Minister for Open Government
Gweinidog dros Lywodraeth Agored
Ein cyf: SF/CJ/1136/02

Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Y Gwir Anrh Arglwydd Richard QC,
Cadeirydd,
Comisiwn ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn
Ystafell 1-11, CP1,
Parc Cathays,
Caerdydd
CF10 3NW.

8 Tachwedd 2002

Annwyl Arglwydd Richard
Estynnoch wahoddiad i mi gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig cyn fy nhrafodaeth â'r Comisiwn ar 22 Tachwedd. Mae'n falch gennyf wneud hyn er, fel y daw'n amlwg, bod natur fy mhortffolio bresennol yn golygu nad yw rhai o'ch cwestiynau yn gwbl berthnasol i mi. Serch hynny, rhestraf y cwestiynau yn y drefn a roddwyd yn eich llythyr dyddiedig 29 Gorffennaf:
1. Yr ystod o faterion y mae fy mhortffolio yn ei gynnwys, a'r pwerau sydd gennyf i weithredu polisïau newydd.
Mae fy mhortffolio yn cynnwys nifer o faterion, fel a ganlyn.
Mae Rheol Sefydlog 2.5 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Prif Weinidog ddynodi un aelod o Gabinet y Cynulliad i fod yn gyfrifol am reoli busnes y Cynulliad yn gywir. Fy swyddogaeth i yw honno ar hyn o bryd. Nid wyf am ddweud mwy am hynny yn y cyflwyniad hwn oherwydd rwyf ar ddeall y bydd Andrew Davies, y Rheolwr Busnes a'm rhagflaenodd, yn darparu nodyn i chi ynghylch y rôl; ond byddwn wrth gwrs yn falch i drafod y mater gyda chi ar 22 Tachwedd.
Fel y Gweinidog dros Lywodraeth Agored, rwyf yn gyfrifol am strategaeth gyfathrebu Llywodraeth y Cynulliad. Mae gennyf hefyd ddyletswydd i gadw llygad ar faterion sy'n ymwneud â Rhyddid Gwybodaeth. Yn 2001 mabwysiadodd y Cynulliad God Ymarfer ar Hawl y Cyhoedd i Weld Gwybodaeth (y Cod Gwybodaeth), sy'n seiliedig ar Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ond sydd yn ychwanegu rhai agweddau eraill ati. Pan ddaw'r Ddeddf i rym yn 2005 bydd yn berthnasol i'r Cynulliad ond rwy'n rhagweld y byddwn am barhau i'w defnyddio fel sail i'n dulliau rhyddfrydig ni o ymdrin â'r materion hyn (ac felly y bydd, efallai, yn enghraifft o'r Cynulliad yn gweithredu polisi gwahanol, ond nid un sy'n golygu ei fod yn gweithredu pwerau statudol ffurfiol). Y fi yw cyswllt Gweinidogol Llywodraeth y Cynulliad â Chomisynydd Gwybodaeth y DU ar faterion sy'n ymwneud â Diogelu Data â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Yn yr un modd rwyf hefyd yn cynnal gorolwg o bolisïau'r Cynulliad ar benodiadau cyhoeddus ac yn y cyswllt hwn rwyf yn cydweithio'n agos â Chomisiynydd Penodiadau Cyhoeddus y DU. A'r pwynt olaf dan y pennawd hwn, sef mai myfi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gynnal gorolwg cyffredinol o faterion sy'n ymwneud â'r Ombwdsmon yng Nghymru, ac rwy'n delio ag Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru fel y bo angen (er bod fy nghydweithwyr Edwina Hart a Jane Hutt yn gyfrifol am ddelio â'r Ombwdsmon Llywodraeth Leol a Chomisiynydd Gwasanaethau Iechyd Cymru, yn y drefn honno).
