|
 |
| |
PWERAU CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU:
MATERION A CHWESTIYNAU AR GYFER YMGYNGHORIAD
|
|
YMATEB I GOMISIWN RICHARD GAN GYNGOR
CEFN GWLAD CYMRU
|
|
| 1. |
Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) yw cynghorwr
statudol y Llywodraeth ar gynnal harddwch naturiol, bywyd
gwyllt ar cyfle i fwynhaur wlad a dyfroedd
ei glannau. Gydag English Nature a Scottish Natural Heritage,
rydym yn cyflawni ein cyfrifoldebau statudol ehangach
ar gyfer Prydain Fawr ac yn rhyngwladol
trwyr Cydbwyllgor Gwarchod Natur. |
| 2. |
Mae CCGC yn croesawur cyfle i ymateb
i ymgynghoriad Comisiwn Richard. Cyflwynir ein sylwadau
o ddau safbwynt; sef fel asiantaeth weithredol ac ymgynghorol
syn gweithio o fewn y ddeddfwrfa bresennol ac fel
asiantaeth syn delio yn uniongyrchol â Llywodraeth
y Cynulliad, yr Aelodau ar staff. Mae ein hymateb
isod yn dilyn trefn eich dogfen ymgynghorol ond, gan nad
ywr cwestiynau penodol a ofynnir yn aml yn berthnasol
iawn i ni, rydym wedi rhoi sylwadau ar bob un or
prif faterion. Mae hefyd yn bwysig cofio ein bod yn canolbwyntio
ar ddeddfwriaeth amgylcheddol, sydd bellach yn deillio
o Ewrop yn bennaf. |
| 3. |
Mae pwerau CCGC yn deillio yn bennaf o ddeddfwriaeth
San Steffan. Cawn ein hariannu, tua £60m ym mlwyddyn ariannol
2003/04, gan y Cynulliad. Dyrennir tua 2/3 or arian
hwn gan ein noddwr yn y Cynulliad (Yr Is-adran Cefn Gwlad)
ar gyfer ein gwaith treftadaeth naturiol cyffredinol.
Mae 1/3 or arian syn weddill yn dod o dan
yr Is-adran Amaethyddiaeth a Materion Gwledig ac fei
darperir er mwyn gweithredu cynllun amaeth-amgylchedd
blaenllaw Tir Gofal. Mae gennym tua 650 aelodau o staff,
mewn 11 o swyddfeydd ledled Cymru ac rydym yn darparu
gwasanaethau syn gyson yn genedlaethol o fewn cyd-destun
lleol. Ni ywr unig CCNC i Gymru gyfan sydd âi
bencadlys yng Ngogledd Cymru. Rydym yn cefnogi treftadaeth
naturiol Cymru ein tirweddau an morweddau,
cynefinoedd a rhywogaethau drwy: |
|
| |
- ddiogelur enghreifftiau pwysicaf
drwy ddynodiad statudol (Parciau Cenedlaethol; Ardaloedd
o Harddwch Naturiol Eithriadol; tir mynediad; Gwarchodfeydd
Natur Cenedlaethol; Ardaloedd Cadwraeth Arbennig; Meysydd
o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac ati) a rheoli cynaliadwy
parhaus, yn gyffredinol mewn partneriaeth â pherchnogion-ddeiliaid. |
| |
- gwellar ansawdd gyffredinol
drwy reoli cynlluniau cymorth grant a mathau eraill o
gymorth syn galluogi eraill i reolin amgylcheddol-gynaliadwy.
Tir Gofal ywr cynllun helaethaf yn ein portffolio
presennol. |
| |
- ennyn brwdfrydedd pobl Cymru ai
hymwelwyr o ran safon ein hamgylchedd, y llu o gyfleoedd
i fwynhau a phwysigrwydd gofalu amdano ar gyfer cenedlaethaur
dyfodol. Ein prif nod, yn y cyswllt hwn, yw cysylltu pobl
â byd natur. |
|
|
- cynghori pob lefel or llywodraeth
ond ein Cynulliad Cenedlaethol yn arbennig
ar bob agwedd or ased hwn syn bwysig yn economaidd
ac yn gymdeithasol. Trwy weithion agos ân
chwaer-asiantaethau, rydym yn sicrhau bod ein hymagwedd
yn gyson ledled y DU. Trwy ariannur CGN ar y cyd
gallwn ddatblygu safonau darparu cyffredin, er mwyn rhannu
ein hanghenion ymchwilio a datblygu cyffredin, i ddelio
â gwaith morol yn effeithlon ac i fodloni rhwymedigaethau
rhyngwladol y DU. Er bod y ddarpariaeth ledled y DU yn
cyrraedd safonau cyson, mae graddaur ddarpariaeth
i ni fel pob gwlad yn dibynnun helaeth
ar flaenoriaethau amgylcheddol Cymru. |
|
|
| Y Mater Cyntaf: A oes gan y Cynulliad
Cenedlaethol bwerau digonol i ddiwallu anghenion Cymru? |
| 4. |
Yn gyffredinol, oes, ond byddai gallu fel
darpariaeth Sewell yr Alban fel yi gelwir,
lle gallair Cynulliad Cenedlaethol benderfynu mabwysiadu,
heb newid, deddfwriaeth a gyflwynwyd yn Lloegr, yn fantais
ddefnyddiol ac ymarferol i Gymru yn ein barn ni. O dan
y ddarpariaeth hon, byddair Cynulliad yn cadwr
swyddogaeth ddatganoledig ar pwer i "dynnun
ôl" o ddeddfwriaeth a ddatblygir yn San Steffan pe bain
cael ei diwygio mewn ffordd a oedd yn ei gwneud yn llai
derbyniol i Gymru, wrth iddi gael ei pharatoi ac yn ystod
ei hynt drwyr Senedd. Fodd bynnag, yn enwedig o
ran is-ddeddfwriaeth, maer rhan fwyaf o ddarpariaethau
a drafftiwyd y tu allan i Gymru wedi mynd trwyr
Cynulliad heb eu diwygio ac, yn seiliedig ar brofiad hyd
yma, ymddengys fod yr angen i dynnun ôl
yn anghyffredin. |
| 5. |
Maer Rheoliadau Gwrychoedd, syn
cael eu diweddaru yn Lloegr, yn enghraifft gyfredol o
ble y byddai darpariaeth or fath o fudd i Gymru.
