PWERAU CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU: MATERION A CHWESTIYNAU AR GYFER YMGYNGHORIAD

YMATEB I GOMISIWN RICHARD GAN GYNGOR CEFN GWLAD CYMRU

1.   Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) yw cynghorwr statudol y Llywodraeth ar gynnal harddwch naturiol, bywyd gwyllt a’r cyfle i fwynhau’r wlad a dyfroedd ei glannau. Gydag English Nature a Scottish Natural Heritage, rydym yn cyflawni ein cyfrifoldebau statudol ehangach – ar gyfer Prydain Fawr ac yn rhyngwladol – trwy’r Cydbwyllgor Gwarchod Natur.
2.   Mae CCGC yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Comisiwn Richard. Cyflwynir ein sylwadau o ddau safbwynt; sef fel asiantaeth weithredol ac ymgynghorol sy’n gweithio o fewn y ddeddfwrfa bresennol ac fel asiantaeth sy’n delio yn uniongyrchol â Llywodraeth y Cynulliad, yr Aelodau a’r staff. Mae ein hymateb isod yn dilyn trefn eich dogfen ymgynghorol ond, gan nad yw’r cwestiynau penodol a ofynnir yn aml yn berthnasol iawn i ni, rydym wedi rhoi sylwadau ar bob un o’r prif faterion. Mae hefyd yn bwysig cofio ein bod yn canolbwyntio ar ddeddfwriaeth amgylcheddol, sydd bellach yn deillio o Ewrop yn bennaf.
3.   Mae pwerau CCGC yn deillio yn bennaf o ddeddfwriaeth San Steffan. Cawn ein hariannu, tua £60m ym mlwyddyn ariannol 2003/04, gan y Cynulliad. Dyrennir tua 2/3 o’r arian hwn gan ein noddwr yn y Cynulliad (Yr Is-adran Cefn Gwlad) ar gyfer ein gwaith treftadaeth naturiol cyffredinol. Mae 1/3 o’r arian sy’n weddill yn dod o dan yr Is-adran Amaethyddiaeth a Materion Gwledig ac fe’i darperir er mwyn gweithredu cynllun amaeth-amgylchedd blaenllaw Tir Gofal. Mae gennym tua 650 aelodau o staff, mewn 11 o swyddfeydd ledled Cymru ac rydym yn darparu gwasanaethau sy’n gyson yn genedlaethol o fewn cyd-destun lleol. Ni yw’r unig CCNC i Gymru gyfan sydd â’i bencadlys yng Ngogledd Cymru. Rydym yn cefnogi treftadaeth naturiol Cymru – ein tirweddau a’n morweddau, cynefinoedd a rhywogaethau – drwy:
   - ddiogelu’r enghreifftiau pwysicaf drwy ddynodiad statudol (Parciau Cenedlaethol; Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol; tir mynediad; Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol; Ardaloedd Cadwraeth Arbennig; Meysydd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac ati) a rheoli cynaliadwy parhaus, yn gyffredinol mewn partneriaeth â pherchnogion-ddeiliaid.
   - gwella’r ansawdd gyffredinol drwy reoli cynlluniau cymorth grant a mathau eraill o gymorth sy’n galluogi eraill i reoli’n amgylcheddol-gynaliadwy. Tir Gofal yw’r cynllun helaethaf yn ein portffolio presennol.
   - ennyn brwdfrydedd pobl Cymru a’i hymwelwyr o ran safon ein hamgylchedd, y llu o gyfleoedd i fwynhau a phwysigrwydd gofalu amdano ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ein prif nod, yn y cyswllt hwn, yw cysylltu pobl â byd natur.
  

