Minister for Open Government
Gweinidog dros Lywodraeth Agored |
| Ein cyf: SF/CJ/1136/02 |
|
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
|
Y Gwir Anrh Arglwydd Richard QC,
Cadeirydd,
Comisiwn ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad
Cenedlaethol Cymru,
Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn
Ystafell 1-11, CP1,
Parc Cathays,
Caerdydd
CF10 3NW. |
|
8 Tachwedd 2002
|
|
| Annwyl Arglwydd Richard |
| Estynnoch wahoddiad i mi gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig
cyn fy nhrafodaeth â'r Comisiwn ar 22 Tachwedd. Mae'n
falch gennyf wneud hyn er, fel y daw'n amlwg, bod natur
fy mhortffolio bresennol yn golygu nad yw rhai o'ch cwestiynau
yn gwbl berthnasol i mi. Serch hynny, rhestraf y cwestiynau
yn y drefn a roddwyd yn eich llythyr dyddiedig 29 Gorffennaf: |
| 1. Yr ystod o faterion y mae fy mhortffolio yn ei
gynnwys, a'r pwerau sydd gennyf i weithredu polisïau newydd. |
| Mae fy mhortffolio yn cynnwys nifer o faterion, fel
a ganlyn. |
| Mae Rheol Sefydlog 2.5 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r
Prif Weinidog ddynodi un aelod o Gabinet y Cynulliad i
fod yn gyfrifol am reoli busnes y Cynulliad yn gywir.
Fy swyddogaeth i yw honno ar hyn o bryd. Nid wyf am ddweud
mwy am hynny yn y cyflwyniad hwn oherwydd rwyf ar ddeall
y bydd Andrew Davies, y Rheolwr Busnes a'm rhagflaenodd,
yn darparu nodyn i chi ynghylch y rôl; ond byddwn wrth
gwrs yn falch i drafod y mater gyda chi ar 22 Tachwedd. |
| Fel y Gweinidog dros Lywodraeth Agored, rwyf yn gyfrifol
am strategaeth gyfathrebu Llywodraeth y Cynulliad. Mae
gennyf hefyd ddyletswydd i gadw llygad ar faterion sy'n
ymwneud â Rhyddid Gwybodaeth. Yn 2001 mabwysiadodd y Cynulliad
God Ymarfer ar Hawl y Cyhoedd i Weld Gwybodaeth (y Cod
Gwybodaeth), sy'n seiliedig ar Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
2000 ond sydd yn ychwanegu rhai agweddau eraill ati. Pan
ddaw'r Ddeddf i rym yn 2005 bydd yn berthnasol i'r Cynulliad
ond rwy'n rhagweld y byddwn am barhau i'w defnyddio fel
sail i'n dulliau rhyddfrydig ni o ymdrin â'r materion
hyn (ac felly y bydd, efallai, yn enghraifft o'r Cynulliad
yn gweithredu polisi gwahanol, ond nid un sy'n golygu
ei fod yn gweithredu pwerau statudol ffurfiol). Y fi yw
cyswllt Gweinidogol Llywodraeth y Cynulliad â Chomisynydd
Gwybodaeth y DU ar faterion sy'n ymwneud â Diogelu Data
â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Yn yr un modd rwyf hefyd
yn cynnal gorolwg o bolisïau'r Cynulliad ar benodiadau
cyhoeddus ac yn y cyswllt hwn rwyf yn cydweithio'n agos
â Chomisiynydd Penodiadau Cyhoeddus y DU. A'r pwynt olaf
dan y pennawd hwn, sef mai myfi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol
am gynnal gorolwg cyffredinol o faterion sy'n ymwneud
â'r Ombwdsmon yng Nghymru, ac rwy'n delio ag Ombwdsmon
Gweinyddiaeth Cymru fel y bo angen (er bod fy nghydweithwyr
Edwina Hart a Jane Hutt yn gyfrifol am ddelio â'r Ombwdsmon
Llywodraeth Leol a Chomisiynydd Gwasanaethau Iechyd Cymru,
yn y drefn honno). |
| Cyfle Cyfartal yw'r trydydd maes eang sy'n rhan o'm
mhortffolio. Fel y byddwch eisoes yn gwybod, mae adran
120 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfrifoldeb penodol
ar y Cynulliad Cenedlaethol i wneud "appropriate arrangements
with a view to securing that its functions are exercised
with due regard to the principle that there should be
equality of opportunity for all people". Rhaid i'r Cynulliad
gyflawni dyletswyddau cyffelyb o ran y modd y mae'n cynnal
ei fusnes. Felly ystyrir bod cyfle cyfartal yn un o'r
prif themâu sydd i'w gweld ym mhob agwedd ar waith y Cynulliad.
