6.    Y Tymor Byr

A ninnau wedi cyflwyno ein dyheadau ar gyfer y tymor hir, carem egluro nad ydym yn ystyried datganoli deddfwriaethol yn ‘ddim ond’ man aros ar hyd y ffordd i statws cenedlaethol llawn. Yn hytrach, mae’n sefyllfa gyfansoddiadol hollol ddilys ynddi’i hun, rhywbeth na ellir ei ddweud am y trefniadau presennol.
Mae’n wir bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi dechrau gwneud cyfraniad cadarnhaol at fywyd Cymru’n barod. Mae ei brif wendid yn un strwythurol. Dyfeisiwyd ei ffurf a’i bwerau i ddatrys dilema gwleidyddol, nid i sicrhau’r ffurf fwyaf effeithiol ac effeithlon o lywodraeth. Er y byddai helaethu pwerau’r Cynulliad i feysydd newydd a throsglwyddo pwerau’n fwy cynhwysfawr yn y meysydd hynny lle y mae ganddo bwerau’n barod yn welliant, parhau y byddai’r gwendid strwythurol hwnnw.

Dim ond Cynulliad deddfwriaethol, wedi’i gynllunio’n debyg i Senedd yr Alban, â phwerau ychwanegol yn y meysydd hynny sydd eisoes wedi’u datganoli ynghyd â nifer o feysydd allweddol eraill, fydd yn gallu sicrhau cydberthynas sefydlog a chyfartal rhwng Cymru a rhannau eraill o’r DU, yn ogystal â darparu’r platfform ar gyfer gweithredu polisïau a all ryddhau potensial Cymru a gwella ansawdd bywydau ein pobl. Byddai hefyd yn cryfhau sefyllfa Cymru trwy sicrhau bod ein safbwynt a’n buddiannau’n cael eu cynrychioli yn y trafodaethau cynyddol bwysig yn yr Undeb Ewropeaidd.

Brig y Dudalen