5.    Y Tu Hwnt i Ddatganoli

Uchelgais Plaid Cymru - The Party of Wales yw gweld Cymru, yng nghyflawnder amser, yn ennill statws cenedlaethol llawn fel gwladwriaeth aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Ond credwn mai’r ffordd orau o wireddu hyn yw trwy broses esblygol y bydd swyddogaethau a phwerau pellach yn cael eu graddol drosglwyddo ar ei hyd i’r lefel Gymreig. Mae rhesymau cryf dros dybio y bydd y fath broses yn cyd-ddigwydd â datganoli cynyddol tuag i fyny o’r DU i’r lefel Ewropeaidd. Mae rôl yr UE yn cynyddu eisoes ym meysydd Amddiffyn, Materion Tramor, materion macro-economaidd, masnach allanol, datblygiad rhyngwladol, nawdd cymdeithasol a chyflogaeth. Er nad yw’n bosibl darogan i ba raddau na pha mor gyflym y bydd y proses hwn yn mynd yn ei flaen, mae’n hollol bosibl y bydd statws yr hyn a elwid yn gamarweiniol ddigon yn "wladwriaethau cenedl" yn is o lawer yn y dyfodol na heddiw, heb sôn am genhedlaeth neu ddwy yn ôl. Dyna pam y mae Plaid Cymru - The Party of Wales yn ystyried y term "statws cenedlaethol llawn" yn fwy manwl gywir a phriodol yn y cyd-destun Ewropeaidd na’r term "annibyniaeth".
Er hynny, mae’r gwahaniaeth rhwng datganoli, er mor bell-gyrhaeddol y bo, a’r cadarnhau pwerau sydd yn rhan annatod o statws cenedlaethol llawn, yn hanfodol bwysig. Mi fyddai’r cam ymlaen o ddatganoli i statws cenedlaethol llawn yn un tyngedfennol. Mae Plaid Cymru - The Party of Wales, ar sail ei chred mai pobl Cymru biau’r hawl i benderfynu ynghylch statws cyfansoddiadol eu gwlad, yn credu y byddai canlyniad cadarnhaol mewn Refferendwm yn rhagamod angenrheidiol ar gyfer y fath gam.

Brig y Dudalen