Adran yr Ysgrifennydd a Chyfreithiwr
Secretary and Solicitor's Department

Ysgrifennydd a Chyfreithiwr/Secretary and Solicitor
Alwyn Ellis Roberts

Gofynnwch am/Ask for: Mrs Dilys A Phillips
(01286) 679015

Ein Cyf/Our Ref: POL/4/29
Eich Cyf/Your Ref:

image2.jpg (13321 bytes)

25 March 2003

Ysgrifennydd y Comisiwn
Comisiwn Richard
Ty Caradog
1-6 Plas Sant Andreas
CAERDYDD
CF10 3BE
Annwyl Syr/Fadam

Ymgynghoriad ar bwerau Cynulfad Cenedlaethol Cymru

Ysgrifennaf mewn ymateb i wahoddiad y Comisiwn i gynnig sylwadau a thystiolaeth i'w hystyried fel rhan o'i gylch gorchwyl i bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r sylwadau hyn yn cynrychioli safbwynt Cyngor Gwynedd.
Croesewir sefydlu'r Cynulliad fel cam bositif ymlaen tuag at greu trefn mwy ddemocrataidd yng Nghymru. Dengys ein profiad hyd yma fod gwell perthynas a deialog mwy agored yn gyffredinol rhwng llywodraeth leol yng Nghymru a'r Cynulliad nag a geir rhwng awdurdodau Lloegr ac adrannau'r Llywodraeth yn Llundain, a gwelir hyn fel datblygiad sydd er budd pobl Cymru. Serch hynny, gelfr gwella a chryfhau cryn dipyn ar y trefniadau presennol, yn arbennig ar bwerau'r Cynulliad a' i strwythur.
Digonolrwydd y pwerau
Mae gallu'r Cynulliad i wasanaethu pobl Cymru yn cael ei lesteirio gan y dryswch ynglyn a'i bwerau a'r cyfyngiad sydd arnynt. Mae dryswch yn codi mewn sawl maes. Er enghraifft bu cryn ansicrwydd ynglyn a phwerau'r Cynulliad i weithredu yn ystod yr argyfwng clwy traed a genau Ile 'roedd y cyfrifoldeb yn gorwedd yn ddeuol ar y Cynulliad ar y naill law a DEFRA ar y Haw arall. Nid oedd y cyd-ddealltwriaeth rhwng y ddau gystal ag y gallasai fod. Yn yr un modd mae ansicrwydd am bwerau'r Cynulliad mewn meysydd fel Canllawiau Polisi Cymru yn arwain at sefyllfa Ile mai'r cyfan a geir yw ail-adroddiad o ganllawiau Lloegr, sefyllfa o ddiffyg g-,veithredu i bob pwrpas. Barn y Cyngor yw y dylid dileu'r math hyn_ o ddryswch a chael rhaniad cyfrifoldebau clir rhwng y Cynulliad a Whitehall.
Mae'r cyfyngiad ar bwerau'r Cynulliad yn golygu bod raid iddo weithredu ei gyfrifoldebau oddi fewn i fframwaith bolisi nad yw'n gallu ei newid; mae hyn yn aml yn lyffethair sylweddol ar ei allu i weithredu. Enghraifft o hyn yw'r trefniadau ar gyfer trafnidiaeth integredig. Ar hyn o bryd nid yw Awdurdod Strategol y Rheilffyrdd (ASRh) yn atebol i'r Cynulliad ac nid oes gan y Cynulliad unrhyw reolaeth uniongyrchol ar arian yr ASRh. Tra fod y Cynulliad felly yn gyfrifol am gyflwyno sustem trafniadiaeth integredig nid oes ganddo unrhyw gyfrifoldeb na rheolaeth dros un o'r prif gynranwyr. Er mwyn cyrraedd y nod o sustem trafnidiaeth wir integredig mae angen i'r llyffethair hwn gael ei godi a chyflwyno trefn ariannu integredig ar gyfer trafnidiaeth yng Ngymru.