|
3.1 |
Deddfwriaeth Fframweithiol |
|
|
Un posibilrwydd fyddai i
gytundeb ffurfiol, trwy Ddatganiad Egwyddorion, sicrhau y byddai pob deddfwriaeth
sylfaenol newydd mewn meysydd syn berthnasol i gwmpas sylwr Cynulliad
Cenedlaethol, yn cael ei llunio mewn modd fyddain gadael y disgresiwn mwyaf posibl
ir Cynulliad yng nghyswllt gweithredu polisi. Y peth delfrydol fyddai i ddeddfau
seneddol newydd ddarparu fframwaith syml y byddai gan y Cynulliad y rhyddid mwyaf posibl y
tu mewn iddo i lunio deddfwriaeth eilaidd. |
|
|
Er enghraifft, mewn perthynas â Deddf y Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, mi
allai cymal yn y Bil fod wedi datgan: "For Wales the National Assembly may by Order
make new provision for public access to the countryside; to amend the law relating to
public rights of way; to enable traffic regulations to be made for the purpose of
conserving an areas natural beauty; to make provision with respect to the driving of
mechanically propelled vehicles elsewhere than on roads; to amend the law relating to
nature conservation and the protection of wildlife; and for connected purposes" |
|
|
Buasai hyn wedi hyrwyddo datblygiad darpariaethau wediu
haddasun unswydd ar gyfer yr amgylchiadau penodol yng Nghymru sydd, y gellid dadlau,
yn sylweddol wahanol i rai Lloegr. |
|
|
Nid oes yr un rhwystr cyfansoddiadol yn atal y fath
fesur rhag cael ei fabwysiadu ar unwaith. Byddair Cynulliad Cenedlaethol yn dal i
fod yn gyfyngedig i ddeddfwriaeth eilaidd, a byddai hanfod y trefniant presennol yn cael
ei barchu. Nid yw Deddf Llywodraeth Cymrun rhagnodi pa batrwm o bwerau ddylai gael
ei osod ar y Cynulliad Cenedlaethol yn y dyfodol, ac mae cynsail gyfansoddiadol ir
dull gweithredu hwn mewn bodolaeth yn barod yn y ffordd y mae deddfwriaeth yn cael ei
chyflenwi yng Ngogledd Iwerddon tra bod y Cynulliad yno wedi cael ei atal dros dro. |
|
|
Fe allai Datganiad
Egwyddorion gwmpasu materion megis ymrwymiad i beidio â chrafangio pwerau yn ôl or
Cynulliad Cenedlaethol wrth i ddeddfwriaeth newydd gael ei rhoi mewn grym. |
|
3.2 |
Ehangu Pwerau Gweithredol |
|
|
Mae dau opsiwn ar gael i
gyrraedd y diben hwn. Y cyntaf fyddai ychwanegu fesul tipyn at y pwerau gweithredol sydd
mewn bodolaeth. Y llall fyddai trosglwyddor holl swyddogaethau gweithredol mewn maes
penodol. |