4 Symud ymlaen
4.1 Pwerau Deddfwriaethol Llawn
Wrth inni ystyried y modd gorau o symud ymlaen, mae yna un cwestiwn sylfaenol i’w ateb. A ddylai Cymru, trwy’r Cynulliad Cenedlaethol, fod yn rhydd i ddatblygu a gweithredu ei hagenda bolisi ei hun yn unol â’i blaenoriaethau a’i gwerthoedd, o leiaf yn y meysydd hynny sydd ar hyn o bryd o fewn cwmpas ei gallu i weithredu? Ac ymddengys ail gwestiwn ar ei sodlau. A ddylai’r Cynulliad Cenedlaethol feddu ar yr offerynnau, ac yn benodol y pwerau deddfwriaethol llawn a ystyrir yn hanfodol fel arfer, fyddai’n ei alluogi i weithredu agenda bolisi awtonomaidd? Ateb Plaid Cymru - The Party of Wales i’r ddau gwestiwn yma yw: Dylai, yn ddigamsyniol.
Mae’n ymddangos i ni felly fod y ddadl o blaid symud ymlaen yn fuan at ddatganoli deddfwriaethol llawn ym meysydd gallu’r Cynulliad Cenedlaethol yn un ddiwrthdro, anwrthwynebol hyd yn oed.
Cyn mynd ati i drafod hyn yn fanylach, cystal inni roi pen ar hen wrthwynebiad, sef nad yw’r Cynulliad wedi cronni digon o sgiliau na phrofiad eto i ddelio â chyfrifoldeb corff â phwerau deddfwriaethol llawn.
Yn ein tyb ni mae’r fath wrthwynebiad yn ddi-sail ac mae’r trosiad ynghylch "dysgu cerdded cyn inni allu rhedeg" yn hollol amhriodol. Fel y dadleuwyd uchod, ac fel y mae arbenigwyr cyfansoddiadol wedi datgan, y gwir amdani yw bod y model presennol, â’i phwerau "illogical and opaque", sydd yn "recipe for complexity and confusion" (Richard Rawlings), yn her anos o lawer i’w weithredu’n effeithiol nag y byddai cynulliad neu senedd â phwerau deddfwriaethol llawn, lle y byddai diffiniad diamwys o’r swyddogaethau a’r pwerau. Dylai’r cwestiwn ynghylch pa mor uchelgeisiol fyddai’r rhaglen ddeddfau y byddai’r fath senedd am ymgymryd â hi, gael ei drin ar wahân i’r mater arall ynghylch a ddylai feddu ar y pwer i weithredu felly.

Dyma ddehongliad Hazell ac O’Leary: "If the…Assembly had legislative power it would be able to get round the Westminster logjam. Without it, it won’t. It will be dependent on the legislation passed by Westminster and prepared by Whitehall, where the Government will have a different agenda and other priorities. An Assembly with executive powers risks incurring the worst of both worlds. It will create high hopes in Wales of independent action which the Assembly may not be able to fulfil; but it will be a permanent supplicant in Whitehall, leading to continuous tension between London and Cardiff."

Mae Plaid Cymru the Party of Wales yn annog y Comisiwn yn ddigamsyniol felly i bwyso am i gynulliad neu senedd ddeddfwriaethol gael ei sefydlu.

Er mwyn llywodraeth dda a datblygiad Cymru, y galwn am i etholiad cyffredinol Cymru yn 2007 gael ei gynnal ar gyfer y fath sefydliad. Byddai’n hollol ddichonadwy i ddeddfwriaeth gael ei phasio yn San Steffan ac i drefniadau ymarferol gael eu gwneud mewn da bryd i wneud hyn yn bosibl. Nid ydym yn credu y dylid gorfodi Cymru i hercian yn ei blaen â model o lywodraeth genedlaethol mor ddiffygiol ei sylfeini nes bod cyfnod Cynulliad arall wedi dod i ben yn 2011.

Mae’r model ar gyfer y ddeddfwriaeth fyddai ei hangen yn San Steffan i wireddu’r newid hwn mewn bodolaeth eisoes yn Neddf yr Alban, sydd yn dyfarnu’r cymhwysedd cyffredinol i Senedd yr Alban i ddeddfu tra’n cadw nifer o feysydd penodol yn nwylo San Steffan. Mae hon yn sicrhau sefyllfa gliriach a symlach o lawer na’r cymhlethdodau astrus a geir yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998.

4.2 Estyn y Meysydd Cymhwysedd

Wrth inni symud ymlaen, fel yr argymhellwn, i gyfeiriad datganoli deddfwriaethol, mae cyfle’n codi i drosglwyddo meysydd cymhwysedd eraill i’r Cynulliad Cenedaethol. Dylai cyfrifoldeb am yr heddlu fod ymhlith y blaenoriaethau. Byddai hyn yn dod â buddion o bwys o ran integreiddio gweithgarwch yr heddlu ag agweddau eraill ar bolisi cymdeithasol. Mantais ychwanegol yw y byddai’n symleiddio’r minwet pennu cyllid blynyddol rhwng y Swyddfa Gartref a’r Cynulliad Cenedlaethol sy’n mynd ag wmbredd o amser. Mae yna resymau da dros feddwl y byddai’r heddluoedd hwythau’n croesawu’r fath ddatblygiad. Mae nifer o uwch swyddogion a dau o leiaf o’r Prif Gwnstabliaid wedi mynegi’u cefnogaeth iddo. Dylai’r trosglwyddiad hwn fynd law yn llaw â chyfrifoldeb am y gwasanaethau prawf a thân.

