Sylwadau ysgrifenedig i’r Comisiwn Richard

Gan Gerallt Huws (Aelod o’r cyhoedd)

Dyddiad: 26.08.03

 
PWERAU
Wrth sefydlu ‘Y Cynulliad’, y disgwyliad oedd gwelliannau mawr yn safonau byw a buddiannau personol trigolion Cymru. Yn anffodus, mae’r Cynulliad wedi methu ei phobl! Ymhellach, nid oes yna unrhyw arwydd fod y sefyllfa druenus hon yn mynd i newid yn y dyfodol.
Yn wir, dynododd Mr Rhodri Morgan mewn araith ym Mhabell y Cymdeithasau, Meifod (5/8/03), bod ei weinyddiaeth wedi cyflawni yn nhymor cyntaf y Cynulliad:
  • Llefrith am ddim i blant;
  • Presgripsiwn am ddim i bobl ifanc o dan 25;
  • Mynediad am ddim i orielau ac amgueddfeydd;
  • Caniatáu i’r henoed i deithio am ddim ar fysiau.
Dim llawer i ddangos am bedair blynedd o fodolaeth.
Credaf ar hyn o bryd, nad oes gan y Cynulliad y wir bwer i wella safonau byw trigolion Cymru h.y. nid yw yn meddu ar bwerau Primaidd/Deddfwriaeth sydd gallu chwyldroi a chryfhau ei heconomi a chymdeithas, er mwyn lles Cymru a’i phobl dros y tymor hir.
Yn wir, mae rhaid ar fyrder trosglwyddo pwerau hynny i’r Cynulliad sy’n delio yn uniongyrchol â’i heconomi h.y. polisïau ariannol a chyllidol. Oherwydd, dyma’r polisïau mewn gwirionedd sy’n creu wir gyfoeth, gwaith a allai o ganlyniad gynyddu’r ‘Gynnyrch mewnol Crynswth’ ein gwlad. Yn wir, os ydi Cymru am ffynnu yn economaidd ac yn ddiwylliannol, mae rhaid i’r Cynulliad feddu’n fwy ar yr awdurdod/ cyfrifoldebau hyn.
(Mae rhaid cofio nad yw sefyllfa ac amgylchiadau economaidd/cymdeithasol Cymru a gwledydd eraill Prydain yn gyffelyb â’i gilydd).
Yn ogystal, gyda’r pwerau eilaidd sy’n bodoli ar hyn o bryd, credaf nad oes gan y Cynulliad yr hawl i benderfynu a gweithredu, polisïau ar gyfer pobl/ buddiannau Cymru ar faterion fel enghraifft, ‘darlledu a thelathrebu’:
  • Darlledu’n ddigidol – Oherwydd yr anghytundeb rhwng BBC a Sky, ni fydd llawer o wylwyr yng Nghymru yn medru derbyn sianelau ‘free to view’ cyn bo hir, onibai eu bod yn tanysgrifio i becynnau drud y cwmni masnachol Sky (Tra bod y sianelau hyn, yn rhad ac ar ddim yng ngweddill gwledydd Prydain, gyda erial arferol).

Yn ychwanegol, nid yw system/gwasanaeth y BBC ‘Freeview’ ar gael yma yng ngogledd gorllewin Cymru, felly eto nid yw’n bosib i dderbyn sianelau ‘free to view’.

Gyda’r enghreifftiau uchod, llywodraeth San Steffan sy’n rheoli/awdurdodi’r digwyddiadau hyn – nid oes gan y Cynulliad mewn gwirionedd, unrhyw ddylanwad/grym uniongyrchol, ac felly mae’n ddiymadferth .

  • Telathrebu a.y.y.b.