Cyfle Cyfartal yw'r trydydd maes eang sy'n rhan o'm mhortffolio. Fel y byddwch eisoes yn gwybod, mae adran 120 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfrifoldeb penodol ar y Cynulliad Cenedlaethol i wneud "appropriate arrangements with a view to securing that its functions are exercised with due regard to the principle that there should be equality of opportunity for all people". Rhaid i'r Cynulliad gyflawni dyletswyddau cyffelyb o ran y modd y mae'n cynnal ei fusnes. Felly ystyrir bod cyfle cyfartal yn un o'r prif themâu sydd i'w gweld ym mhob agwedd ar waith y Cynulliad. Mae Rheolau Sefydlog presennol y Cynulliad yn nodi mai Gweinidog a ddylai fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal (er y bydd y sefyllfa'n newid ym mis Mai), ac rwy'n cyflawni'r swydd honno. Y fi hefyd yw cyswllt Gweinidogol Llywodraeth y Cynulliad ag Adrannau Whitehall ar faterion sy'n ymwneud â chyfle cyfartal a hawliau dynol, ac ymgynghorir â mi'n gyson ar ddatblygiadau ym mholisi'r DU sy'n ymwneud â'r materion hyn, er mai Llundain sydd yn dal i fod yn gyfrifol amdanynt yn ffurfiol.
2. Enghreifftiau o ddatblygu polisïau
Cyfeiriais uchod at ddull rhyddfrydol y Cynulliad o ymdrin â Rhyddid Gwybodaeth. Mewn rhai meysydd pwysig, mae'r Cod Gwybodaeth yn mynd y tu hwnt i ddarpariaethau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (sydd hefyd yn mynd ymhellach na Chod Ymarfer presennol Llywodraeth y DU ar Hawl i Weld Gwybodaeth y Llywodraeth). Gosodwyd dyddiad targed ar gyfer ymateb i geisiadau am wybodaeth, sef 20 niwrnod gwaith pan ddaw'r Ddeddf i rym yn 2005, ond 15 diwrnod yw'r targed ar hyn o bryd yn unol â'n Cod Gwybodaeth; ac yn y mwyafrif o achosion, rhaid i ni ystyried a fyddai datgelu'r wybodaeth yn achosi niwed sylweddol. Dan Ddeddf 2000, os yw'r wybodaeth a geisir dan esemptiad absoliwt, yna dyna ddiwedd ar y mater; byddwn, serch hynny, yn datgelu gwybodaeth sydd dan esemptiad aboliwt yn ôl y Ddeddf heblaw mewn achosion lle y byddai gwneud hynny yn achosi niwed sylweddol, yn enghraifft o dor-cyfrinachedd neu'n gofyn i ni weithredu mewn modd sy'n anghyson ag unrhyw ddarpariaeth gyfreithiol.
Hefyd o dan y pennawd Llywodraeth Agored, yn ddiweddarach y mis hwn fe fyddwn ni a Swyddfa Cymru yn cyd-gyhoeddi dogfen ymgynghori sy'n cynnig creu un swyddfa i'r Ombwdsmon yng Nghymru er mwyn dwyn ynghyd swyddfeydd presennol Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru, Ombwdsmon Llywodraeth Leol Cymru ac Ombwdsmon Comisiynydd Gwasanaethau Iechyd Cymru i ffurfio un awdurdodaeth. Os ydym, yng ngoleuni'r sylwadau a gafwyd, yn penderfynu cyflwyno'r cynnig hwnnw, byddwn yn cynnal rownd ymgynghori pellach y flwyddyn nesaf ar union bwerau a swyddogaethau'r swyddfa newydd. Serch hynny mae gofyn cael deddfwriaeth sylfaenol cyn sefydlu swyddfa, a bydd rhaid i ni gael slot mewn rhaglen ddeddfwriaethol yn y dyfodol er mwyn mynd â hyn yn ei flaen.
