Ymateb oddi wrth Mentrau Iaith Cymru
Atodiadau heb eu hargraffu

‘Y Gymraeg a Deddfu’

Mentrau Iaith Cymru
Corff cenedlaethol yw Mentrau Iaith Cymru (MIC) sydd yn darparu cyngor a chefnogaeth i’r Mentrau Iaith lleol.  Erbyn hyn mae yna rhwydwaith genedlaethol o 25 o Fentrau Iaith (sirol gan amlaf) ar draws y wlad sy’n ceisio hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg. Gwneir hyn mewn ystod o ffyrdd gwahanol gan ddibynnu ar strategaeth unigol pob Menter Iaith.
Yn sylfaenol, mae’r Mentrau Iaith yn cael eu cyllido gan nifer o gronfeydd gwahanol, yn amrywio o ardal i ardal. Mae’r cyllidwyr yn cynnwys Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cyngor y Celfyddydau, Bwrdd Datblygu Cymru, Cynghorau Sir, y Parciau Cenedlaethol, y Loteri Genedlaethol a Chronfeydd Strwythurol Ewrop.
Oherwydd sefyllfa unigryw y cyrff mae MIC yn eu cynrychioli a’r dylanwad sydd ganddynt ar eu hardaloedd, mae’n arbennig o briodol fod MIC yn cael y cyfle i gyflwyno tystiolaeth i’r Comisiwn hwn. Mae pob Menter Iaith yn cael eu sefydlu gan bwyllgor o wirfoddolwyr lleol, sydd yn gyfrifol am weithrediad sylfaenol ei menter lleol. Mae’r pwyllgorau yma yn bwydo mewn i bwyllgor staff MIC yn ogystal a pwyllgor i wirfoddolwyr lleol er mwyn cael rhannu ymarfer da a syniadau.
Yr Iaith Gymraeg a Deddfu.
Cred MIC fod tystiolaeth bendant ar gael fod deddfu yn gallu dylanwadu ar iechyd iaith - boed hynny er da neu er drwg. Yn ôl Cyfrifiad 2001 mae hyd at 23.5% o bobl Cymru yn medru’r iaith Gymraeg. Er fod cynnydd wedi bod yn niferoedd siaradwyr Cymraeg, mae’r Gymraeg yn dal i fod yn iaith leiafrifol yng Nghymru. Wrth ystyried pam mae’r Gymraeg yn iaith leiafrifol mae modd cysylltu’r rheswm gyda deddfau sydd wedi dwys newid agweddau pobl tuag at yr iaith Gymraeg. Efallai fod deddfau mwy diweddar yn dystiolaeth o’r effaith gadarnhaol sy’n bosibl ei gael wrth ddeddfu o blaid y Gymraeg.
Y Ddeddf Uno 1536
"No person who uses the Welsh speech or language shall have or enjoy any manner of office or fees within the realm of England, Wales or other of the Kings Dominions".
Arweiniodd hyn at ddileu y Gymraeg fel iaith llywodraethol, cyfreithiol, gwaith a masnach.
Y Ddeddf Addysg 1870
Yn dilyn adroddiad ar addysg yng Nghymru yn 1847 pasiwyd Deddf Addysg yn 1870. Er nad oedd sôn am y Gymraeg yn y Ddeddf hon roedd agwedd nifer o’r "Board Schools" newydd â sefydlwyd gan y Ddeddf yn adlewyrchu canfyddiadau’r arolwg sef:-
"The Welsh Language is a vast drawback to Wales and a manifold barrier to the moral progress and commercial prosperity of the people……It is not easy to over-estimate its evil effects".
Arweiniodd hyn at greu’r ‘Welsh Not’ a gwanhau y Gymraeg fel iaith addysgol ffurfiol .
Y Ddeddf Llysoedd 1945
Caniatáu defnydd o’r Gymraeg yn y llysoedd.
Deddf yr Iaith Gymraeg 1967
Rhoi’r hawl i awdurdodau lleol i ddefnyddio’r Gymraeg.
Y Ddeddf Darlledu 1980/81
Sefydlu Sianel Deledu Gymraegi Gymru
