| Annwyl Syr/Fadam |
Ymgynghoriad ar bwerau Cynulfad Cenedlaethol Cymru
|
| Ysgrifennaf mewn ymateb i wahoddiad y Comisiwn i gynnig
sylwadau a thystiolaeth i'w hystyried fel rhan o'i gylch
gorchwyl i bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r
sylwadau hyn yn cynrychioli safbwynt Cyngor Gwynedd. |
| Croesewir sefydlu'r Cynulliad fel cam bositif ymlaen
tuag at greu trefn mwy ddemocrataidd yng Nghymru. Dengys
ein profiad hyd yma fod gwell perthynas a deialog mwy
agored yn gyffredinol rhwng llywodraeth leol yng Nghymru
a'r Cynulliad nag a geir rhwng awdurdodau Lloegr ac adrannau'r
Llywodraeth yn Llundain, a gwelir hyn fel datblygiad sydd
er budd pobl Cymru. Serch hynny, gelfr gwella a chryfhau
cryn dipyn ar y trefniadau presennol, yn arbennig ar bwerau'r
Cynulliad a' i strwythur. |
| Digonolrwydd y pwerau |
| Mae gallu'r Cynulliad i wasanaethu pobl Cymru yn cael
ei lesteirio gan y dryswch ynglyn a'i bwerau a'r cyfyngiad
sydd arnynt. Mae dryswch yn codi mewn sawl maes. Er enghraifft
bu cryn ansicrwydd ynglyn a phwerau'r Cynulliad i weithredu
yn ystod yr argyfwng clwy traed a genau Ile 'roedd y cyfrifoldeb
yn gorwedd yn ddeuol ar y Cynulliad ar y naill law a DEFRA
ar y Haw arall. Nid oedd y cyd-ddealltwriaeth rhwng y
ddau gystal ag y gallasai fod. Yn yr un modd mae ansicrwydd
am bwerau'r Cynulliad mewn meysydd fel Canllawiau Polisi
Cymru yn arwain at sefyllfa Ile mai'r cyfan a geir yw
ail-adroddiad o ganllawiau Lloegr, sefyllfa o ddiffyg
g-,veithredu i bob pwrpas. Barn y Cyngor yw y dylid dileu'r
math hyn_ o ddryswch a chael rhaniad cyfrifoldebau clir
rhwng y Cynulliad a Whitehall. |
| Mae'r cyfyngiad ar bwerau'r Cynulliad yn golygu bod
raid iddo weithredu ei gyfrifoldebau oddi fewn i fframwaith
bolisi nad yw'n gallu ei newid; mae hyn yn aml yn lyffethair
sylweddol ar ei allu i weithredu. Enghraifft o hyn yw'r
trefniadau ar gyfer trafnidiaeth integredig. Ar hyn o
bryd nid yw Awdurdod Strategol y Rheilffyrdd (ASRh) yn
atebol i'r Cynulliad ac nid oes gan y Cynulliad unrhyw
reolaeth uniongyrchol ar arian yr ASRh. Tra fod y Cynulliad
felly yn gyfrifol am gyflwyno sustem trafniadiaeth integredig
nid oes ganddo unrhyw gyfrifoldeb na rheolaeth dros un
o'r prif gynranwyr. Er mwyn cyrraedd y nod o sustem trafnidiaeth
wir integredig mae angen i'r llyffethair hwn gael ei godi
a chyflwyno trefn ariannu integredig ar gyfer trafnidiaeth
yng Ngymru. |
|
|