Llywodraeth Cynulliad Cymru Mynegai i'r Pynciau Y Comisiwn Richard
       
   
 
Llywodraeth Cynulliad Cymru Newyddion * Aelodau * Ymgynghoriad * Rhestr o Ddigwyddiadau * Rhestr o Dystiolaeth * Cwestiynau Cyffredin * Safleoedd Allanol * Cysylltwch â ni
*
 
Rt Hon Lord Richard of Ammanford QC
Chair, The Richard Commission
Room 1/11
Cathays Park
CP1
Cardiff
CF10 3NQ

Bae Caerdydd / Cardiff Bay
Caerdydd / Cardiff
CF99 1NA

31 January 2003

Dear Lord Richard
Written submission of the Agriculture & Rural Development Committee
I enclose a written submission to the Commission from the Agriculture & Rural Development Committee of the National Assembly. The submission was approved at the Committee’s meeting on 29 January and supplements that already provided by the Chair, Glyn Davies AM.
Yours sincerely
Adrian Crompton
Committee Clerk
Agriculture and Rural Development Committee

Comisiwn Richard

Cyflwyniad Drafft gan y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rhagarweiniad
1. Gwneir y cyflwyniad canlynol ar ran y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Mae’r Comisiwn eisoes wedi derbyn cyflwyniad gan Glyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor, yn disgrifio sut y mae'r Pwyllgor yn gweithredu a'i rôl o ran craffu ar y Gweinidog, ar ei bolisïau ac ar is-ddeddfwriaeth y Cynulliad.
2. Mae'r cyflwyniad hwn yn trafod yn bennaf y pwerau sydd gan y Cynulliad yn y portffolio Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig a mater mwy cyffredinol sy'n ymwneud ag aelodaeth y Gweinidog o bwyllgor pwnc.
Gwneud y mwyaf o bwerau'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag amaethyddiaeth a datblygu gwledig
3. I raddau helaeth, polisi, cyfraith a chyllid yr Undeb Ewropeaidd sy'n llywio'r polisi ar amaethyddiaeth a physgodfeydd. Mae'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn cael eu rhoi ar waith trwy ddeddfwriaeth y Gymuned sy’n cael effaith uniongyrchol ar bob un o'r Aelod-Wladwriaethau ac nid oes fawr o gyfle felly i Aelod-Wladwriaeth, neu ran ohoni, weithredu'n annibynnol. Ychydig o gyfle sydd ar gael felly i ddatblygu polisi amaethyddol sy'n neilltuol i Gymru drwy ddeddfwriaeth. Serch hynny, mae'r Pwyllgor o'r farn y dylid parhau i wneud y gorau o bwerau'r Cynulliad yn y portffolio hwn.
4. Efallai mai'r enghraifft unigol orau o'r manteision a fyddai'n deillio o gael mwy o bwerau deddfwriaethol yw'r ffordd yr ymdriniwyd â chlwy'r traed a'r genau yn 2001. Mae natur y diwydiant da byw heddiw yn golygu bod yn rhaid cydlynu'r camau sy'n cael eu cymryd i reoli clefyd megis Clwy'r Traed a'r Genau ar lefel y DU. Serch hynny, roedd yr achosion o'r clwyf yn dangos bod angen i'r llywodraeth weithredu mewn ffordd a oedd yn adlewyrchu'r amgylchiadau rhanbarthol a lleol. Roedd y nodweddion ffisegol sy'n neilltuol i Gymru, strwythur a phatrymau ei diwydiant amaethyddol, a bodolaeth y Cynulliad Cenedlaethol yn golygu y gellid bod wedi teilwra'r polisi ac wedi gwneud penderfyniadau'n gyflymach, mewn sawl maes allweddol, pe byddai mwy o gyfrifoldeb deddfwriaethol gan y Cynulliad. Byddai datganoli pwerau'n ymwneud ag iechyd anifeiliaid hefyd wedi helpu'r cyhoedd i ddeall atebolrwydd y llywodraeth yng Nghymru ac wedi rhoi cyfle iddi wneud penderfyniadau mewn ffordd gliriach a mwy effeithlon.