Deddf Iaith 1993
Gorfodi’r sector cyhoeddus i ddarparu lefel o wasanaeth dwyieithog i’r cyhoedd.
Ddeddf Addysg 1988
Gwneud y Gymraeg yn orfodol fel pwnc craidd yn ysgolion Cymru hyd at 16 oed.
Deddf Llywodraeth Cymru 1997
Arwain at greu y Cynulliad Cenedlaethol a wnaeth gynnal arolwg o’r iaith Gymraeg am y tro cyntaf yn ein hanes. Arweiniodd hyn at adroddiad gan y Pwyllgor Iaith a Diwylliant yn dwyn y teitl Ein Hiaith:Ei Dyfodol ac yn ddiweddarach Iaith Pawb, sef Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru Ddwyieithog
Y Cynulliad, y Gymraeg a Deddfu
Cred Mentrau Iaith Cymru ei bod yn fater o ddemocratiaeth sylfaenol fod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael yr hawl i ddeddfu ar faterion sydd yn ymwneud â’r Gymraeg. Oherwydd fod yr iaith Gymraeg yn unigryw i Gymru mae’n hanfodol fod penderfyniadau sydd yn ei heffeithio yn cael eu gwneud gan bobl Cymru.
Gan fod polisïau o bob math yn effeithio ar y Gymraeg megis addysg, cynllunio a datblygu economaidd, nid yw deddfu ar y Gymraeg yn fater o ddeddfu mewn gwagle. I’r perwyl hwn mae’n debyg y bydd angen ymestyn grym y Cynulliad i allu deddfu mewn sawl maes arall yn ogystal.
Dylai unrhyw ddeddfwriaeth newydd sy’n ymwneud â’r Gymraeg ddiogelu hawl siaradwyr Cymraeg i allu byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg pe dymunent, boed hynny trwy ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus (megis addysg a iechyd) a gwasanaethau yn y sector preifat. Dylai deddfau hefyd gael eu defnyddio i amddiffyn cymunedau Cymraeg eu hiaith i fodoli yn wyneb bygythiadau gan rymoedd y farchnad.
I sicrhau hyn, dylid cydnabod y Gymraeg a’r Saesneg fel ieithoedd swyddogol Cymru a’r Gymraeg fel iaith frodorol Cymru, fel rhan o unrhyw ddeddfwriaeth newydd.
Ceir esiampl o fframwaith cyfreithiol o Gatalonia. Mae’r iaith Catalan yn cael ei diffinio gan Gyfansoddiad 1978 Sbaen a Deddf Ymreolaeth Catalonia:-
"Article 3 of the Statute of Autonomy states "1. Catalan is Catalonia's own language. 2. Catalan is the official language of Catalonia, as is Castilian, which is official throughout Spain. 3. The Generalitat will guarantee the normal and official use of both languages, will take the appropriate measures in order to ensure that they are learnt and will create the conditions which will allow them to attain full equality with respect to the rights and duties of the citizens of Catalonia. 4. The Aranese tongue shall be taught and shall be the object of special respect and protection".
Nodyn Technegol 21 (Cymru)
Er y bydd angen deddfu cynradd i sicrhau nifer o ofynion, credwn fod modd i’r Cynulliad gwblhau rhai amcanion trwy Nodyn Technegol 21(Cymru).
Credwn fod modd i’r Cynulliad allu dylanwadu ar arwyddion allanol busnesau wrth ddiwygio Nodyn Technegol 21, er mwyn rhoi arweiniad eglur i Gynghorau Sir fod ganddynt yr hawl i orfodi unrhyw fusnes newydd i osod arwyddion dwyieithog er mwyn cael hawl cynllunio.