Mae Rheolau Sefydlog presennol y Cynulliad yn nodi mai
Gweinidog a ddylai fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal
(er y bydd y sefyllfa'n newid ym mis Mai), ac rwy'n cyflawni'r
swydd honno. Y fi hefyd yw cyswllt Gweinidogol Llywodraeth
y Cynulliad ag Adrannau Whitehall ar faterion sy'n ymwneud
â chyfle cyfartal a hawliau dynol, ac ymgynghorir â mi'n
gyson ar ddatblygiadau ym mholisi'r DU sy'n ymwneud â'r
materion hyn, er mai Llundain sydd yn dal i fod yn gyfrifol
amdanynt yn ffurfiol. |
| 2. Enghreifftiau o ddatblygu polisïau |
| Cyfeiriais uchod at ddull rhyddfrydol y Cynulliad o
ymdrin â Rhyddid Gwybodaeth. Mewn rhai meysydd pwysig,
mae'r Cod Gwybodaeth yn mynd y tu hwnt i ddarpariaethau
Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (sydd hefyd yn mynd ymhellach
na Chod Ymarfer presennol Llywodraeth y DU ar Hawl i Weld
Gwybodaeth y Llywodraeth). Gosodwyd dyddiad targed ar
gyfer ymateb i geisiadau am wybodaeth, sef 20 niwrnod
gwaith pan ddaw'r Ddeddf i rym yn 2005, ond 15 diwrnod
yw'r targed ar hyn o bryd yn unol â'n Cod Gwybodaeth;
ac yn y mwyafrif o achosion, rhaid i ni ystyried a fyddai
datgelu'r wybodaeth yn achosi niwed sylweddol. Dan Ddeddf
2000, os yw'r wybodaeth a geisir dan esemptiad absoliwt,
yna dyna ddiwedd ar y mater; byddwn, serch hynny, yn datgelu
gwybodaeth sydd dan esemptiad aboliwt yn ôl y Ddeddf heblaw
mewn achosion lle y byddai gwneud hynny yn achosi niwed
sylweddol, yn enghraifft o dor-cyfrinachedd neu'n gofyn
i ni weithredu mewn modd sy'n anghyson ag unrhyw ddarpariaeth
gyfreithiol. |
| Hefyd o dan y pennawd Llywodraeth Agored, yn ddiweddarach
y mis hwn fe fyddwn ni a Swyddfa Cymru yn cyd-gyhoeddi
dogfen ymgynghori sy'n cynnig creu un swyddfa i'r Ombwdsmon
yng Nghymru er mwyn dwyn ynghyd swyddfeydd presennol Ombwdsmon
Gweinyddiaeth Cymru, Ombwdsmon Llywodraeth Leol Cymru
ac Ombwdsmon Comisiynydd Gwasanaethau Iechyd Cymru i ffurfio
un awdurdodaeth. Os ydym, yng ngoleuni'r sylwadau a gafwyd,
yn penderfynu cyflwyno'r cynnig hwnnw, byddwn yn cynnal
rownd ymgynghori pellach y flwyddyn nesaf ar union bwerau
a swyddogaethau'r swyddfa newydd. Serch hynny mae gofyn
cael deddfwriaeth sylfaenol cyn sefydlu swyddfa, a bydd
rhaid i ni gael slot mewn rhaglen ddeddfwriaethol yn y
dyfodol er mwyn mynd â hyn yn ei flaen. |
| O ran Cyfle Cyfartal, roedd astudiaeth ddiweddar Mr
Paul Chaney a'r Athro Ralph Fevre o Brifysgol Caerdydd
ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig wedi dod i'r casgliad
bod natur benodol y ddyletswydd [yn Neddf Llywodraeth
Cymru] wedi rhoi mwy o gyfleoedd i'r cynrycholiwyr etholedig
fod yn fwy arloesol o ran gwneud diwygiadau ym maes cydraddoldeb.
