Comisiwn eu hystyried, mae croeso i chi eu cynnwys yn eich ateb.

Cyflwyno tystiolaeth

Gellir cyflwyno ymatebion i'r papur hwn

Gofynnir am geisiadau erbyn diwedd Chwefror 2003. Byddai o gymorth pe bai cymaint â phosib o ymatebion yn gallu dod i law cyn y dyddiad hwn.