Mewn meysydd eraill megis cynllunio dylai’r Cynulliad orfodi "asesiadau ieithyddol" ar unrhyw ddatblygiadau er mwyn ystyried ei oblygiadau ar y Gymraeg. Nid yw hyn yn rhywbeth anghyffredin a gellid defnyddio’r ffaith bod nifer o geisiadau cynllunio yn gorfod cael asesiad amgylcheddol fel cynsail. Yn ddelfrydol buasai modd i’r Cynghorau Sir gydweithio gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg a’r Mentrau Iaith i weinyddu asesiadau o’r math, er mwyn ystyried effaith datblygiad penodol ar lefel gymunedol a Chenedlaethol gan ystyried fod Cymru yn wlad dwyieithog.
Y Ddeddf Iaith Bresennol
Heb os mae Deddf yr Iaith Gymraeg, 1993 wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r Gymraeg sydd yn golygu erbyn hyn bod yr iaith yn fwy gweledol nag erioed o’r blaen. Ar ben hyn mae’r Ddeddf wedi ymestyn hawliau siaradwyr Cymraeg i allu defnyddio eu hiaith pan yn delio gyda’r sector cyhoeddus. Ceir sgîl effeithiau pwysig eraill hefyd trwy greu cyflogaeth cyfrwng Cymraeg sy’n rhoi gwerth economaidd i’r Gymraeg sydd yn ei dro yn lleddfu effeithiau diboblogi a mudo o Gymru.
Da o beth yw deall fod y Ddeddf bresennol am gael ei diwygio i gynnwys y sector cyfleustodau. Gall hyn ond ymestyn y dylanwad adeiladol ar y cyrff hyn gan ystyried fod y sector yma yn un sydd wedi ymestyn yn sylweddol ac yn gyfrifol am gynnig gwasanaethau sylfaenol megis dwr, trydan, nwy a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Yn sgî Ein Hiaith:Ei Dyfodol a Iaith Pawb, a’r adnoddau ychwanegol fydd yn dod i Fwrdd yr Iaith Gymraeg, mae’n bosibl y bydd y Ddeddf bresennol yn cyrraedd ei llawn potensial trwy waith monitro cyson a manylach.
Er hyn mae diffygion sylfaenol yn y Ddeddf bresennol. Nid yw’n sicrhau hawliau sifil siaradwyr Cymraeg i gael defnyddio eu hiaith pan y mynnent, rhywbeth sy’n cael ei annog yn Ein Hiaith: Ei Dyfodol a Iaith Pawb.
Ar hyn o bryd mae siaradwyr Cymraeg yn cael defnyddio eu hiaith pan fo’n "briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol"(Deddf yr Iaith Gymraeg 1993) o fewn y sector cyhoeddus yn unig.
Yn seiliedig ar waith monitro mae Mentrau Iaith Dinbych, Conwy, Môn a Gwynedd wedi ei gyflawni ar Gynghorau Conwy a Dinbych gwelir fod y gwasanaeth Cymraeg yn bell o fod yn ddigonol yn y sector cyhoeddus.
Er enghraifft, methodd 33% o alwadau ffôn i Gyngor Sir Conwy gyd-fynd â’u Cynllun Iaith. (Cipolwg o Gynllun Iaith Awdurdod Lleol Conwy - Mentrau Iaith, Dinbych-Conwy, Môn a Gwynedd, 2001). Ceir esiamplau tebyg os nad yn waeth gan nifer o Fentrau eraill ar draws y wlad.
Nid oes gan siaradwyr Cymraeg hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y sector preifat. Felly mae un o ddamcaniaethau sylfaenol Ein Hiaith: Ei Dyfodol yn cael ei danseilio yn syth, sef;
"Ystyr Cymru ddwyieithog yw gwlad lle mae pobl yn gallu dewis byw eu bywydau trwy gyfrwng un neu’r ddwy iaith....." (28 Ionawr, 2003)
