Llywodraeth Cynulliad Cymru Mynegai i'r Pynciau Y Comisiwn Richard
       
   
 
Llywodraeth Cynulliad Cymru Newyddion * Aelodau * Ymgynghoriad * Rhestr o Ddigwyddiadau * Rhestr o Dystiolaeth * Cwestiynau Cyffredin * Safleoedd Allanol * Cysylltwch â ni
*
 

ADRODDIAD AR GYNNYDD MENTER RHEOLAETH Y GWASANAETH CYHOEDDUS TYSTIOLAETH YSGRIFENNYDD PARHAOL CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

Yn fy nhystiolaeth gynharach, disgrifiais amlinelliad bras y fenter. Amcan y fenter yw creu carfan o weision cyhoeddus sy’n brofiadol yn eu maes eu hunain yn y gwasanaeth cyhoeddus ond sydd yn fwyfwy yn meddu ar ddealltwriaeth dda, a phrofiad, o weithio mewn rhannau gwahanol o'r sector cyhoeddus. Byddai hyn yn cael ei wneud drwy hyfforddi a datblygu ar y cyd mewn arweinyddiaeth a rheolaeth (gan gynnwys, er enghraifft, secondiadau). Dylai hyn helpu i ddatblygu set gyffredin o werthoedd a phrofiadau ymhlith y staff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, a ddylai ychwanegu at eu cyfleoedd gyrfaol ac ehangu arnynt. Dylai helpu hefyd i leihau'r anawsterau a geir ar hyn o bryd mewn mannau penodol ar hyd y "gadwyn gyflwyno ", gan anelu'n gyffredinol ar sicrhau gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon ac effeithiol.
I helpu i ddatblygu'r syniadau hyn, sefydlais Fwrdd Project sydd â chynrychiolwyr arno o fannau ar draws y sector. Cyflwynodd adroddiad ar ddiwedd 2002 gydag amlinelliad bras o sut y gallai'r fenter symud yn ei flaen sydd wedi'i ategu gan y Prif Weinidog a chan wleidyddion o bwys mewn llywodraeth leol. Er ei bod yn anodd rhoi gwerth ariannol penodol ar y fenter, cadarnhaodd y project fod modd enwi amrywiaeth o fanteision llai pendant lle bydd gwerth yn cael ei ychwanegu.
Gall y rhain gael eu crynhoi fel a ganlyn:-
  • Gwella enw da gwasanaeth cyhoeddus Cymru fel sefydliadau blaengar ac arloesol a chyflogwyr sy'n gosod esiampl
  • Cyfnewid syniadau a datblygiadau polisi ar y lefelau uchaf, gan gynnwys dod â blaenoriaethau cenedlaethol a lleol at ei gilydd
  • Gwell partneriaeth a rhwydweithio ar draws y sectorau cyhoeddus a fydd yn arwain at well dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau ein gilydd
  • Dealltwriaeth gliriach o flaenoriaethau, heriau a galluoedd ein gilydd gan arwain, gobeithio, at gynlluniau sydd wedi'u targedu'n well ac yn fwy cyraeddadwy
  • Gwell cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu ar lefel yr unigolyn a'r sefydliad er mwyn caniatáu i bobl gyfrannu hyd eithaf eu potensial
  • Gwella perfformiad drwy ddatblygu arweinyddiaeth y gwasanaeth cyhoeddus.
    Ym mis Mai 2003 penodais un o Gyfarwyddwyr y Bwrdd Gweithredol yn Gyfarwyddydd Rhaglen i fwrw ymlaen â'r fenter. Mae wrthi'n sefydlu tîm cymorth bach, o blith y partneriaid posibl. Dros y flwyddyn nesaf, rwy'n disgwyl i'r project gael ei gadarnhau hyd at bwynt lle bydd gennyn ni gytundeb cadarn ar yr hyn y mae angen ei wneud a sut, ar beth y dylid hoelio'r sylw i ddechrau a sut y bydd yn datblygu, ac ymrwymiad cryf gan y gwahanol bartneriaid i ddefnyddio (ac i ariannu) y gweithgareddau datblygu a fydd yn cael eu cynnig.
    Rhagwelir y bydd cynnydd yn cael ei wneud o dipyn i beth gan arwain at ffrwd eang o weithgareddau dros gyfnod o amser. I ddechrau, rydym yn disgwyl defnyddio dull 3-haen:-
  • Prif Weithredwyr/Cyfarwyddwyr – dysgu drwy gyd-weithgareddau a fydd yn canolbwyntio'n bennaf ar eu rôl fel arweinwyr a'r pynciau trafod allweddol i'r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru
  • Rheolwyr uwch ac (yn fwyfwy) rheolwyr canol – cyfleoedd i weithio ar faterion ymarferol ar draws y sefydliadau, ar y cyd â rhaglenni datblygu arweinyddiaeth er mwyn creu'r gallu i ymdopi â'u rolau yn y dyfodol.
  • Graddedigion 'ar garlam': datblygu Cynllun Hyfforddi Gwasanaeth Cyhoeddus i Raddedigion yng Nghymru, gan gynnig lleoliadau yn (o leiaf) y Gwasanaeth Sifil, yr GIG a llywodraeth leol, ar y cyd mae'n debyg â rhaglen Gradd Athro.