O ganlyniad i'r rhesymau hyn datblygwyd agenda cydraddoldeb
unigryw dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf. Mae'r awduron
yn mynd ymlaen i restru ugain gweithred neu fenter ar
wahân a wnaed gan y Cynulliad neu ar ei ran, ac maent
yn dangos sut mae'r agenda unigryw wedi datblygu; yn eu
plith ceir y camau a gymerwyd i wella'r trefniadau cyflog
cyfartal yn y Cynulliad a chyrff cyhoeddus Cymru; diwygiadau
helaeth a phell-gyrhaeddiol i hyrwyddo cydraddoldeb yng
Ngwasanaeth Sifil y Cynulliad; diwygiadau yn y broses
bolisi a gynlluniwyd i wneud cydraddoldeb yn brif ffrwd
yng ngwaith y llywodraeth; a gweithredu'r rhaglen Amcan
Un mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo cyfle cyfartal i'r grwpiau
a ddiffinnir gan iaith, ethnigrwydd ac anabledd yn ogystal
â rhyw. |
| 3. Cyfyngu ar Ddyheadau Polisi |
| Yn gyffredinol rydym wedi gallu datblygu'r mathau hyn
o bolisi o fewn y pwerau presennol, ond yn ddiweddar rydym
wedi dod ar draws un broblem lle nad yw'n glir eto a yw'n
bosibl i ni gyflawni'n dyheadau. Fel a nodwyd uchod, mae
Llywodraeth y Cynulliad o'r farn y dylid creu un swyddfa
ar gyfer yr Ombwdsmon yng Nghymru yn y dyfodol, hynny
yn dilyn ymgynghoriad. Fel y mae'n digwydd, bydd y tair
swydd Ombwdsmon yn dod yn wag y flwyddyn nesaf, ac er
mwyn cymryd y cam cyntaf tuag at gyrraedd ein hamcan tymor
hir, hoffem gael y cyfle i benodi un person i lenwi'r
tair swydd; gellid uno'r swyddi yn ddiweddarach yn dilyn
cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol. Serch hynny, byddai'n
rhaid cyflwyno newid bychan i'r ddeddfwriaeth bresennol
cyn gwneud penodiad o'r fath. Nid yw eto'n glir a fydd
hi'n bosibl i gyflwyno'r newid hwnnw, trwy ddarpariaeth
briodol mewn Mesur yn y Senedd yn y sesiwn newydd neu
trwy Orchymyn Diwygio Rheoliadol, cyn y gellir gwneud
penodiadau ar gyfer y swyddi presennol. Mae hon felly
yn enghraifft bosibl o'r math o rwystrau a geir wrth geisio
cyflawni dyhead. |
| Cyn belled ag y mae cyfle cyfartal yn y cwestiwn, rwyf
eisoes wedi gosod y ddyletswydd statudol benodol y mae'n
rhaid i'r Cynulliad ei chyflawni yn ôl a.120 o Ddeddf
Llywodraeth Cymru. Nid yw hyn yn golygu bod gennym ymrwymiad
cyffredinol i hyrwyddo cyfle cyfartal yng nghyd-destun
ein swyddogaethau; yn hytrach mae'n ymwneud â gwneud trefniadau.