Yn ogystal â thanseilio egwyddorion sylfaenol, y mae diffyg deunydd o’r Gymraeg yn y Sector Preifat yn parhau i hyrwyddo tueddiadau negyddol tuag at yr iaith ymhlith siaradwyr Cymraeg, megis diffyg defnydd a diffyg trosglwyddiad iaith i’r genhedlaeth nesaf.
Y Mentrau Iaith a’r Sector Preifat
Mwy nag unrhyw gorff arall, mae gan y Mentrau Iaith y profiad ar lawr gwlad o ddelio gyda’r sector preifat er mwyn annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg:
Adnoddau Dylanwadu
Mae’r Mentrau Iaith yn gweithio gyda’r sector preifat er mwyn ceisio dylanwadu arnynt i ddefnyddio ac i ehangu eu defnydd o’r Gymraeg.
Ar hyn o bryd gall y Mentrau gynnig grantiau i gwmnïau sydd am ddefnyddio’r Gymraeg ar arwyddion, pamffledi a thudalennau gwe. Mae nifer o Fentrau yn cynhyrchu "Pecynnau Busnes" penodol ar gyfer y sector preifat, neu yn cyflogi swyddogion penodol i ddylanwadu ar fusnesau.
Ffyrdd o ddylanwadu:-
Ymweliadau Personol
Mae nifer o fentrau yn ymweld â busnesau ar droed ac yn cwblhau holiadur fesul tref i fesur y defnydd o’r Gymraeg.
Ceir nifer o lwyddiannau gyda chwmnïau yn penderfynu defnyddio rhywfaint ar y Gymraeg. Mae hyn yn arbennig o wir gyda busnesau llai lle mae yna gyswllt lleol cyson.
Canrannau Llanrwst
Bu Menter Iaith Conwy yn gweithio yn agos â busnesau yn nhref Llanrwst ers dros bedair blynedd. Dyma ganlyniadau arolwg a gwblhawyd yn 1998 a 2003.
1998 - Siopau yn defnyddio arwyddion dwyieithog 50.5%
2003 - Siopau yn defnyddio arwyddion dwyieithog 75.0%
Er fod llwyddiant wedi bod yn nhref Llanrwst, cymharol fach yw’r nifer o fusnesau eraill sydd yn gosod arwyddion dwyieithog ar ôl ymweliad personol.
Caniatâd Cynllunio
Mae Mentrau eraill megis Sir y Fflint yn ceisio dylanwadu ar fusnesau trwy dderbyn copïau o geisiadau caniatâd cynllunio a cheisio perswadio busnesau i fabwysiadu arwyddion dwyieithog. Eto, er fod rhywfaint o lwyddiant, cymharol ychydig sydd yn dewis defnyddio arwyddion Cymraeg, o 150 o lythyrau anfonwyd llynedd ond 4 sydd wedi ymateb yn gadarnhaol (Atodiad A).
Cyrsiau Cychwyn Busnes
Mae Menter Sir Ddinbych yn darparu cyrsiau i rai sy’n cychwyn busnesau er mwyn cynnig elfen o ymwybyddiaeth iaith iddynt a gwerthu’r syniad o ddefnyddio’r Gymraeg. Eto ceir rhai llwyddiannau ond ar y cyfan nid yw’r mwyafrif yn dewis defnyddio’r Gymraeg. O 34 person sydd wedi mynychu cyrsiau ers        Hydref  2002 ond 4 sydd wedi ymateb yn gadarnhaol.
Gweithio gyda Gwneuthurwyr Arwyddion
Y mae Menter Taf Myrddin yn cydweithio â gwneuthurwyr arwyddion er mwyn eu hannog i roi gwybod i’w cwsmeriaid am grantiau ar gyfer arwyddion dwyieithog. Eto er fod nifer yn dewis y gwasanaeth yma does dim cysondeb o gwbl sydd yn arwain at gynnydd sylweddol o safbwynt arwyddion dwyieithog.
Ymchwil ar y Defnydd o’r Gymraeg yn y Sector Busnes
Y mae ymchwil a wnaed ar y cyd rhwng Mentrau Iaith Myrddin a Choleg y Drindod, Caerfyrddin yn nodi bod:-