    Bydd yn bwysig cynnig her ar y lefel iawn i'r rhai a fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen, felly mae'n debyg y bydd y gweithgareddau'n defnyddio darparwyr a siaradwyr o ansawdd uchel o'r tu allan i Gymru yn ogystal ag o Gymru ei hun. Rhaid i'r safonau fod yn uchel iawn er mwyn hybu rhagoriaeth ymhlith arweinwyr a rheolwyr a, trwyddyn nhw, yn y gwasanaethau y maen nhw'n gyd-gyfrifol amdanyn nhw.
    Nid wyf yn disgwyl y bydd hyn yn arwain at un gwasanaeth cyhoeddus, monolithig, i Gymru. Mae'r trefniadau cyfansoddiadol presennol yn golygu nad yw hynny'n briodol. Yn hytrach, rwy'n gweld y gwasanaeth cyhoeddus yn un endid, ac iddo sawl cydran, lle mae unigolion yn cael cyfleoedd i symud yn hwylus rhwng y sectorau a lle y bydd gan y staff uwch ddealltwriaeth o rôl a sefydliad ei gilydd ac, yn fwyfwy, profiad uniongyrchol mewn sectorau eraill. Dylai hyn helpu i hybu ethos a gwerthoedd cyffredin yn y sector cyhoeddus.
    Mae'r gweithgareddau penodol a ragwelir ar gyfer y flwyddyn neu ddwy nesaf yn cynnwys:-
  • Sefydlu fframwaith datblygu y cytunir arno ar draws y sector cyhoeddus, a hwnnw'n cynnwys gwerthoedd a chymwyseddau craidd (i arweinwyr a rheolwyr) ond sy'n defnyddio'r arferion gorau ar draws y DU ac yn ehangach. Dylai gydategu ac adeiladu ar waith sydd wedi'i wneud eisoes gan sefydliadau'r partneriaid gan gynnwys yr GIG a’i Goleg Arweinyddiaeth i Gymru, Uwch-wasanaeth Sifil y Cynulliad, awdurdodau lleol, a gweithgareddau a gefnogir gan Syniad ar ran CLlLC.
  • Gwaith manylach ar y manteision a ragwelir a fydd yn fframwaith ar gyfer gweithgareddau penodol, a hefyd yn datblygu yn rhaglen gloriannu ar gyfer y fenter.
  • Rhai gweithgareddau cynnar i helpu i feithrin dealltwriaeth a pherchnogaeth ar y cynigion a chynnig cyfleoedd i unigolion allweddol, gan helpu hefyd i roi cynnig ar syniadau wrth iddyn nhw ddatblygu. Mae'r rhain yn debyg o gynnwys:-
  • ambell ddigwyddiad blaenllaw i Brif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr uwch yn y sefydliadau perthnasol yng Nghymru
  • rhywfaint o weithgareddau datblygu strwythuredig i reolwyr uwch, a hynny ynghylch arweinyddiaeth/rheolaeth a materion polisi penodol. (Gallai canlyniadau'r olaf gael eu bwydo'n ôl i’r Prif Weithredwyr i helpu i sicrhau bod y gwelliannau a nodir yn cael eu gwireddu)
  • Rhaglen o secondiadau/cyfleoedd i ddilyn gwaith
  • Gwaith manylach ar y cynllun hyfforddi arfaethedig i raddedigion
  • Edrych ar gysylltiadau ag amryw byd o fentrau perthnasol a darparwyr yng Nghymru (ee Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella), yn ehangach yn y DU (megis yr amrywiol golegau arweinyddiaeth sy'n cael eu sefydlu yn Lloegr, Sefydliad Arweinyddiaeth yr Alban, adrannau prifysgol sy'n arbenigo ar arweinyddiaeth a datblygu'r sector cyhoeddus) a thros y môr (er enghraifft, Canada, Seland Newydd, Awstralia ac UDA).
  • Consensws, erbyn haf 2004, ar raglen weithgareddau at y tymor hirach, sut y cân nhw eu darparu a’u hariannu ac ymrwymiad gan y partneriaid allweddol i roi arian a chymorth. Y disgwyl ar hyn o bryd yw y bydd gofyn sefydlu 'Canolfan' a thîm cymorth bach, o dan arweiniad arbenigydd datblygu cydnabyddedig, gyda rhywfaint o staff parhaol ond yn defnyddio yn bennaf amrediad o ddarparwyr o ansawdd uchel o Gymru a'r tu allan. Bydd y Ganolfan yn atebol i Gyd-fwrdd Rheoli. Nid yw'n debyg o gael ei chysylltu yn ffurfiol ag unrhyw sefydliad sydd eisoes yn bod (ac eithrio o bosibl ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth ac isadeiledd yn y tymor byr i ganolig). Mae'r gweithgareddau datblygu unigol yn debyg o ddigwydd yn yr amrywiaeth eang o sefydliadau presennol neu ar safleoedd addas eraill.
    Ar yr adeg gynnar yma, mae cymorth yn cael ei roi gan rai o brif sefydliadau'r bartneriaeth, yn rhannol drwy ddarparu staff i fwrw ymlaen â'r project ac ychydig bach o adnoddau ar gyfer y gweithgareddau cychwynnol. Dros amser, byddwn yn disgwyl i'r gweithgareddau a’r trefniadau cymorth a fydd yn gysylltiedig â nhw eu hariannu eu hunain i raddau helaeth o'r adnoddau sydd eisoes yn cael eu gwario ar hyfforddi a datblygu yn sefydliadau'r bartneriaeth. Mae'n debyg y byddai hyd yn oed gwelliant bach yn yr effeithiolrwydd wrth reoli gwariant y Cynulliad o fwy nag £11 biliwn yn fwy na'r costau sy'n debyg o godi yn sgil y Fenter.
     
    Yn ôl i'r Brig