- cynghori pob lefel o’r llywodraeth – ond ein Cynulliad Cenedlaethol yn arbennig – ar bob agwedd o’r ased hwn sy’n bwysig yn economaidd ac yn gymdeithasol.  Trwy weithio’n agos â’n chwaer-asiantaethau, rydym yn sicrhau bod ein hymagwedd yn gyson ledled y DU. Trwy ariannu’r CGN ar y cyd gallwn ddatblygu safonau darparu cyffredin, er mwyn rhannu ein hanghenion ymchwilio a datblygu cyffredin, i ddelio â gwaith morol yn effeithlon ac i fodloni rhwymedigaethau rhyngwladol y DU. Er bod y ddarpariaeth ledled y DU yn cyrraedd safonau cyson, mae graddau’r ddarpariaeth i ni – fel pob gwlad – yn dibynnu’n helaeth ar flaenoriaethau amgylcheddol Cymru.
Y Mater Cyntaf: A oes gan y Cynulliad Cenedlaethol bwerau digonol i ddiwallu anghenion Cymru?
4. Yn gyffredinol, oes, ond byddai gallu fel ‘darpariaeth Sewell’ yr Alban fel y’i gelwir, lle gallai’r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu mabwysiadu, heb newid, deddfwriaeth a gyflwynwyd yn Lloegr, yn fantais ddefnyddiol ac ymarferol i Gymru yn ein barn ni. O dan y ddarpariaeth hon, byddai’r Cynulliad yn cadw’r swyddogaeth ddatganoledig a’r pwer i "dynnu’n ôl" o ddeddfwriaeth a ddatblygir yn San Steffan pe bai’n cael ei diwygio mewn ffordd a oedd yn ei gwneud yn llai derbyniol i Gymru, wrth iddi gael ei pharatoi ac yn ystod ei hynt drwy’r Senedd. Fodd bynnag, yn enwedig o ran is-ddeddfwriaeth, mae’r rhan fwyaf o ddarpariaethau a drafftiwyd y tu allan i Gymru wedi mynd trwy’r Cynulliad heb eu diwygio ac, yn seiliedig ar brofiad hyd yma, ymddengys fod yr angen i ‘dynnu’n ôl’ yn anghyffredin.
   5. Mae’r Rheoliadau Gwrychoedd, sy’n cael eu diweddaru yn Lloegr, yn enghraifft gyfredol o ble y byddai darpariaeth o’r fath o fudd i Gymru. Mae DEFRA wedi cyfeirio adnoddau staff i ymgynghori ar newidiadau a drafftio diwygiadau, wedi hynny sy’n hollol resymegol, angenrheidiol ac annadleuol. Mae’r broblem a’r ateb bron yr un peth yng Nghymru ac, yn hytrach na defnyddio adnoddau’r Cynulliad i "gysgodi’r" gwaith a wneir mewn mannau eraill, byddai ‘darpariaeth Sewell’ yn galluogi Cymru i gael y buddiannau yn gynt ac mewn ffordd fwy effeithlon.
6. Mae gennym bryderon hefyd ynglyn ag effaith rhai materion nas datganolwyd ar allu’r Cynulliad i gyflawni ei ddyheadau, yn enwedig o ran y ddyletswydd ynglyn â datblygu cynaliadwy – dyletswydd nad yw’n berthnasol i weddill y DU yn yr un ffordd. Mae gan y Cynulliad bolisi ynni clir ond nid oes ganddo’r pwer i wneud penderfyniadau ar brojectau ynni mawr (dros 50 megawat), gan mai’r Adran Masnach a Diwydiant sydd â’r pwerau hyn ar hyn o bryd. Mae’r Cynulliad felly yn atebol i bobl Cymru ond nid oes ganddo’r cyfrifoldeb datganoledig angenrheidiol er mwyn gweithredu ei bolisi yn llawn. Credwn y dylai cyfrifoldeb o’r fath gael ei ddatganoli i’r Cynulliad, gan alluogi’r broses o ddatblygu ynni yn y dyfodol yng Nghymru drwy Gynllun Gofodol Cymru. Mae project fferm wynt Cefn Croes yn enghraifft ddiweddar o ddatblygiad ynni yng Nghymru y penderfynwyd arno gan yr Adran Masnach a Diwydiant ac, fel y saif pethau ar hyn o bryd, penderfynir ar lawer o brojectau eraill o’r fath y tu allan i Gymru yn y dyfodol agos.
Yr Ail Fater: Strwythur a threfniadau gwaith y Cynulliad Cenedlaethol
7.   Mae gennym berthynas waith dda ac agos gyda staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn enwedig yr is-adran sy’n ein noddi (Yr Is-adran Cefn Gwlad) a’r Is-adran Amaethyddiaeth a Materion Gwledig. Croesawn natur gydsyniol y Cynulliad ond rydym yn pryderu nad yw’r broses graffu yn effeithiol bob tro. Cawn, er enghraifft, nad yw sesiynau holi’r Pwyllgorau Pwnc, ar achlysuron, yn ddigon treiddiol neu drylwyr a gellid eu gwella drwy:
  
  • Gwell dealltwriaeth gan y Pwyllgorau Pwnc priodol o’n gwaith. Credwn y dylai Pwyllgorau Pwnc ffurfioli trefniadau sy’n galluogi’r aelodau i gael profiad uniongyrchol o waith CCNC ar ddechrau eu penodiad i Bwyllgorau.
  
