Cafodd y Comisiwn ei benodi ym mis Gorffennaf
2002. Ei swyddgoaeth yw llunio adroddiad annibynnol erbyn
diwedd 2003. Bydd yr adroddiad hwn yn cyfrannu at benderfyniadau
ar ddyfodol y Cynulliad Cenedlaethol a'r ffordd y caiff
Cymru ei llywodraethu yn y dyfodol.
Wrth baratoi ein hadroddiad hoffem fanteisio ar gael
safbwyntiau a phrofiad cymaint o unigolion a sefydliadau
ag sy'n bosibl, yn arbennig o Gymru, ond hefyd o wledydd
eraill.
Fel cam cyntaf hoffwn eich gwahodd i anfon datganiad
ysgrifenedig o'ch safbwyntiau - hwyrach y byddwn am
ystyried y rhain maes o law mewn cyfarfodydd gyda chi.
Mae gan Gylch Gorchwyl
y Comsiwn ddwy elfen wahanol sef:
- Pwerau a
- threfniadau etholiadol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r ymgynghoriad hwn
yn ymwneud â'r cyntaf ohonynt bydd y Comisiwn
yn cyhoeddi papur arall i fynd i'r afael â materion
etholiadol.
Bwriad y cwestiynau a nodir yn y Papur
Ymgynghori yw helpu'r rhai sy'n cymryd rhan i fynegi
eu barn ar y materion, ond y nod yw peidio â chyfyngu
ar y drafodaeth. Os oes unrhyw faterion eraill y teimlwch
sy'n berthnasol i'r Cylch
Gorchwyl ac y dylai'r Comisiwn eu hystyried, mae
croeso i chi eu cynnwys yn eich ateb.
Cyflwyno tystiolaeth
Gellir cyflwyno ymatebion i'r papur hwn
Gofynnir am geisiadau erbyn diwedd Chwefror 2003. Byddai
o gymorth pe bai cymaint â phosib o ymatebion yn gallu
dod i law cyn y dyddiad hwn.
|