1. Gwreiddiau’r Trefniadau Cyfansoddiadol Presennol
Mae’r drafodaeth ynghylch sefydlu Senedd neu Gynulliad i Gymru wedi cael ei chodi dro ar ôl tro, ag ynni amrywiol, ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe aeth yr ymdrech ddifrifol gyntaf i wireddu’r syniad i’r gwellt yn sgil Refferendwm 1979. Am nifer o resymau nad oes angen manylu arnynt yn y ddogfen hon, cynyddodd y pwysau o blaid rhyw fath o ddatganoli ar hyd yr wythdegau a’r nawdegau. Ond wedi i Lywodraeth Lafur gael ei hethol ym 1997, ychydig iawn o drafodaeth gyhoeddus ddwys a glywyd a phrin y rhoddwyd ystyriaeth i fodelau amgen, cyn i’r unig fath o ddatganoli a oedd ar gael i Gymru gael ei roi mewn grym.
Yn yr Alban yr oedd y Gymanfa Genedlaethol, â’i haelodaeth yn cynrychioli pleidiau gwleidyddol, y partneriaid cymdeithasol a’r gymdeithas wladol, wedi cydymgynghori am ryw hyd, dod at gonsensws a chyflwyno argymhellion manwl ar gyfer deddfwriaeth. Mynegwyd ysbryd yr argymhellion hyn yn ddiweddarach yn Neddf yr Alban. Yng Nghymru, ar y llaw arall, fe ddaeth yr argymhellion penodol ynghylch datganoli i fodolaeth o ganlyniad i fargeinio o fewn y blaid a oedd mewn grym, sef Llafur, rhwng y rhai a oedd yn ffafrio model tebyg i’r hyn fyddai’n cael ei weithredu yn yr Alban, a’r rhai a oedd yn ffyrnig wrthwynebu’r mymryn lleiaf o ddatganoli, cysyniad a ystyrid ganddynt yn gonsesiwn di-angen i "ymwahaniaeth".
Dim amgen na datganoli gweithredol oedd hanfod yr argymhellion canlyniadol a gyflwynwyd i bobl Cymru, yn anad dim, fel mater syml o ddemocrateiddio’r Swyddfa Gymreig ar y pryd. Honnwyd bod datganoli gweinyddol mewn bodolaeth eisoes. Byddai trosglwyddo atebolrwydd democrataidd o Aelodau Seneddol yn San Steffan i Aelodau’r Cynulliad yng Nghaerdydd yn golygu’r cynnydd lleiaf yng nghostau a chymhlethdod llywodraeth, a byddai unrhyw gynnydd yn cael ei orbwyso’n hael gan y manteision o ran effeithioldeb ac ymatebolrwydd i’r etholwyr ac i anghenion Cymru.
Ond yn ystod y drafodaeth a’r ymgyrch, codwyd dyheadau y byddai sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn hebrwng i mewn broses o lunio a gweithredu amrediad eang o bolisïau wedi’u cynllunio gyda’r nod penodol o gwrdd ag anghenion Cymru a’i chymunedau. Byddai’r Cynulliad felly yn medru cyfrannu at ryddhau potensial y genedl a orweddasai ynghwsg ers canrifoedd gan weld ei blaenoriaethau’n dod yn ail i rai’r prif bartner yn yr Undeb, Lloegr.
Yr agendor rhwng yr holl ddyheadau hyn ar y naill law, a realiti’r trefniadau cyfansoddiadol a roddwyd mewn grym trwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ar y llaw arall, sydd wedi ennyn y rhwystredigaeth ddwys, a’r dadrithiad sylweddol hyd yn oed, y mae’r cyhoedd wedi’u teimlo wrth weld methiant y Cynulliad Cenedlaethol i newid pethau er gwell.
Ni ddylai’r fath ffenomen fod yn syndod i neb. Oherwydd yr oedd natur sylfaenol yr hen Swyddfa Gymreig yn golygu na allai byth fod yn ddarpar lywodraeth i Gymru. Adran diriogaethol ydoedd, a chanddi’r dasg o gyflawni’r un swyddogaethau yng Nghymru â’r gweinyddiaethau hynny yn Whitehall yr oedd eu cyfrifoldebau wedi cael eu trosglwyddo i Gymru. Ni ellid dychmygu o ddifrif y gallai ddechrau datblygu polisïau ar wahân i Gymru. Mi fuasai gweithredu yn y fath fodd yn hollol groes i’r egwyddor o gyd-gyfrifoldeb sydd yn gorfodi gweinidogion i lynu wrth set unffurf o bolisïau ar gyfer y DU gyfan. Er bod rhywfaint o amrywiaeth yn bosibl mewn meysydd penodol megis Addysg, fe ganiateid hyn bob amser ar yr amod nad oedd yr amrywiolyn yn herio egwyddorion ysgogol polisi’r DU, gan gynnwys er enghraifft marchnadeiddio’r system ysgolion a mynd ag Addysg Bellach o reolaeth yr awdurdodau lleol. Y maes arall lle y gellid llunio polisi gwahanol i Gymru oedd yr iaith Gymraeg, lle nad oedd bwriad na phosibilrwydd o lunio polisi ar raddfa Brydeinig. Ar wahân i’r eithriadau cyfyngedig hyn, dyletswydd y Swyddfa Gymreig a gweinidogion y Swyddfa Gymreig oedd peidio â chwestiynu polisi’r wladwriaeth Brydeinig o gwbl, na datblygu polisïau amgenach i Gymru ar unrhyw gyfrif. Eu rôl oedd mynd ati’n ffyddlon i weithredu polisïau’r DU yng Nghymru.
Os mai datblygu agenda polisi arwahanol i Gymru oedd y nod felly, gellir honni‘n rhesymol ei bod yn amlwg fod Cynulliad Cenedlaethol, wedi’i seilio ar drosglwyddiad holl swyddogaethau’r hen Swyddfa Gymreig a’i gweinidogion, yn hollol anaddas i’r diben hwnnw.
Mae ymateb y cyhoedd i’r sefyllfa hon yn arwyddocaol iawn. Mae’r egwyddor y dylai Cymru feddu ar ryw lefel o hunanlywodraeth yn cael ei derbyn yn gynyddol eang bellach. Mae’r rhwystredigaeth a deimlir gan lawer ynghylch y proses llywodraethol yng Nghymru yn eu harwain nid i fynnu bod datganoli’n cael ei gildroi, eithr i hawlio rhagor. Mae mwyafrif llethol o bobl Cymru bellach yn cefnogi naill ai’r status quo neu ddatganoliad deddfwriaethol yn debyg i fodel yr Alban, ac yn y gefnogaeth i’r ail opsiwn hwn y gwelir y cynnydd mwyaf.
Dewis Cyfansoddiadol Cyntaf 1997 1999 2001
Annibyniaeth

14%

10% 12%
Senedd i Gymru 20% 30% 39%
Y Cynulliad presennol 27% 35% 26%
Rhan o’r DU heb Senedd 40% 25% 24%

Richard Wyn Jones a Roger Scully, ‘Let’s make it work’ yn Agenda, Gaeaf 2002/2003 ar sail data o’r Astudiaeth ar Etholiadau Cymreig (Wales Life and Times Study), 2001

Mae’n ymddangos i ni fod y ddadl dros symud yn gyflym tuag at well model llywodraethol i Gymru yn ddiymwad, o ystyried y cydgyfeiriant sydd yn dod yn fwyfwy amlwg bellach rhwng cefnogaeth y cyhoedd ac arferion da cyfansoddiadol, a hyd yn oed synnwyr cyffredin cyfansoddiadol.

Brig y Dudalen