Serch hynny ym maes hil, mae gan y Cynulliad ddylestwydd
ar wahân dan Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976, fel a ddiwygiwyd,
i fod yn ystyriol "to the need to eliminate unlawful racial
discrimination and to promote equality of opportunity
and good relations between persons of different racial
groups". Mae'r Cynulliad wedi cyflawni'r ddyletswydd dan
a.120 mewn sawl maes, ond byddai dwyn ynghyd ein pwerau
a'n dyletswyddau sy'n ymwneud â phob agwedd ar gydraddoldeb
yn unol â'r ddyletswydd dan Ddeddf 1976 yn cryfhau'n gallu
i fynd â'r gwaith hwn yn ei flaen. |
| Er ein bod wedi sefydlu perthynas waith dda gyda'r tri
Comisiwn cydraddoldeb statudol a'u bod yn cynghori'r Pwyllgor
Cyfle Cyfartal, nid oes gan y Cynulliad swyddogaethau
ffurfiol (er enghraifft penodi aelodau neu ddarparu cymorth
ariannol) sy'n ymwneud â'u gwaith hwy yng Nghymru. Efallai
y byddai'r hyn sy'n destun ymgynghori gan Lywodraeth y
DU ar hyn o bryd, sef y cynnig i sefydlu un Comisiwn Cydraddoldeb
i gynnwys yr holl agweddau ar wahaniaethu posibl, yn cynnig
cyfle i ni ailystyried y sefyllfa honno. |
| 4. Hyrwyddo'r Dyheadau Polisi hyn trwy Ddylanwadu
ar San Steffan |
| Trwy drafodaethau ag Adrannau Whitehall, mae Llywodraeth
y Cynulliad, gyda chymorth Swyddfa Cymru, wedi ceisio
nodi'r ffordd ymlaen o ran mater yr Ombwdsmon y soniais
amdano uchod; ac rydym yn aros i weld beth fydd y canlyniadau.
Ni chafwyd unrhyw drafodaethau o'r fath gyda San Steffan. |
| 5. Dylanwadu ar Bolisïau ym meysydd na ddatganolwyd
ond sydd yn berthnasol i'r Portffolio |
| Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dylanwadu ar waith
y Swyddfa Gartref ar fater mewnfudwyr a chesiwyr lloches
sy'n effeithio ar Gymru, yn arbennig ynghylch lle y gwasgarwyd
y ceiswyr lloches a defnyddio Carchar Caerdydd i roi llety
iddynt (a allai'n amlwg fod wedi cael effaith bell-gyrhaeddiol
y tu hwnt i Gymru hefyd) . Mae hefyd wedi cefnogi adolygiad
Cyngor Ffoaduriaid Cymru, er mwyn sicrhau cymorth cyson
effeithiol ar gyfer ceiswyr lloches yng Nghymru. Mae'r
swyddogion yn cymryd rhan yn y gweithgorau a arweinir
gan Whitehall ac sy'n ymwneud â Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu
Data, ac fe fyddant mewn sefyllfa dda, o ystyried ein
sefyllfa unigryw ar Hawl i Weld Gwybodaeth, i wneud cyfraniadau
pwysig i waith y grwpiau hynny. |
| 6. Rhannu Cyfrifoldebau rhwng Whitehall a'r Cynulliad |
| Yn gyffredinol nid yw hyn wedi bod yn broblem. Yn wahanol
i'm cydweithwyr eraill, bach iawn o'm gwaith sy'n seiliedig
ar bwerau a oedd gynt yn weithredol trwy Ysgrifennydd
Gwladol Cymru ac a drosglwyddwyd i'r Cynulliad, neu a
gyflwynwyd trwy ddeddfwriaeth sylfaenol ers 1999. O ystyried
y sefyllfa honno, nid yw natur y setliad yn effeithio
ar waith portffolio beunyddiol, ac mae fy nghysylltiadau
ag Adrannau Whitehall yn ymwneud yn bennaf â mynegi barn
Llywodraeth y Cynulliad ar ddatblygiadau polisi arfaethedig
mewn meysydd perthnasol, yn hytrach na chydlynu neu negodi
cydweithio dros y ffin sy'n bodoli rhwng y swyddogaethau
a drosglwyddwyd a'r rheini sydd heb eu trosglwyddo. |
| Gobeithiaf y bydd y dystiolaeth hon yn ddefnyddiol,
ac edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r Comisiwn ar 22 Tachwedd
i drafod ymhellach. |
| Yn gywir |
 |
| Carwyn Jones AC |
|
|