Gyda newidiadau yn y byd telathrebu yn ddiweddar h.y. fel y gwelir gyda ‘OFTEL’yn annog mwy o gystadleuaeth gyda gwasanaeth‘Cynnyrch Cyfeiriadur’. Nid oedd gan y Cynulliad Dim unrhyw bwer i gyfarwyddo ‘OFTEL’ i sicrhau bod y cwmnïau newydd hyn yn cynnig y gwasanaeth hwn hefyd yn y Gymraeg.

Yn ychwanegol i’r rhestr hon, gallwch ychwanegu: mudiadau/meysydd cludiant, trydan, nwy, rheilffyrdd a.y.y.b.

h.y. Dim awdurdod uniongyrchol/ pwer gan yr Cynulliad i ddylanwadu’r mudiadau hyn, ar wahân i newidiadau arwynebol a dibwys, ac felly ni ellir gwarchod buddiannau/ hawliau/ lles pobl Cymru.

Hefyd, ynglyn â phwerau cyfredol y Cynulliad, mae rhaid ystyried os ydynt yn cael eu gweithredu’n deg?
Oherwydd, credaf eu bod yn cael eu defnyddio i hwyluso polisïau sy’n ffafrio rhai etholwyr/ardaloedd a ddynodwyd yn benodol gan y Blaid Lafur, ar draul y gweddill o Gymru.
h.y. Yn ffafrio rhanbarthau y De/ De Dwyreiniol a’r ‘Cymoedd’;
Yn wir, fel yr ysgrifennodd Martin Shipton yn y ‘Western Mail’
"Labour also won because of factors like the hugely popular free bus-pass scheme for pensioners and its promises like free prescriptions and free breakfasts for primary – schoolchildren that played particularly well with low-income families in key target seats". (Ffynhonnell: W.Mail Tudalen 1 – 3/5/2003)
Er hynny, beth sy’n warthus yw’r ffaith fod gan y Cynulliad rhai pwerau a ellir eu defnyddio i hyrwyddo buddiannau trigolion Cymru.
e.e. Rheolaeth dros gynllunio yn y farchnad dai, i sicrhau ‘tai sy’n fforddiadwy’ i bobl ifanc yng nghefn gwlad/ardaloedd Cymreig, gan rwystro rhai bobl cyfoethog o du allan i brynu ail gartrefi/ tai haf.
Yn wir, deallaf fod amryw o awdurdodau gwledig yn Lloegr, yn gweithredu y polisïau positif cyffelyb hyn yn llwyddiannus e.e. Cernyw, Ardal y Llynnoedd a ‘New Fforest’.
Yn anffodus, mae’r Cynulliad wedi gwrthod cymeradwyo y fath gynllun cyffelyb gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro.
Yn ychwanegol, deallaf nad oes arian ychwanegol wedi cael ei neilltuo gan y Cynulliad ar gyfer y ‘Cynllun Cymorth Prynu’, sy’n cynnig benthyciadau i deuluoedd ar incwm isel i’w helpu i brynu ty yn eu hardal eu hunain.
Yn fwyfwy, gwelir y Cynulliad a’r garfan sydd mewn grym yn defnyddio ei phwerau i hybu buddiannau ei chefnogwyr ar draul y gweddill.
  • Cae ysgolion yn ardaloedd gwledig/Cymreig eu naws.
  • Gwrthod cefnogi yr Iaith Gymraeg yn ymarferol ac yn wleidyddol.
  • Gwrthod hybu a chefnogi addysg/cyfundrefn dwy-ieithog yng Nghymru yn ariannol.
  • Diffyg ymroddiad ac ymdrech i ddenu/cadw diwydiannau a sefydlu busnesion cynhenid y tu allan i Forgannwg a Gwent.
O weld y Gymraeg/y diwylliant a’r Fro Gymreig yn marw, a’r mewnfudwyr yn symud i mewn o Gaerdydd a llefydd eraill ym Mhrydain, gwelir o ganlyniad y Blaid Lafur yn cryfhau ei bwer a grym o fewn y Cynulliad.