80% o’r sawl a holwyd yn credu bod y Gymraeg yn bwysig iawn, yn bwysig neu’n eithaf pwysig fel rhan o ddelwedd corfforaethol cwmni
77% o blaid gweld cwmniau yn defnyddio mwy o Gymraeg
61% o siaradwyr Cymraeg yn y sampl yn nodi y byddent yn fwy tebygol o ddefnyddio cwmni pe baent yn cynnig gwasanaeth dwyieithog
Yr hyn sy’n dod yn amlwg o ystyried cynlluniau’r gwahanol fentrau yw bod modd dylanwadu i raddau ar fusnesau a’r cyhoedd a bod tipyn o ewyllys da "meddal" yn bodoli tuag at yr iaith. Credwn hefyd heb gwaith y mentrau buasai nifer o fusnesau sydd yn defnyddio’r Gymraeg yn llawer llai. Serch hynny, credwn nad oes yna ddigon o reidrwydd ar y sector fusnes i ddefnyddio’r Gymraeg sy’n golygu diffyg cysondeb dychrynllyd mewn dilyniant yn y sector hwn. Gan fod llawer o’r gwaith hwn yn ymwneud ag arwyddion i fusnesau bach buasai modd creu cysondeb a chynnyd trwy adolygu a chryfhau Nodyn Technegol 21.
Ar y llaw arall o safbwynt cwmniau mawr teimlwn mai’r unig ffordd i ddylanwadu arnynt yw drwy newid mewn deddfwriaeth. O brofiad y Mentrau mae hyn yn arbennig o wir wrth ddelio gyda chwmnïau mawr a siopau cadwyn sydd â’u pencadlysoedd tu allan i Gymru. Yn aml ceir un gadwyn o siop benodol yn cynnig gwasanaeth Cymraeg tra nad yw cangen o’r un busnes mewn man arall yn darparu gwasanaeth Cymraeg o gwbl. Ar adegau eraill, bydd busnes cadwyn yn newid ei ddelwedd gorfforaethol, rheolwr neu safle a bydd eu polisi iaith o’r herwydd yn cael ei anghofio. Ar hyn o bryd mae’r broses yn llawer rhy ddibynnol ar unigolion o fewn busnesau mawr sydd â chydymdeimlad tuag at y Gymraeg nag ar unrhyw bolisi cadarn.
Mewn nifer o achosion mae’r Mentrau Iaith wedi cysylltu â chwmnïau mawr sydd ar fin agor siop newydd yn yr ardal a chael addewidion fod arwyddion a gwasanaeth dwyieithog am gael ei gyflwyno. Ar ôl i’r cwmni agor yn aml gwelir ond ychydig neu ddim Cymraeg ar y safle newydd (Gweler Atodiad B).
Yn anffodus ni ellid dibynnu ar ewyllys da i sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg. Yn yr un ffordd, nid oes disgwyl i ewyllys da amddiffyn hawliau gweithwyr, yr anabl neu gyflwr yr amgylchfyd – deddfau yn unig sydd yn gwarchod eu hawliau.
Y mae Mentrau Iaith Cymru felly o blaid elfen o orfodaeth wrth ymdrin â’r sector preifat.  Er hynny, rydym yn ymwybodol y byddai yn fwy anodd i rai rhannau o’r sector preifat fabwysiadu canllawiau gweithredu dwyieithog. I’r perwyl hwn, cred MIC fod modd cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer rhannau penodol o’r sector preifat. Credwn y dylid asesu addasrwydd cwmnïau yn ôl eu trosiant elw, gyda mwy o ddyletswyddau yn disgyn ar gwmnïau â throsiant elw uwch. Hoffem hefyd os pe bai’r Comisiwn yn ystyried cwotogu treth ar arian sydd yn cael ei wario ar y Gymraeg gan gwmnniau. Bydd angen deddfu cynradd i sicrhau hyn.
(x = cynllun i’w weithredu)
Gofynion Penodol Posib Cwmnïau Bach a Chanolig Cwmnïau Mwy Cwmnïau Mawr
Arwyddion Allanol