  • Rheoli daliadaeth (hyd y gwasanaeth) aelodau’r Pwyllgor drwy Reolau Sefydlog y Cynulliad, er mwyn sicrhau parhad a datblygu arbenigedd personol.
8. Er bod y Cynulliad yn gynyddol fedrus mewn datblygu is-ddeddfwriaeth ac wedi creu momentwm yn y maes hwn, sylwn na roddir digon o gyfle i’r Pwyllgor Pwnc graffu ar y ddeddfwriaeth hon. Gallai hyn, yn ein barn ni, gael ei ddatrys yn rhannol drwy wneud defnydd helaethach o’r weithdrefn a fabwysiadwyd gan y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Materion Gwledig – sef atodi rhestr o is-ddeddfwriaeth arfaethedig i Adroddiad y Gweinidog yn fisol – gan gynnig cyfle i aelodau’r Pwyllgor roi sylwadau ar is-ddeddfwriaeth yn gynnar. Nid yw hyn, fodd bynnag, yn mynd i’r afael â’r broblem a ddaw yn ei sgîl sef y byddai manteisio ar unrhyw gyfle arall i graffu yn rhoi rhagor o bwysau ar amserlenni’r Pwyllgor sydd eisoes yn llawn. Ateb posibl fyddai datblygu is-bwyllgorau craffu sy’n atebol i’r prif bwyllgorau.
Y Trydydd Mater: Y berthynas rhwng y Cynulliad yng Nghaerdydd a’r Senedd yn San Steffan
9. Gallai’r ffordd y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn hyrwyddo deddfwriaeth i agenda San Steffan fod yn gliriach. Teimlwn hefyd y gallai’r cyfyngiad (yn ymarferol) o un darn o ddeddfwriaeth i Gymru yn unig yn Araith y Frenhines fod yn annigonol.
10. Rydym yn pryderu hefyd fod angen i’r Cynulliad gynyddu ei gapasiti i graffu ar ddeddfwriaeth sylfaenol yn effeithiol. Drafftiwyd y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy ar ddechrau oes y Cynulliad pan nad oedd yn gallu rhoi digon o amser i’r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth am resymau amrywiol. O ganlyniad, roedd y Cynulliad yn dibynnu’n drwm ar CCGC i graffu ar y Mesur drafft a chynnig gwelliannau iddo. Efallai na fydd yr arfer presennol o graffu ar ddeddfwriaeth sylfaenol gan y pwyllgor pwnc priodol yn darparu digon o adnoddau ar gyfer y dasg hon.
   11. Er hyn, cawn ein calonogi gan y cynnydd yn rhaglen gwneud is-ddeddfau y Cynulliad yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Pe byddai unrhyw bwerau sylfaenol yn cael eu datganoli, rhaid nodi y byddai angen datblygu’r sgiliau angenrheidiol – yn enwedig drafftio Mesurau ac arbenigedd technegol/gwyddonol – yn sylweddol.
12. Mater cysylltiedig – er nad yw wedi codi yng Nghymru na’r Alban eto – yw’r hyn sy’n digwydd pan fo’r blaid wleidyddol lywodraethol mewn gwlad ddatganoledig yn wahanol i’r llywodraeth yn San Steffan. Credwn fod gan y Comisiwn gyfle i egluro’r graddau y mae cydweithredu presennol o ran deddfwriaeth sylfaenol rhwng y ddau weinyddiaeth yn dibynnu ar agenda wleidyddol a rennir. Mae angen dealltwriaeth drefniadol llawer cliriach, mwy na thebyg, rhwng y ddau ddeddfwrfa gan gynnwys, o’n safbwynt culach ni, egluro gallu’r Pwyllgorau Dethol yn San Steffan i ddwyn y CCNC yng Nghymru i gyfrif neu allu’r CCNC i gyflwyno tystiolaeth sy’n annibynnol ar farn Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Y Pedwerydd Mater: Rôl Llywodraeth y DU ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru
13.  Cyfeirier at ein hymateb o dan y mater cyntaf. Yn ogystal, yn ein barn ni, mae’r ffaith nad oes dull lle y gall y Cynulliad graffu ar waith Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn rheolaidd yn hepgoriad a byddem yn gwahodd y Comisiwn i gynnwys argymhellion er mwyn datrys hyn yn ei adroddiad.
Y Pumed Mater: Cydberthnasau rhwng y Cynulliad a Whitehall
14.   Fel y nodwyd yn gynharach, mae’r rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth a weithredir gennym yn deillio o Ewrop a thrwy ein cydberthnasau gwaith agos gyda’n chwaer-asiantaethau a’r broses o ariannu’r CGN, a chaiff ei gweithredu i safon gyffredin ledled y DU. Fodd bynnag, byddem eto’n cymeradwyo mabwysiadu ‘darpariaeth Sewell’.
Y Chweched Mater: Y cyd-destun ariannol
15.   Ni chynigir unrhyw sylwadau ar y mater hwn heblaw dweud bod yn rhaid i drefniadau ariannol ganiatáu i’r Cynulliad ddelio â’r blaenoriaethau sy’n wynebu Cymru.
Y Seithfed Mater: Ffrydiau ariannu
16.   Ar hyn o bryd, nid yw hwn yn fater mawr i’n sefydliad, oherwydd cawn ein hariannu bron yn gyfan gwbl o’r tu mewn i Gymru. Fodd bynnag, gallai’r sefyllfa hon newid os bydd modiwleiddio cymorth amaethyddol yn cynyddu.
Ebrill 2003