Yn wir, ymatebodd Arweinydd y Cynulliad ym Meifod i’r feirniadaeth gan rai o aelodau y mudiad ‘Cymuned’ i bolisïau y Cynulliad tua’r Iaith Gymraeg a materion Cymreig:
"Ychydig o bobl oedden nhw ac mae ganddyn nhw flaenoriaethau gwahanol i’r llywodraeth"
Mae rhaid defnyddio pwerau y Cynulliad yn deg/cyfiawn, er mwyn lles trigolion Cymru i gyd, ac nid ar gyfer un garfan benodol o etholwyr/cefnogwyr.
Wrth sôn am weithredu pwerau ’rwyf yn bryderus am ddylanwad gref sydd gan y Blaid Lafur yn San Steffan ar y Blaid Lafur yma yng Nghymru. Oherwydd, gwelir polisïau cyffelyb yn cael eu mabwysiadu a’u gweithredu yn gyson o fewn yr un cyfnod o amser penodol. Oes yna bwysau i gyd-ymffurfio o Lundain?  Hefyd, rhaid ystyried dylanwad/pwer y Gwasanaeth Sifil yn Llundain ar eu cyfoedion yma yng Nghymru. Ydi Llundain eisiau ‘Datganoli’ i lwyddo?
TREFN ETHOLIADOL
Mae’r drefn bresennol o gynrychiolaeth gyfrannol i’w croesawu, oherwydd y posibilrwydd gydag unrhyw opsiwn arall, o weld fel y cyfryw y blaid sydd mewn grym, yn rheoli yn ddi-derfyn ac o bosib yn gam –ddefnyddio ei bwer yn wahaniaethol.
Serch hynny, ymddengys fod y system etholedig yn yr Alban i’w weld yn cynrychioli yr etholaeth mewn ffordd sy’n fwy hollgynhwysol a chyfiawn.
Hefyd, hoffwn weld newid mewn agwedd rhai arweinyddion y Cynulliad i’r broblem o ‘bleidlais isel’ mewn etholiad. Oherwydd, yn ystod yr etholiad i’r Cynulliad ym mis Ebrill 2003, gofynnwyd cwestiwn i arweinydd y Blaid Lafur a fydd ef yn poeni os nad fydd etholwyr yn pleidleisio yn yr Etholiad? Ei ateb oedd, popeth yn iawn os oedd hynny yn golygu fod ei blaid ef yn cael ei ail-ethol i lywodraethu eto.
Agwedd siomedig iawn, wrth i ni geisio hyrwyddo democratiaeth yma yng Nghymru.
Yn ddiddorol iawn yn dilyn yr etholiad hwn, wrth geisio egluro pam na phleidleisiodd nifer o bobl yn yr etholiad, fe ddywedodd:
"Mae pobl yn meddwl eu bod nhw’n ethol pwyllgor ymgynghorol yn hytrach na llywodraeth" (Ffynhonnell: ‘BBC Arlein – 5/08/03)
Bydd nifer o ddinasyddion Cymru yn cytuno â’r farn hon Mr. Rhodri Morgan.
Credaf hefyd dylid mwy o aelodau’r Cynulliad fynychu cyfarfodydd ‘rhanbarthol’ yn amlach. Yn wir, deallaf fod presenoldeb rhai aelodau yn y gorffennol wedi bod yn warthus.
I ddiweddu, dylid Cymru croesawu a diogelu’r Cynulliad fel sefydliad sy’n diogelu ein buddiannau a’n dyfodol. Serch hynny, yn anffodus, fel y dywedais eisoes, mae hi wedi methu Cymru, oherwydd nad oes gan hi y pwerau/awdurdod digonol a phriodol i gyflawni ei hamcanion . Hefyd, mae’r pwerau gwan sydd gan y Cynlluniad heb gael eu gweithredu/ddefnyddio er mwyn lles Gymry cyfan
Gobeithio y gwnaiff argymhellion ‘Comisiwn Richard’ newid hyn.
Gerallt Huws