|
 |
| |
Comisiwn Richard
Pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Materion a chwestiynau ar gyfer ymgynghori
CYFLWYNIAD GAN UNDEB CENEDLAETHOL
MYFYRWYR CYMRU
|
| Rhagarweiniad
Effeithlonrwydd o ran llunio polisi, ehangder a dyfnder
pwerau'r Cynulliad a chyfyngiadau ar lunio polisi San
Steffan oherwydd rhannu cyfrifoldebau
|
| Mae'r Cynulliad angen sicrwydd fod ei broses
gyllido (ar draws y sectorau) yn gynaladawy ac nad yw
yn ddibynnol ar ymrwymiadau a chyfyngiadau allanol (San
Steffan):
Mae angen i'r Cynulliad fod yn bendant a diamwys yn
ei rô1 o gynrychioli pobl Cymru. Dylai'r rhychwant materion
sydd o fewn i'w faes adlewyrchu amrywiaeth y pryderon
sydd gan bobl Cymru. Ni ddylai San Steffan ohirio na
llyffetheirio gallu'r Cynulliad i weithredu newidiadau.
Roedd y trafodaethau ynglyn A ffioedd cyflenwi yn enghraifft
o sefyllfa fel hyn a adawodd y cyhoedd yng Nghymru yn
siomedig.
Dylai systemau creu polisi San Steffan i gyd a fydd
yn cael effaith ar Gymru fynd trwy broses o ymgynghoriad
trylwyr gyda'r Cynulliad, er mwyn sicrhau ystyriaeth
lawn o'r safbwynt Cymreig yn ogystal a democratiaeth.
|
| Trefniadau Etholiadol
Mae maint y Cynulliad yn ddigonol, ac mae ei faint
cymharol fach yn gwneud Aelodau'r Cynulliad yn fwy hygyrch
nag Aelodau Seneddol. Mae hyn yn agwedd gadarnhaol o
safbwynt ein mudiad, ac mae wedi golygu ein bod wedi
gallu gweithio'n glòs gyda nifer o Aelodau'r Cynulliad
a Gweinidogion ar f_aterion o gryn bwys i fyfyrwyr.
Mae ei faint hefyd yn gwneud cyfathrebu rhwng UCMC a'r
Cynulliad yn haws, sy'n cyfrannu at fwy o effeithlonrwydd.
Mae'r dull o ethol y Cynulliad yn broses teg a chwbl
ddemocrataidd sy'n cynrychioli holl feddiannau Cymru.
Mae democratiaeth wrth wraidd ein hegwyddorion fel mudiad
ac o'r herwydd, mae iddo gryn arwyddocâd.
|
| Y ffyrdd ymarferol y gwna pwerau cyfyngedig
y Cynulliad amharu ar ein mudiad
Mae'r cyd-drafodaethau cyfredol ar ffioedd cyflenwi
(a all Cymru eithrio sefydliadau AU Cymru rhag codi
ffioedd cyflenwi yng ngoleuni Papur Gwyn yr Adran er
Addysg a Sgiliau) yn amharu ar ein haelodau mewn ffordd
allweddol a hollbwysig. Nid yw pwerau wedi cael eu datganoli
yn y meysydd canlynol:
1) Cyllido myfyrwyr
2) Pwerau codi trethi.
Golyga hyn y gall myfyrwyr AB, sef dwy ran o dair o'n
haelodaeth, ail-ystyried gwneud cais am le mewn prifysgol,
neu yn wir parhau gyda'u haddysg i mewn i AU o gwbl.
|
| Mae'r ffaith nad oes gan y Cynulliad bwer
i godi trethi yn ei rwystro rhag cael y dewis o ganfod
ei ffynhonnell arian ei hun ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
Mae hyn y atal y Cynulliad rhag bod ii'r sicrwydd i wneud
penderfyniadau pwysig ag iddynt oblygiadau ariannol, gan
felly eu gorfodi i gyd-drafod y materion hynny â San Steffan.
Mae hyn yn arwain at ansicrwydd ymhlith y cyhoedd ac amheuon
dros hunanreolaeth genedlaethol, gan felly fwrw amheuon
ynglyn â holl ddiben yn Cynulliad Cenedlaethol yn y lle
cyntaf.
