| Rt Hon Lord Richard of Ammanford QC Chair, The Richard Commission Room 1/11 Cathays Park CP1 Cardiff CF10 3NQ |
|
Bae Caerdydd / Cardiff Bay |
|
31 January 2003 |
| Dear Lord Richard |
| Written submission of the Agriculture & Rural Development Committee |
| I enclose a written submission to the Commission from the Agriculture & Rural Development Committee of the National Assembly. The submission was approved at the Committees meeting on 29 January and supplements that already provided by the Chair, Glyn Davies AM. |
| Yours sincerely |
| Adrian Crompton Committee Clerk Agriculture and Rural Development Committee |
|
|
Comisiwn Richard |
Cyflwyniad Drafft gan y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig |
Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
| Rhagarweiniad |
| 1. Gwneir y cyflwyniad canlynol ar ran y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Maer Comisiwn eisoes wedi derbyn cyflwyniad gan Glyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor, yn disgrifio sut y mae'r Pwyllgor yn gweithredu a'i rôl o ran craffu ar y Gweinidog, ar ei bolisïau ac ar is-ddeddfwriaeth y Cynulliad. |
| 2. Mae'r cyflwyniad hwn yn trafod yn bennaf y pwerau sydd gan y Cynulliad yn y portffolio Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig a mater mwy cyffredinol sy'n ymwneud ag aelodaeth y Gweinidog o bwyllgor pwnc. |
| Gwneud y mwyaf o bwerau'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag amaethyddiaeth a datblygu gwledig |
| 3. I raddau helaeth, polisi, cyfraith a chyllid yr Undeb Ewropeaidd sy'n llywio'r polisi ar amaethyddiaeth a physgodfeydd. Mae'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn cael eu rhoi ar waith trwy ddeddfwriaeth y Gymuned syn cael effaith uniongyrchol ar bob un o'r Aelod-Wladwriaethau ac nid oes fawr o gyfle felly i Aelod-Wladwriaeth, neu ran ohoni, weithredu'n annibynnol. Ychydig o gyfle sydd ar gael felly i ddatblygu polisi amaethyddol sy'n neilltuol i Gymru drwy ddeddfwriaeth. Serch hynny, mae'r Pwyllgor o'r farn y dylid parhau i wneud y gorau o bwerau'r Cynulliad yn y portffolio hwn. |
| 4. Efallai mai'r enghraifft unigol orau o'r manteision a fyddai'n deillio o gael mwy o bwerau deddfwriaethol yw'r ffordd yr ymdriniwyd â chlwy'r traed a'r genau yn 2001. Mae natur y diwydiant da byw heddiw yn golygu bod yn rhaid cydlynu'r camau sy'n cael eu cymryd i reoli clefyd megis Clwy'r Traed a'r Genau ar lefel y DU. Serch hynny, roedd yr achosion o'r clwyf yn dangos bod angen i'r llywodraeth weithredu mewn ffordd a oedd yn adlewyrchu'r amgylchiadau rhanbarthol a lleol. Roedd y nodweddion ffisegol sy'n neilltuol i Gymru, strwythur a phatrymau ei diwydiant amaethyddol, a bodolaeth y Cynulliad Cenedlaethol yn golygu y gellid bod wedi teilwra'r polisi ac wedi gwneud penderfyniadau'n gyflymach, mewn sawl maes allweddol, pe byddai mwy o gyfrifoldeb deddfwriaethol gan y Cynulliad. Byddai datganoli pwerau'n ymwneud ag iechyd anifeiliaid hefyd wedi helpu'r cyhoedd i ddeall atebolrwydd y llywodraeth yng Nghymru ac wedi rhoi cyfle iddi wneud penderfyniadau mewn ffordd gliriach a mwy effeithlon. |
| 5. Yn ogystal â'r pwerau sy'n ymwneud ag iechyd anifeiliaid, byddai cael pwerau deddfwriaethol ychwanegol yn golygu y gellid datblygu polisi sy'n neilltuol i Gymru mewn meysydd eraill. Mae cyflwyniad ysgrifenedig y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros Ddatblygu Gwledig a Chymru Dramor, er enghraifft, yn nodi'r manteision posibl o ran datblygu polisi ar gyfer pysgodfeydd, iechyd planhigion a biotechnoleg ac o ran hybu datblygu gwledig trwy gyrff gwirfoddol. Mae'r Cynulliad fel cyfangorff wedi datgan yn glir ei fod yn dymuno cael pwerau deddfwriaethol sylfaenol mewn perthynas â hela1. |
| Cyfathrebiadau rhwng y Cynulliad ac adrannau eraill y Llywodraeth |
| 6. Nid ywr Pwyllgor hwn yn gyfarwydd â manylion y berthynas weithio rhwng Gweinidogion a swyddogion y Cynulliad a swyddogion yn adrannau eraill y Llywodraeth. Serch hynny mae enghraifft ddiweddar, syn gysylltiedig ag adroddiad gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ar gnydau a addaswyd yn enetig2, yn tynnu sylw at y ffaith bod angen gwell cyfathrebu rhyngddynt. Rydym yn deall nad oedd Gweinidog y Cynulliad nai swyddogion yn ymwybodol o fwriad DEFRA i gyhoeddir adroddiad, er gwaethaf y ffaith ei bod yn hysbys bod y mater o gryn ddiddordeb ir Cynulliad ar y pryd. Rydym yn gobeithio y gall y Comisiwn ystyried y mater o gyfathrebu rhwng y Cynulliad ac adrannau eraill y Llywodraeth, ac y gall wneud argymhellion ar sut iw wella. |
| Gweinidogion y Cynulliad fel aelodau o bwyllgorau pwnc |
| 7. Maer mater arall y mae'r Pwyllgor yn dymuno tynnu sylw'r Comisiwn ato yn ymwneud âr ffaith bod Deddf Llywodraeth Cymru3 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion fod yn aelodau o bwyllgorau pwnc |
| 8. Roedd y gofyniad sydd wedi'i ymgorffori yn y Ddeddf yn adlewychiad rhesymegol or ffaith bod y Cynulliad yn un corff corfforaethol. Er 1999, maer llywodraeth wedi ffurfio clymblaid fwyafrifol, ac ar 14 Chwefror 2002, cymeradwyodd y Cynulliad y penderfyniad i sicrhaur 'rhaniad cliriaf posibl a ganiateir gan y ddeddfwriaeth bresennol rhwng y Llywodraeth a'r Cynulliad'. Er nad oes cytundeb ymysg y Pwyllgor ar rinweddau perthynol sefyllfar Gweinidogion mewn pwyllgorau pwnc yn y cyd-destun hwn, mae or farn bod hyn yn rhywbeth y gallai fod yn ddefnyddiol i Gomisiwn Richard ei ystyried. |
| I gloi |
| 9. Hyderwn y bydd y cyflwyniad hwn o ddefnydd i'r Comisiwn. |
|
|
| 1 Penderfyniad y Cyfarfod
Llawn ar 27 Mehefin 2000 a oedd yn galw ar Lywodraeth
Cynulliad Cymru 'i ofyn i Lywodraeth Ei Mawrhydi yn San
Steffan ganiatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu
ar gwestiwn hela gyda chwn yng Nghymru drwy lunio unrhyw
Fesur i ddarparu dibenion is-ddeddfwriaethol i'r perwyl
hwn' 2 DEFRA: Final report on monitoring studies of field scale release of GM oilseed rape in England from 1994-2000 3 Adran 57(4) |