Mae’r angen i ddatblygu system gludiant integredig yn golygu y bydd yn rhaid trosglwyddo cyfrifoldeb am y rheilffyrdd, ynghyd â chyfran gymesur o’r gyllideb ar eu cyfer.
Dylai Deddf Cymru newydd ddarparu, fel yn achos Deddf yr Alban, ar gyfer trosglwyddo, trwy Orchymyn y Cyfrin-Gyngor, swyddogaethau ychwanegol gyda thraul amser, fel bo’n briodol, heb yr angen am ddeddfwriaeth sylfaenol.

Fe fydd Plaid Cymru - The Party of Wales yn gweithredu bob amser wrth gwrs ar sail rhagdybiaeth o blaid datganoli ymhellach. Byddai’r meysydd canlynol yn berthnasol yn y dyfodol cymharol agos: Cyfiawnder Troseddol; y Llysoedd (Adran yr Arglwydd Ganghellor); agweddau mewnol ar Fasnach; Ynni a’r Cyfryngau.

4.3 Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd

Er na byddai datganoli deddfwriaethol ynddo’i hun yn effeithio’n sylfaenol ar allu Cymru i ddylanwadu ar benderfyniadau ar raddfa Ewropeaidd, nid oes amheuaeth y byddai’n codi statws Cymru ymysg y rhanbarthau Ewropeaidd, o fewn y teulu Ewropeaidd yn gyffredinol, ac yn ei chydberthnasau ag adrannau llywodraeth y DU wrth iddi geisio sicrhau bod anghenion a blaenoriaethau Cymru’n cael eu hamddiffyn.

4.4

Cyllid

Dylai Datganoli Ddeddfwriaethol ddod â’r pwer i godi cyllid trwy drethi yn ei sgil wrth gwrs. Y mecanwaith amlycaf fyddai’r pwer i amrywio cyfradd safonol treth incwm, fel yn achos yr Alban. Ond dylid ystyried opsiynau eraill hefyd, gan gynnwys efallai rai trethi amgylcheddol a’r Dreth Gorfforaeth.

Mae’r realiti economaidd ar draws rhannau helaeth o Gymru, sydd hithau yn ein barn ni yn ganlyniad i’r modd anghyfartal y mae pwer wedi’i ddosbarthu o fewn y wladwriaeth Brydeinig, yn ddadl argyhoeddiadol yn erbyn gosod baich trethi personol trymach nag yn y Lloegr gyfoethocach. Ac mae’r un realiti’n creu dadl ddiwrthdro dros fynd ati’n ddioed i adolygu Fformwla Barnett, sydd yn rhoi Cymru dan anfantais ddybryd. Dylid ymgymeryd â hyn fel rhan o’r proses o ymbaratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth datganoli newydd. Carem dynnu sylw yma at Bwyllgor Cyfansoddiad Ty’r Arglwyddi, Devolution: Inter-institutional Relations in the United Kingdom.

Dylid rhoi i’r Cynulliad Cenedlaethol hefyd yr hawl i fenthyca cyllid i’w fuddsoddi yn y seilwaith strategol. Rhoddwyd pwerau benthyca tebyg i Gynulliad Gogledd Iwerddon yn barod, a chrybwyllwyd y posibilrwydd ar gyfer cynulliadau arfaethedig rhanbarthau Lloegr. Mae’n hanfodol bwysig nad yw’r Cynulliad yn cael ei lesteirio yn ei allu i godi cyllid ar gyfer ei flaenoriaethau strategol.

4.5

Aelodaeth

Nid yw’n bosibl rhagweld pwerau’r Cynulliad yn cael eu helaethu a’u datblygu yn y modd a ddisgrifir uchod heb gynnydd yn nifer ei aelodau.
Mae’n sicr y byddai angen 80 o aelodau ar Gynulliad Cenedlaethol â phwerau deddfu llawn.

Dan yr amgylchiadau a ragwelir yma mi fyddai’n rhesymol i dderbyn lleihad yn y nifer o aelodau Cymreig yn Nhy’r Cyffredin. Byddai hyn yn gostwng y gost ychwanegol o gynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad.