Gall pwerau deddfwriaeth eilaidd y Cynulliad wneud
ein gwaith ni yn llawer anoddach mewn rhai sefyllfaoedd.
Er gwaethaf cael cefnogaeth AC ynlyn I rhai materion,
dim and man newidiadau a ellir eu gwneud. Mae hyn wedi
dod yn amlwg yn ein loliiau o'r Cynulliad ar faterion
yn ymwneud â chyllido myfyrwyr. Mae hyn hefyd yn gwneud
y broses o ddwyn pwysedd er mwyn ceisio creu newidiadau
yn fwy biwrocrataidd a hirfaeth, oherwydd fod yno ddau
rwystr i ni fel loiwyr i'w goresgyn (h.y. y Cynulliad
yn gyntaf ac yna San Steffan yn nes ymlaen). Er y gall
cadw rhywfaint o bellter rhwng y Cynulliad a Llywodraeth
y DU arwain at newid cadarnhaol yng Nghymru, yn benodol
cyflwyno Grantiau Dysgu'r Cynulliad y llynedd, buasai'n
gadarnhaol a manteisiol dros ben i UCMC pe bai'r Cynulliad
yn cael pwerau i greu deddfwrieath gynradd. Buasai hyn
y osgoi problemau a achosir gan oedi mewn taliadau o
GDC i fyfyrwyr yng Nghymru, er enghraifft, a phenderfyniad
yr Adran er Gwaith a Phensiynau i ystyried y grantiau
hyn fel incwm, sydd wedi effeithio ar fudd-daliadau
llawer o fyfyrwyr. Cyfrannodd y ffactorau hyn at galedi
myfyrwyr ac er iddynt gael eu datrys yn y pen draw,
roedd yr amser a gymerwyd i ddatrys y materion
hyn yn annerbyniol.
|
| Byddai caniatau pwerau deddfwriaethol cynradd
hefyd o fantais i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg
uwch, gan agor posibiliadau ar gyfer 'helo euraidd' fel
cymhelliant i feddygon, nyrsys, athrawon a darlithwyr.
Mae adborth oddi wrth ein haelodaeth wedi dwyn sylw at
faterion penodol yn y maes hwn oherwydd prinder difrifol
o ddarlithwyr sy'n medru gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg
ac o ganlyniad i hyn, prinder cyrsiau cyfrwng Cymraeg.
Mae hyn yn ei gwneud yn annheg i fyfyrwyr sydd â'r Gymraeg
yn iaith gyntaf iddynt, gan eu gwneud yn amhosibl iddynt
ddysgu yn eu mamiaith, ac mae'n annerbyniol yn yr hinsawdd
bresennol lle mae cydraddoldeb cyfle yn nod cyffredinol.
Yn y pen draw, mae angen datganoli'r pwerau hyn i Gymru
er budd ein haelodaeth, a hynny mor fuan â phosibl. |
| Deddf Llywodraethu Cymru a'r pwerau
mae'n el darparu i'r Cynulliad
Oherwydd ei bwerau cyfyngedig mewn rhai meysydd, gellid
gweld y Cynulliad fel haen o fiwrocratiaeth i weinyddu
penderfyniadau a wneir yn San Steffan. Nid yw hwn yn
broses cwbl ddemocrataidd a gall adael pobl yn teimlo'n
rhwystredig pan na ellir mynd i'r afael â materion pwysig
nad ydynt o fewn i bwerau'r Cynulliad. Yn y pen draw,
gall hyn effeithio'n negyddol ar fywydau pob-dydd grwpiau
o bobl yng Nghymru. Mae'r rhwystredigaeth yma yn amlwg
ymhlith ein haelodaeth oherwydd na all y camau hynny
a wneir o ganlyniad i'n gwaith ymgyrchu fynd yn ddigon
pell mewn meysydd lle mae angen mawr am newidiadau sylweddol,
e.e. cyllido myfyrwyr ar gyfnod o ddyledion enfawr ymhlith
myfyrwyr. Y gobaith yw y bydd y cyddrafodaethau presennol
ynglyn â datganoli pwerau dros gyllido AU yn llwyddiannus,
gan arwain at ddatrys y sefyllfa hon.