5. Yn ogystal â'r pwerau sy'n ymwneud ag iechyd anifeiliaid, byddai cael pwerau deddfwriaethol ychwanegol yn golygu y gellid datblygu polisi sy'n neilltuol i Gymru mewn meysydd eraill. Mae cyflwyniad ysgrifenedig y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros Ddatblygu Gwledig a Chymru Dramor, er enghraifft, yn nodi'r manteision posibl o ran datblygu polisi ar gyfer pysgodfeydd, iechyd planhigion a biotechnoleg ac o ran hybu datblygu gwledig trwy gyrff gwirfoddol. Mae'r Cynulliad fel cyfangorff wedi datgan yn glir ei fod yn dymuno cael pwerau deddfwriaethol sylfaenol mewn perthynas â hela1.
Cyfathrebiadau rhwng y Cynulliad ac adrannau eraill y Llywodraeth
6. Nid yw’r Pwyllgor hwn yn gyfarwydd â manylion y berthynas weithio rhwng Gweinidogion a swyddogion y Cynulliad a swyddogion yn adrannau eraill y Llywodraeth. Serch hynny mae enghraifft ddiweddar, sy’n gysylltiedig ag adroddiad gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ar gnydau a addaswyd yn enetig2, yn tynnu sylw at y ffaith bod angen gwell cyfathrebu rhyngddynt. Rydym yn deall nad oedd Gweinidog y Cynulliad na’i swyddogion yn ymwybodol o fwriad DEFRA i gyhoeddi’r adroddiad, er gwaethaf y ffaith ei bod yn hysbys bod y mater o gryn ddiddordeb i’r Cynulliad ar y pryd. Rydym yn gobeithio y gall y Comisiwn ystyried y mater o gyfathrebu rhwng y Cynulliad ac adrannau eraill y Llywodraeth, ac y gall wneud argymhellion ar sut i’w wella.
Gweinidogion y Cynulliad fel aelodau o bwyllgorau pwnc
7. Mae’r mater arall y mae'r Pwyllgor yn dymuno tynnu sylw'r Comisiwn ato yn ymwneud â’r ffaith bod Deddf Llywodraeth Cymru3 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion fod yn aelodau o bwyllgorau pwnc
8. Roedd y gofyniad sydd wedi'i ymgorffori yn y Ddeddf yn adlewychiad rhesymegol o’r ffaith bod y Cynulliad yn un corff corfforaethol. Er 1999, mae’r llywodraeth wedi ffurfio clymblaid fwyafrifol, ac ar 14 Chwefror 2002, cymeradwyodd y Cynulliad y penderfyniad i sicrhau’r 'rhaniad cliriaf posibl a ganiateir gan y ddeddfwriaeth bresennol rhwng y Llywodraeth a'r Cynulliad'. Er nad oes cytundeb ymysg y Pwyllgor ar rinweddau perthynol sefyllfa’r Gweinidogion mewn pwyllgorau pwnc yn y cyd-destun hwn, mae o’r farn bod hyn yn rhywbeth y gallai fod yn ddefnyddiol i Gomisiwn Richard ei ystyried.
I gloi
9. Hyderwn y bydd y cyflwyniad hwn o ddefnydd i'r Comisiwn.

1   Penderfyniad y Cyfarfod Llawn ar 27 Mehefin 2000 a oedd yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru 'i ofyn i Lywodraeth Ei Mawrhydi yn San Steffan ganiatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu ar gwestiwn hela gyda chwn yng Nghymru drwy lunio unrhyw Fesur i ddarparu dibenion is-ddeddfwriaethol i'r perwyl hwn'
2 DEFRA: Final report on monitoring studies of field scale release of GM oilseed rape in England from 1994-2000
3  Adran 57(4)

 

Yn ôl i'r Brig