x

x

x

Arwyddion Mewnol

x

x

x

Cyfle i staff ddysgu Cymraeg  

x

x

Pecynnau defnyddiau yn ddwyieithog  

x

x

Pamffledi dwyieithog    

x

Hysbysebion dwyieithog yn y wasg    

x

Cyhoeddiadau (ar lafar) yn ddwyieithog    

x

Staff cownteri dwyieithog      

x       

x     


Effaith Deddfu ar y Gymraeg
Y Ddadl Foesol
Nid yw sicrhau hawliau i siaradwyr Cymraeg yn ymyrryd â hawliau y di-Gymraeg mewn unrhyw ffordd - creu dewis sydd yn bwysig ddylai sicrhau fod gan holl ddinasyddion Cymru yr hawl i fyw eu bywydau trwy eu dewis iaith. Ar hyn o bryd nid yw hyn yn bosib i siaradwyr Cymraeg.
Yr Wrthddadl Economaidd
Credwn fod modd i Gymru elwa yn economaidd o ymestyn y Ddeddf Iaith i’r sector preifat yn ogystal â meysydd eraill er mwyn sicrhau hawliau i siaradwyr Cymraeg mewn meysydd megis addysg, iechyd a chynllunio.
Yn aml clywir yr wrthddadl economaidd ynglyn â ddeddfu dros yr iaith yn y sector preifat, sef bod unrhyw gostau ychwanegol ar fusnesau yn dychryn buddsoddwyr o Gymru.
Wrth ystyried datblygiadau technoleg gwybodaeth a chost cymharol isel eiddo yng Nghymru gellid dadlau nad yw pris cynhyrchu deunyddiau dwyieithog yn berthnasol.
Os caiff cwmni ei asesu yn ôl ei drosiant elw ni fydd perygl bod gwariant annheg yn cael ei osod arno. Efallai bod modd ystyried neilltuo elw sydd yn cael ei wario ar y Gymraeg yn elw di-dreth.
Gellir cynorthwyo gydag unrhyw gostau drwy gymorth ariannol gan Fwrdd Datblygu Cymru, ac ELWa. Yn dilyn "Ein Hiath: Ei Ddyfodol" mae’r Gymraeg yn dod yn pwnc llorweddol yn eu strategaethau.
Y Ddadl Economaidd
Fel sydd eisoes wedi ei grybwyll mae’r Ddeddf Iaith bresennol wedi bod o fantais economaidd i Gymru. Cred Mentrau Iaith Cymru fod modd i ddeddfu pellach gryfhau sefyllfa economaidd Cymru.
Y Gymraeg – arf i wrthsefyll effeithiau negyddol globaleiddio. Mae yna botensial enfawr i’r Gymraeg o safbwynt creu a chadw swyddi yng Nghymru. Mewn nifer o achosion gwelwn wasanaethau Cymraeg yn cael eu sefydlu megis canolfan alwadau (Canolfan Porthmadog) oherwydd galw gan y cyhoedd am wasanaeth Cymraeg. Mewn achosion eraill gwelwyd canolfan alwadau BT yn Aberystwyth a Bae Colwyn yn cael eu sefydlu a’u cynnal oherwydd natur unigryw y gallu i gynnig gwasanaeth dwyieithog.
Credwn y buasai deddfu pellach yn codi hyder siaradwyr Cymraeg i ofyn am wasanaethau dwyieithog. Buasai yn galluogi Cymru i wrthsefyll rhywfaint o effeithiau globaleiddio a’r tueddiad i ganoli busnesau mewn canolfannau tu allan i Gymru.
Diolch i’r cynnydd yn y cyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg yn sgîl Deddf Addysg 1988 a’r cynnydd yn y niferoedd sydd yn gallu’r Gymraeg yn gyffredinol - yn enwedig ymhlith yr ifanc (Cyfrifiad 2001) mae’r sgil o fod yn ddwyieithog yn rhywbeth sydd o fewn cyrraedd mwy a mwy o bobl. Serch hynny mae angen creu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r sgiliau yma. Buasai deddfu yn sicrhau fod y sgil o fod yn amlieithog yn dod yn un hollol ymarferol.