|
| Y cysylltiad rhwng rhychwant pwerau'r
Cynulliad, ei strwythurau a threfniadau gweithio
Pe bai'r Cynulliad yn ennill mwy o bwerau i lunio deddfau,
nid yw yn anorfod y byddai rhaid ei ailstrwythuro ar
ffurf Senedd, and pe bai pwerau deddfwriaethol cynradd
yn cael. eu datganoli, a fyddai'n gwrth-ddweud Deddf
Llywodraethu Cymru, yna byddai creu model Seneddol yn
anghenrhaid. Pe bai hyn y digwydd , yr anghenion (h.y.
pwerau wedi eu datganoli) fyddai'n penderfynu'r strwythur
yn hytrach na'r ffordd arall o gwmpas, er mwyn sicrhau
fod y system newydd yn gweddu'n gywir i Gymru. Serch
hynny, dylid cadw safon uchel o ran tryloywder a hygyrchedd.
O safbwynt ein mudiad ni, dylid gwneud ymdrech i godi'r
safon yma er mwyn osgoi ansicrwydd e.e. diffyg gwybodaeth
a ddaeth i law hyd yma ynglyn â'r cyd-drafodaethau sy'n
cael eu cynnal rhwng y Cynulliad a'r Llywodraeth y DU
ar ddatganoli cyllido myfyrwyr. Mae'r ffordd gyfwynebol
o weithredu sy'n gysylltiedig â'r model Seneddol yn
anorfod. 'Rydym yn awyddus i Lywodraeth Cynulliad Cymru
gymryd rheolaeth dros ariannu cyhoeddus ar gyfer gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru, gan felly arwain at lefel uwch
o drafodaeth wleidyddol.
Byddai gwrthdaro yn ganlyniad anorfod i drafodaethau
dwysach. Byddai mwy o dryloywder a hygyrchedd yn amlwg
yn fanteisiol, and gallai hyn arwain at angen am fwy
o staff a swyddfeydd.
|
| Y berthynas rhwng y Cynulliad yng Nghaerdydd
a'r Senedd yn San Steffan
Mae yno gryfderau a gwendidau i'w hystyried wrth edrych
ar y berthynas yma. Mae cadw'r Swyddfa Gymreig wedi
arwain at gyd-drafodaethau rhwng Peter Hain a Charles
Clarke er budd AU yng Nghymru, a gellir gweld yr haen
ychwanegol o drafodaeth fel modd o wneud y broses yn
un mwy trylwyr. Anfantais hyn, serch hynny, yw'r cynnydd
mewn biwrocratiaeth ac oedi mewn llunio penderfyniadau
ar faterion sydd o bwysigrwydd mawr, e.e. ffioedd cyflenwi
a datganoli pwerau dros gyllido AU yng Nghymru. Gall
diffyg cyfathrebu rhwng San Steffan a Chaerdydd hefyd
greu dryswch weithiau. 'Roedd hyn yn arbennig o amlwg
yn dilyn cyflwyno Grant Dysgu'r Cynulliad, a phenderfyniad
yr Adran er Gwaith a Phensiynau i ystyried y grant fel
incwm.
Mae felly yn hanfodol bwysig fod cyfathrebu effeithlon
yn digwydd er mwyn atal sefyllfaoedd fel y rhain rhag
codi yn y dyfodol. Byddai trosglwyddo pwerau deddfwriaethol
cynradd i Gaerdydd yn datrys y mater hwn, a byddai'n
ddigon hawdd gwella effeithlonrwydd a chyfathrebu o
fewn i sefydliad cymharol fach fel y Cynulliad. Byddai
symleiddio'r broses o lunio penderfyniadau yn Ileihau
biwrocratiaeth ac yn ei gwneud yn haws i wneud y newidiadau
sydd eu hangen.
Pe bai'r Cynulliad yn cael yr hawl i lunio deddfau
cynradd, gallai olygu fod AS Cymru yn cael eu gweld
fel haen arall o fiwrocratiaeth. A bod yn realistig,
dylid cynnal y status quo gyda Chymru yn cael mwy o
gyfraniad i faterion y DU yn San Steffan.
|
| Rôl Llywodraeth y DU ac Ysgrifennydd
Gwladol Cymru
Ni ddylai fod yno unrhyw leihad yn rô1 Ysgrifennydd
Gwladol Cymru. Mae ei rôl o fewn i Gabinet y DU yn un
pwysig, a dylai hwn barhau er mwyn sicrhau fod buddiannau
Cymru yn cael eu cynrychioli yn San Steffan. Mae'r ffaith
fod ganddo le o fewn i'r Cabinet yn rhoi lais cryf i
Gymru ac yn sicrhau fod materion sy'n perthyn i Gymru
yn cael eu mynegi'n effeithlon.