O ran Cyfle Cyfartal, roedd astudiaeth ddiweddar Mr Paul Chaney a'r Athro Ralph Fevre o Brifysgol Caerdydd ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig wedi dod i'r casgliad bod natur benodol y ddyletswydd [yn Neddf Llywodraeth Cymru] wedi rhoi mwy o gyfleoedd i'r cynrycholiwyr etholedig fod yn fwy arloesol o ran gwneud diwygiadau ym maes cydraddoldeb. O ganlyniad i'r rhesymau hyn datblygwyd agenda cydraddoldeb unigryw dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf. Mae'r awduron yn mynd ymlaen i restru ugain gweithred neu fenter ar wahân a wnaed gan y Cynulliad neu ar ei ran, ac maent yn dangos sut mae'r agenda unigryw wedi datblygu; yn eu plith ceir y camau a gymerwyd i wella'r trefniadau cyflog cyfartal yn y Cynulliad a chyrff cyhoeddus Cymru; diwygiadau helaeth a phell-gyrhaeddiol i hyrwyddo cydraddoldeb yng Ngwasanaeth Sifil y Cynulliad; diwygiadau yn y broses bolisi a gynlluniwyd i wneud cydraddoldeb yn brif ffrwd yng ngwaith y llywodraeth; a gweithredu'r rhaglen Amcan Un mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo cyfle cyfartal i'r grwpiau a ddiffinnir gan iaith, ethnigrwydd ac anabledd yn ogystal â rhyw.
3. Cyfyngu ar Ddyheadau Polisi
Yn gyffredinol rydym wedi gallu datblygu'r mathau hyn o bolisi o fewn y pwerau presennol, ond yn ddiweddar rydym wedi dod ar draws un broblem lle nad yw'n glir eto a yw'n bosibl i ni gyflawni'n dyheadau. Fel a nodwyd uchod, mae Llywodraeth y Cynulliad o'r farn y dylid creu un swyddfa ar gyfer yr Ombwdsmon yng Nghymru yn y dyfodol, hynny yn dilyn ymgynghoriad. Fel y mae'n digwydd, bydd y tair swydd Ombwdsmon yn dod yn wag y flwyddyn nesaf, ac er mwyn cymryd y cam cyntaf tuag at gyrraedd ein hamcan tymor hir, hoffem gael y cyfle i benodi un person i lenwi'r tair swydd; gellid uno'r swyddi yn ddiweddarach yn dilyn cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol. Serch hynny, byddai'n rhaid cyflwyno newid bychan i'r ddeddfwriaeth bresennol cyn gwneud penodiad o'r fath. Nid yw eto'n glir a fydd hi'n bosibl i gyflwyno'r newid hwnnw, trwy ddarpariaeth briodol mewn Mesur yn y Senedd yn y sesiwn newydd neu trwy Orchymyn Diwygio Rheoliadol, cyn y gellir gwneud penodiadau ar gyfer y swyddi presennol. Mae hon felly yn enghraifft bosibl o'r math o rwystrau a geir wrth geisio cyflawni dyhead.
Cyn belled ag y mae cyfle cyfartal yn y cwestiwn, rwyf eisoes wedi gosod y ddyletswydd statudol benodol y mae'n rhaid i'r Cynulliad ei chyflawni yn ôl a.120 o Ddeddf Llywodraeth Cymru. Nid yw hyn yn golygu bod gennym ymrwymiad cyffredinol i hyrwyddo cyfle cyfartal yng nghyd-destun ein swyddogaethau; yn hytrach mae'n ymwneud â gwneud trefniadau. Serch hynny ym maes hil, mae gan y Cynulliad ddylestwydd ar wahân dan Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976, fel a ddiwygiwyd, i fod yn ystyriol "to the need to eliminate unlawful racial discrimination and to promote equality of opportunity and good relations between persons of different racial groups". Mae'r Cynulliad wedi cyflawni'r ddyletswydd dan a.120 mewn sawl maes, ond byddai dwyn ynghyd ein pwerau a'n dyletswyddau sy'n ymwneud â phob agwedd ar gydraddoldeb yn unol â'r ddyletswydd dan Ddeddf 1976 yn cryfhau'n gallu i fynd â'r gwaith hwn yn ei flaen.