Mae Bwrdd Croeso Cymru yn cydnabod fod modd defnyddio’r Gymraeg i greu delwedd gryfach a mwy unigryw i Gymru. Gellir defnyddio hyn i ddenu ymwelwyr yma ac yn ei sgîl gryfhau’r economi. Gall deddfu o blaid y Gymraeg gynorthwyo’r ddadl yma heb os.
"Mae ymwelwyr hefyd am weld y Gymraeg yn amlwg yng Nghymru i greu naws eu bod mewn gwlad wahanol sydd â’i hiaith a’i diwylliant unigryw"(Taflen Grantiau "Naws am Le" sydd yn cael ei weithredu gan Bwrdd Croeso Cymru)
Ceir esiamplau ymarferol o ddwyieithrwydd yn hybu economi gwledydd eraill er enghraifft, ers deddfu yng Nghwibec (Mesur 101, 1977) gweler fod ei GDP wedi codi. Esiampl arall o wlad sydd wedi deddfu ac sy’n mwynhau llewyrch economaidd yw Catalunia (Deddfau 1983 a 1998). Hefyd, mae pedair iaith swyddogol yn y Swistir; nid yw hyn i weld yn tanseilio ei economi, os rhywbeth mae’r gwrthwyneb yn wir.
Wrth ddynodi y Gymraeg fel iaith "frodorol" neu "swyddogol" bydd modd denu mwy o gyllid o ffynonellau "ieithoedd lleiafrifol" Ewropeaidd. Wrth ystyried fod mwy a mwy o wledydd am ymuno â’r Undeb Ewropeaidd mae’n bwysig fod hyn yn cael ei weithredu mor fuan â phosib.
Diweddglo a Chynigion
Mae’r dystiolaeth yn eglur - ar hyn o bryd nad yw Deddf yr Iaith Gymraeg (1993) yn diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn sicr yn wir o safbwynt ymwneud siaradwyr Cymraeg â’r sector preifat ac yn rhannol wir am y sector cyhoeddus oherwydd 2 rheswm penodol:
1. diffyg adnoddau i weithredu’r Ddeddf 
2. natur annelwig - " yn briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol"
Mae angen cryfhau geiriad y Ddeddf bresennol i sicrhau hawl sifil siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r Gymraeg pryd y mynent ac i gynnwys y Gymraeg fel iaith "frodorol" Cymru.
Hefyd mae angen buddsoddi mewn adnoddau pellach i weinyddu Ddeddf 93 mewn modd effeithiol a grymus.
Nid oes modd dylanwadu ar y sector preifat yn ddigonol i greu’r shifft iaith angenrheidiol gyda’r adnoddau a’r systemau cyfreithiol presennol
Mae angen arolygu a gwella Nodyn Technegol 21 er mwyn i’r Cynulliad allu rhoi y grym i Gynghorau Sir ddylanwadu ar arwyddion busnesau. Bydd angen ymgorffori elfennau o’r sector preifat i mewn i Ddeddf Iaith newydd er mwyn cynnig gwasanaethau perthnasol i siaradwyr Cymraeg.
Bydd angen deddfu hefyd i sicrhau gostyngiadau treth i gwmnïau sydd yn buddsoddi yn y Gymraeg.
Mae materion cynllunio a’r Gymraeg dal yn annelwig iawn, sydd yn tanseilio’r Gymraeg fel iaith gymunedol.
Eto mae angen cryfhau Nodyn Technegol 21 i ddiogelu’r statws y Gymraeg yn weledol ac yn gymunedol trwy ymgymryd ag "asesiadau ieithyddol" ar ddatblygiadau.
 

Mentrau Iaith Cymru
2 Mehefin 2003

Ffynhonnell: Richard Commission
Enw'r Awdur:    James Dowling
Dyddiad:                 March 2004