|
| Y Berthynas rhwng y Cynulfad a San Steffan
Pe bai yno raniad mwy eglur rhwng Cymru a Lloegr o
ran datblygiad a gweithredu polisi, byddai hyn yn effeithio
i raddau ar waith UCM DU. Byddai rhaid i Gymru fel rhanbarth
ganolbwyntio'n fwyfwy ar ymgyrchoedd a fyddai and yn
berthnasol i Gymru, yn hytrach na materion sy'n berthnasol
i Gymru a Lloegr.
Gallai rhaniad eglurach hefyd leihau dryswch trwy symleiddio'r
prosesau biwrocrataidd a chyfathrebu, gan felly gynyddu
effeithlonrwydd ac osgoi oedi. Mae hunan-reolaeth hefyd
yn ffactor y dylid ei ystyried. Mae traean o blant Cymru
yn cael eu geni i dlodi. Ni chaiff y weledigaeth o 50%
yn cyfranogi mewn AU ei gwireddu os caiff cydraddoldeb
cyfle ei wadu o'r crud. Dylai Cymru ystyried ei pholisiau
ei hun, yn seiliedig: ar ddealltwriaeth o hanes, diwylliant
a daearyddiaeth y wlad.
|
| Y Cyd-destun Ariannol
Dylid gwerthuso costau a manteision symud tuag at ffurf
gwahanol o ddatganoli yng Nghymru ar sail angen trwy
gadw mewn cof cyflwr cymdeithasol-economaidd presennol
boblogaeth Cymru a'r lefelau o galedi sy'n effeithio
ar ei myfyrwyr. Byddai cael llai o fiwrocratiaeth a
datganoli pwerau deddfwriaethu uniongyrchol i'r Cynulliad
er mwyn eu galluogi i wneud y newidiadau angenrheidiol
yn fanteisiol, er na ellid barnu gwir effeithiau'r camau
hyn hyd yn nes ymlaen. Er enghraifft, byddai pwerau
deddfwriaethu dros AU yng Nghymru yn caniatau i'r Cynulliad
weithredu mwy o'r 54 o argymhellion a wnaethpwyd yn
Adroddiad Rees, ond rhaid i'r ewyllys i wneud hynny
fod yno yn y lle cyntaf.
Y prif fantais y dylid ei ystyried fel rhan o'r gwerthusiad
hwn yw hunan-reolaeth yng nghyd-destun y DU. Mae hyn
y cynnwys cyfleoedd cyfartal, cynhwysiad cymdeithasol,
targed o 50% o'r boblogaeth yn cyfranogi mewn AU yng
Nghymru, a diddymu tlodi yng Nghymru. Byddai rhoi digon
o bwerau i'r Cynulliad roi mwy o ystyriaeth i'r holl
werthoedd a'r amcanion hyn yn gwella bywydau yn un rhan
o ddeuddeg o'r boblogaeth (h.y. myfyrwyr) yn aruthrol.
Ffactorau eraill i'w hystyried yw ad-drefnu llyfn o
AU Cymru yng ngoleuni 'Cyrraedd yn Uwch' a'r Wad sy'n
Dysgu' ac argymhellion ar gyfer mwy o gydweithredu rhwng
colegau a'r posibilrwydd o uno sefydliadau. Dylai fod
modd cwblhau'r ad-drefnu heb golli unrhyw swyddi a heb
osod myfyrwyr dan fwy o bwysedd yn nhermau cyllid a
lles.
|
| Ffynonellau Ariannu
Mae ansicrwydd ynglyn â ffynonellau ariannu yn fater
o bryder i UCMC ar hyn o bryd. Byddai datganoli mwy
o bwerau i'r Cynulliad o ran cyllido myfyrwyr yn golygu
y gellid cymryd camau sylweddol tuag at leihau caledi
myfyrwyr, a chyrraedd tuag at y nod o wneud Cymru yn
wirioneddol wlad sy'n dysgu trwy annog dysgu gydol oes
a lleihau'r cysgod o ddyled.
|
|
|
|
|
|