Er ein bod wedi sefydlu perthynas waith dda gyda'r tri Comisiwn cydraddoldeb statudol a'u bod yn cynghori'r Pwyllgor Cyfle Cyfartal, nid oes gan y Cynulliad swyddogaethau ffurfiol (er enghraifft penodi aelodau neu ddarparu cymorth ariannol) sy'n ymwneud â'u gwaith hwy yng Nghymru. Efallai y byddai'r hyn sy'n destun ymgynghori gan Lywodraeth y DU ar hyn o bryd, sef y cynnig i sefydlu un Comisiwn Cydraddoldeb i gynnwys yr holl agweddau ar wahaniaethu posibl, yn cynnig cyfle i ni ailystyried y sefyllfa honno.
4. Hyrwyddo'r Dyheadau Polisi hyn trwy Ddylanwadu ar San Steffan
Trwy drafodaethau ag Adrannau Whitehall, mae Llywodraeth y Cynulliad, gyda chymorth Swyddfa Cymru, wedi ceisio nodi'r ffordd ymlaen o ran mater yr Ombwdsmon y soniais amdano uchod; ac rydym yn aros i weld beth fydd y canlyniadau. Ni chafwyd unrhyw drafodaethau o'r fath gyda San Steffan.
5. Dylanwadu ar Bolisïau ym meysydd na ddatganolwyd ond sydd yn berthnasol i'r Portffolio
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dylanwadu ar waith y Swyddfa Gartref ar fater mewnfudwyr a chesiwyr lloches sy'n effeithio ar Gymru, yn arbennig ynghylch lle y gwasgarwyd y ceiswyr lloches a defnyddio Carchar Caerdydd i roi llety iddynt (a allai'n amlwg fod wedi cael effaith bell-gyrhaeddiol y tu hwnt i Gymru hefyd) . Mae hefyd wedi cefnogi adolygiad Cyngor Ffoaduriaid Cymru, er mwyn sicrhau cymorth cyson effeithiol ar gyfer ceiswyr lloches yng Nghymru. Mae'r swyddogion yn cymryd rhan yn y gweithgorau a arweinir gan Whitehall ac sy'n ymwneud â Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data, ac fe fyddant mewn sefyllfa dda, o ystyried ein sefyllfa unigryw ar Hawl i Weld Gwybodaeth, i wneud cyfraniadau pwysig i waith y grwpiau hynny.
6. Rhannu Cyfrifoldebau rhwng Whitehall a'r Cynulliad
Yn gyffredinol nid yw hyn wedi bod yn broblem. Yn wahanol i'm cydweithwyr eraill, bach iawn o'm gwaith sy'n seiliedig ar bwerau a oedd gynt yn weithredol trwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac a drosglwyddwyd i'r Cynulliad, neu a gyflwynwyd trwy ddeddfwriaeth sylfaenol ers 1999. O ystyried y sefyllfa honno, nid yw natur y setliad yn effeithio ar waith portffolio beunyddiol, ac mae fy nghysylltiadau ag Adrannau Whitehall yn ymwneud yn bennaf â mynegi barn Llywodraeth y Cynulliad ar ddatblygiadau polisi arfaethedig mewn meysydd perthnasol, yn hytrach na chydlynu neu negodi cydweithio dros y ffin sy'n bodoli rhwng y swyddogaethau a drosglwyddwyd a'r rheini sydd heb eu trosglwyddo.
Gobeithiaf y bydd y dystiolaeth hon yn ddefnyddiol, ac edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r Comisiwn ar 22 Tachwedd i drafod ymhellach.
Yn gywir
Carwyn Jones signature
Carwyn Jones AC