Mae DEFRA wedi cyfeirio adnoddau staff i ymgynghori ar
newidiadau a drafftio diwygiadau, wedi hynny syn
hollol resymegol, angenrheidiol ac annadleuol. Maer
broblem ar ateb bron yr un peth yng Nghymru ac,
yn hytrach na defnyddio adnoddaur Cynulliad i "gysgodir"
gwaith a wneir mewn mannau eraill, byddai darpariaeth
Sewell yn galluogi Cymru i gael y buddiannau yn
gynt ac mewn ffordd fwy effeithlon. |
| 6. |
Mae gennym bryderon hefyd ynglyn ag effaith
rhai materion nas datganolwyd ar allur Cynulliad
i gyflawni ei ddyheadau, yn enwedig o ran y ddyletswydd
ynglyn â datblygu cynaliadwy dyletswydd nad ywn
berthnasol i weddill y DU yn yr un ffordd. Mae gan y Cynulliad
bolisi ynni clir ond nid oes ganddor pwer i wneud
penderfyniadau ar brojectau ynni mawr (dros 50 megawat),
gan mair Adran Masnach a Diwydiant sydd âr
pwerau hyn ar hyn o bryd. Maer Cynulliad felly yn
atebol i bobl Cymru ond nid oes ganddor cyfrifoldeb
datganoledig angenrheidiol er mwyn gweithredu ei bolisi
yn llawn. Credwn y dylai cyfrifoldeb or fath gael
ei ddatganoli ir Cynulliad, gan alluogir broses
o ddatblygu ynni yn y dyfodol yng Nghymru drwy Gynllun
Gofodol Cymru. Mae project fferm wynt Cefn Croes yn enghraifft
ddiweddar o ddatblygiad ynni yng Nghymru y penderfynwyd
arno gan yr Adran Masnach a Diwydiant ac, fel y saif pethau
ar hyn o bryd, penderfynir ar lawer o brojectau eraill
or fath y tu allan i Gymru yn y dyfodol agos. |
|
|
| Yr Ail Fater: Strwythur a threfniadau
gwaith y Cynulliad Cenedlaethol |
| 7. |
Mae gennym berthynas waith dda ac agos gyda
staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn enwedig yr is-adran
syn ein noddi (Yr Is-adran Cefn Gwlad) ar
Is-adran Amaethyddiaeth a Materion Gwledig. Croesawn natur
gydsyniol y Cynulliad ond rydym yn pryderu nad ywr
broses graffu yn effeithiol bob tro. Cawn, er enghraifft,
nad yw sesiynau holir Pwyllgorau Pwnc, ar achlysuron,
yn ddigon treiddiol neu drylwyr a gellid eu gwella drwy: |
| |
- Gwell dealltwriaeth gan y Pwyllgorau Pwnc priodol
on gwaith. Credwn y dylai Pwyllgorau Pwnc ffurfioli
trefniadau syn galluogir aelodau i gael
profiad uniongyrchol o waith CCNC ar ddechrau eu penodiad
i Bwyllgorau.
|
| |
- Rheoli daliadaeth (hyd y gwasanaeth) aelodaur
Pwyllgor drwy Reolau Sefydlog y Cynulliad, er mwyn
sicrhau parhad a datblygu arbenigedd personol.