4.6 Gwasanaeth Cyhoeddus Cenedlaethol i Gymru

Byddai angen wrth wasanaeth sifil wedi’i gadarnhau hefyd i fynd i’r afael â’r dasg o baratoi a phrosesu deddfwriaeth sylfaenol, ynghyd â’r gwaith mwy uchelgeisiol o ddatblygu polisi fyddai’n cyd-gerdded â hi. Ond mae angen cadw mewn cof hefyd gymaint eglurach a symlach fyddai’r model newydd arfaethedig o’i gymharu â’r model presennol. I raddau mae’r problemau sy’n codi o annigonolrwydd dybryd y gwasanaeth sifil a drosglwyddwyd o’r Swyddfa Gymreig i’r Cynulliad yn cael eu datrys yn barod. Ar hyn o bryd mae Adran Weithredol (Llywodraeth) a Senedd yr Alban yn cyflogi 4500 o weision sifil, a dal i dyfu y mae’r nifer honno. Mae hyn yn awgrymu, er y byddai angen am gynnydd ym maint gwasanaeth sifil y Cynulliad, na fyddai’n gynnydd sylweddol iawn. Byddai’n rhaid ystyried nid yn unig y niferoedd ond hefyd y cwestiwn o brofiad a hynafedd wrth ymbaratoi ar gyfer datganoli deddfwriaethol.

Dylid dechrau symud ymlaen cyn gynted â phosibl at sefydlu gwasanaeth sifil awtonomaidd Cymreig, gan adeiladu ar sail esiampl lwyddiannus Gogledd Iwerddon. Rydym yn credu bod hyn yn hanfodol bwysig er mwyn datblygu agenda polisi wedi’i haddasu’n unswydd i fynd i’r afael â’n blaenoriaethau nodweddiadol ni fel cenedl. Mae’n ymddangos mai adeg trawsnewid y Cynulliad Cenedlaethol yn gorff deddfwriaethol cyflawn yw’r foment fwyaf amserol i roi’r fath ddatblygiad allweddol mewn grym.

Mi fyddai gwasanaeth cyhoeddus integredig yn cynnwys gweision cyhoeddus yn gweithio i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd a’r Cyrff Cyhoeddus Noddedig gan y Cynulliad (ASPBs), yn ogystal â gweision sifil y Cynulliad ei hun. Byddai hyn yn ei gwneud yn bosibl i greu llwybrau gyrfaol ar gyfer gweision cyhoeddus o fewn Cymru, â phrofiad ehangach o lywodraeth ar bob lefel, ac yn cryfhau cyd-ddealltwriaeth rhwng y gwahanol lefelau hynny. Byddai’n golygu’r angen i sefydlu Coleg Gwasanaeth Cyhoeddus Cenedlaethol.

Byddai datblygiad o’r fath yn darparu cyfleoedd newydd i gyfnewid swyddi rhwng y gwasanaethau cyhoeddus/sifil yng ngwahanol genhedloedd a rhanbarthau Prydain, yn ogystal â secondiadau i /cyfnewidiadau â’r Comisiwn Ewropeaidd ac yn wir â llywodraethau yng nghenedloedd a rhanbarthau eraill Ewrop.

4.7 Y Dull o Ethol yr Aelodau
Mae’n amhosibl datgysylltu’r drafodaeth ynghylch y nifer o aelodau etholedig o’r cwestiwn o sut dylid eu hethol.

Os taw cynyddu’r nifer o ACau o 60 i 80 sydd mewn golwg, fe ellid cyflawni hyn yn gymharol hawdd trwy ddyblu’r nifer o aelodau rhanbarthol ("ychwanegol") o 20 i 40. Byddai hyn yn darparu’r fantais ychwanegol o wneud y system yn fwy cyfrannol ei chynrychiolaeth.

Byddem yn dadlau serch hynny y dylid manteisio ar y cyfle i sefydlu dewis opsiwn Plaid Cymru – The Party of Wales, sef etholaethau aml-aelod a’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV). Mae’r system hon nid yn unig yn sicrhau cyfranoldeb, ond yn tueddu hefyd i gynyddu grym y pleidleiswyr ar draul peirianwaith y pleidiau gwleidyddol, rhywbeth y mae’n rhaid ei ystyried yn fuddiol i ddemocratiaeth. Dylid egluro i’r sawl sy’n dadlau dros bwysigrwydd y cysylltiad rhwng yr aelod etholedig unigol a’i (h)etholaeth, fod y system bresennol yn golygu i bob pwrpas fod gan bob etholwr(aig) bump o Aelodau Cynulliad yn barod.

4.8 Yr Ysgrifennydd Gwladol a Swyddfa Cymru

Yn sgil datganoli deddfwriaethol fe fyddai angen i Gymru barhau i gael ei chynrychioli yng Nghabinet San Steffan wrth gwrs, er bod gallu’r Ysgrifennydd Gwladol i gynrychioli buddiannau Cymru wedi’i gyfyngu oherwydd yr egwyddor o gyd-gyfrifoldeb, fel y crybwyllwyd eisoes. Credwn mai ar sail cydberthynas gynyddol ryng-lywodraethol y dylai trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gael eu cynnal yn y dyfodol. Gan gadw hyn mewn cof, hwyrach yn wir y gellir dadlau o blaid creu swydd i Ysgrifennydd Gwladol dros y Tiriogaethau fyddai’n gyfrifol am y gweinyddiaethau / llywodraethau datganoledig i gyd. Byddai’r fath fesur yn arbed costau gweinyddol a gyflenwir ar hyn o bryd o gyllideb y Cynulliad Cenedlaethol.

Brig y Dudalen