|
| 8. |
Er bod y Cynulliad yn gynyddol fedrus mewn
datblygu is-ddeddfwriaeth ac wedi creu momentwm
yn y maes hwn, sylwn na roddir digon o gyfle ir
Pwyllgor Pwnc graffu ar y ddeddfwriaeth hon. Gallai hyn,
yn ein barn ni, gael ei ddatrys yn rhannol drwy wneud
defnydd helaethach or weithdrefn a fabwysiadwyd
gan y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Materion Gwledig
sef atodi rhestr o is-ddeddfwriaeth arfaethedig i Adroddiad
y Gweinidog yn fisol gan gynnig cyfle i aelodaur
Pwyllgor roi sylwadau ar is-ddeddfwriaeth yn gynnar. Nid
yw hyn, fodd bynnag, yn mynd ir afael âr broblem
a ddaw yn ei sgîl sef y byddai manteisio ar unrhyw gyfle
arall i graffu yn rhoi rhagor o bwysau ar amserlennir
Pwyllgor sydd eisoes yn llawn. Ateb posibl fyddai datblygu
is-bwyllgorau craffu syn atebol ir prif bwyllgorau. |
|
|
| Y Trydydd Mater: Y berthynas rhwng y
Cynulliad yng Nghaerdydd ar Senedd yn San Steffan |
| 9. |
Gallair ffordd y maer Cynulliad
Cenedlaethol yn hyrwyddo deddfwriaeth i agenda San Steffan
fod yn gliriach. Teimlwn hefyd y gallair cyfyngiad
(yn ymarferol) o un darn o ddeddfwriaeth i Gymru yn unig
yn Araith y Frenhines fod yn annigonol. |
| 10. |
Rydym yn pryderu hefyd fod angen ir
Cynulliad gynyddu ei gapasiti i graffu ar ddeddfwriaeth
sylfaenol yn effeithiol. Drafftiwyd y Ddeddf Cefn Gwlad
a Hawliau Tramwy ar ddechrau oes y Cynulliad pan nad oedd
yn gallu rhoi digon o amser ir darn pwysig hwn o
ddeddfwriaeth am resymau amrywiol. O ganlyniad, roedd
y Cynulliad yn dibynnun drwm ar CCGC i graffu ar
y Mesur drafft a chynnig gwelliannau iddo. Efallai na
fydd yr arfer presennol o graffu ar ddeddfwriaeth sylfaenol
gan y pwyllgor pwnc priodol yn darparu digon o adnoddau
ar gyfer y dasg hon. |
| 11. |
Er hyn, cawn ein calonogi gan
y cynnydd yn rhaglen gwneud is-ddeddfau y Cynulliad yn
ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Pe byddai unrhyw bwerau
sylfaenol yn cael eu datganoli, rhaid nodi y byddai angen
datblygur sgiliau angenrheidiol yn enwedig
drafftio Mesurau ac arbenigedd technegol/gwyddonol
yn sylweddol. |
| 12. |
Mater cysylltiedig er nad yw wedi
codi yng Nghymru nar Alban eto ywr
hyn syn digwydd pan for blaid wleidyddol lywodraethol
mewn gwlad ddatganoledig yn wahanol ir llywodraeth
yn San Steffan. Credwn fod gan y Comisiwn gyfle i egluror
graddau y mae cydweithredu presennol o ran deddfwriaeth
sylfaenol rhwng y ddau weinyddiaeth yn dibynnu ar agenda
wleidyddol a rennir. Mae angen dealltwriaeth drefniadol
llawer cliriach, mwy na thebyg, rhwng y ddau ddeddfwrfa
gan gynnwys, on safbwynt culach ni, egluro gallur
Pwyllgorau Dethol yn San Steffan i ddwyn y CCNC yng Nghymru
i gyfrif neu allur CCNC i gyflwyno tystiolaeth syn
annibynnol ar farn Llywodraeth Cynulliad Cymru. |
|
|
| Y Pedwerydd Mater: Rôl Llywodraeth y
DU ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru |
| 13. |
Cyfeirier at ein hymateb o dan y mater cyntaf.
Yn ogystal, yn ein barn ni, maer ffaith nad oes
dull lle y gall y Cynulliad graffu ar waith Ysgrifennydd
Gwladol Cymru yn rheolaidd yn hepgoriad a byddem yn gwahodd
y Comisiwn i gynnwys argymhellion er mwyn datrys hyn yn
ei adroddiad. |
|
|
| Y Pumed Mater: Cydberthnasau rhwng y
Cynulliad a Whitehall |
| 14. |
Fel y nodwyd yn gynharach, maer rhan
fwyaf or ddeddfwriaeth a weithredir gennym yn deillio
o Ewrop a thrwy ein cydberthnasau gwaith agos gydan
chwaer-asiantaethau ar broses o ariannur CGN,
a chaiff ei gweithredu i safon gyffredin ledled y DU.
Fodd bynnag, byddem eton cymeradwyo mabwysiadu darpariaeth
Sewell. |
|
|
| Y Chweched Mater: Y cyd-destun ariannol |
| 15. |
Ni chynigir unrhyw sylwadau ar y mater hwn
heblaw dweud bod yn rhaid i drefniadau ariannol ganiatáu
ir Cynulliad ddelio âr blaenoriaethau syn
wynebu Cymru. |
|
|
| Y Seithfed Mater: Ffrydiau
ariannu |
| 16. |
Ar hyn o bryd, nid yw hwn yn fater mawr in
sefydliad, oherwydd cawn ein hariannu bron yn gyfan gwbl
or tu mewn i Gymru. Fodd bynnag, gallair sefyllfa
hon newid os bydd modiwleiddio cymorth amaethyddol yn
cynyddu. |
|
Ebrill 2003 |
|
|
|