Alun Pugh AM
Minister for Culture, Welsh Language and Sport
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon

Cardiff Bay / Bae Caerdydd
Cardiff / Caerdydd
CF99 1 NA / CF99 1 NA
Switchboard / Switsfwrdd|
02920 825111
FAX: 02920 89 8635

Y Gwir Anrh, Arglwydd Richard CF
Y Comisiwn ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn
Ty Caradog
Rhif 1-6 Plas Sant Andreas
Caerdydd CF10 3BE

26ain Awst 2003

Fy Arglwydd,
1. Mae'n bleser gennyf gyflwyno fy nhystiolaeth ysgrifenedig i'r Comisiwn. Mae'r dystiolaeth hon yn ategu'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan fy rhagflaenydd, Jenny Randerson AC, fis Tachwedd diwethaf. Mae'r dystiolaeth hon yn rhoi sylw i 3 maes penodol, sef yr iaith Gymraeg, arian Loteri a darlledu.
Y Gymraeg
2. Roedd tystiolaeth fy rhagflaenydd yn son am y sefyllfa o ran Deddf yr laith Gymraeg 1993 a chyrff y Goron. Oherwydd y ffordd mae'r Ddeddf wedi ei drafftio, mae Llywodraeth y Cynulliad yn dibynnu ar ewyllys da cyrff y Goron i lynu with ysbryd Deddf yr laith Gymraeg pan font yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng hymru. Pan roddwyd ystyriaeth i'r Ddeddf yn y Senedd ym 1993, rhoddodd y Llywodraeth ymrwymiad y byddai'r cyrff hyn yn paratoi Cynlluniau laith Gymraeg fel pe barn ofynnol iddynt wneud hynny dan y Ddeddf, ac y byddai'r Cynlluniau hynny yn cael eu paratoi i'r un safon a chynlluniau'r cyrff sydd wedi eu henwi. Mae Llywodraethau dilynol wedi cadw'r ymrwymiad hynny i raddau helaeth.
3. Gan nodi sylwadau Bwrdd yr laith Gymraeg yn eu tystiolaeth ysgrifenedig parthed ansawdd a phrydlondeb Cynlluniau laith Gymraeg sy'n cael eu paratoi gan gyrff y Goron, dangosodd yr achos diweddar mewn perthynas a'r Swyddfa Cofnodion Troseddol pa mor wan yw'r ddeddfwriaeth bresennol. Roedd angen lob'io ar y lefel wleidyddol uchaf i ddatrys y sefyllfa. Bellach mae gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol Gynllun laith Gymraeg y cytunwyd arno gan Fwrdd yr laith Gymraeg er mwyn sicrhau ei fod yn darparu gwasanaeth priodol i unigolion a sefydliadau yng Nghymru ac felly'n trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Fodd bynnag, nid yw'n foddhaol yn fy marn i bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gorfod dibynnu ar ewyllys da adrannau Llywodraeth a Gweinidogion y DU i weithredu Deddf yr laith Gymraeg mewn perthynas a chyrff y Goron yma yng Nghymru, er bod lobio effeithiol wedi Ilwyddo ym mron bob achos hyd yma.
4. Fel y bydd y Comisiwn bellach yn gwybod, byddai angen diwygio'r Ddeddf bresennol neu cael Deddf laith newydd er mwyn i Lywodraeth y Cynulliad gael y pwer i sicrhau bod pob corff cyhoeddus a chorff y Goron yng Nghymru yn darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg o ansawdd priodol.
5. Yn ogystal, gofynnwyd imi ystyried a allai'r Cynulliad Cenedlaethol basio deddfwriaeth i nnrymo cyrff annatganoledig o ran eu gweithgareddau yng Nghymru pe bai gan y Cynulliad bwerau i lunio deddfwriaeth sylfaenol. Yn 61 ein cyngor cyfreithiol ni gallai'r Senedd roi'r pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol i gyfannryddo adrannau'r Llywodraeth a chyrff y Goron mewn meysydd annatganoledig gan bod y Senedd yn gymharol ddilyffethair yn hyn o beth. Byddem yn croesawu pe rhoddwyd pwerau deddfu sylfaenol i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas a'r Gymraeg. Byddai cam o'r fath yn unol a chyfrifoldebau Llywodraeth y Cynulliad tuag at hynivyddo a chefnogi'r Gymraeg. Mae Adran 32 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn rhoi pvver cyffredinol i'r Cynulliad Cenedlaethol i gymryd unrhyw gamau y mae'n ei ystyried yn briodol i gefnogi'r Gymraeg.
6. Gofynnodd y Comisiwn am adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf o safbwynt y cyfleustodau. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ei hymrwymo i estyn cwmpas Deddf yr laith Gymraeg i gynnwys y cyfleustodau, fel y nodwyd yn laith Pawb, sef Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer Cymru Ddwyieithog. I'r pennryl hwn mae Llywodraeth y Cynulliad yn paratoi offeryn statudol a fydd yn enwi cwmniau dwr dan Ddeddf yr laith Gymraeg i'w ystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol yn gynnar yn 2004. Dyma'r cyntaf mewn cyfres o offerynnau statudol sy'n rhoi sylw Fr cyfleustodau ac mae'n adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i ymchwilio'n (lawn i botensial y Ddeddf gyfredol.
Arian Loteri
7. Yn dilyn yr Adolygiad o Arian Loteri ar lefel y DU y Ilynedd, ysgrifennodd fy rhagflaenydd at y Gwir Anrh. Tessa Jowell AS yn gofyn iddi drosgwlyddo rhagor o'i phwerau mewn perthynas a threfniadau dosbarthu arian loteri yng Nghymru. Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor Diwylliant a chan y Cynulliad ei hun.
8. Mae'r Papur Gwyn ar y Loteri a lansiwyd gan Tessa Jowell ar 3 Gorffennaf yn cydnabod y dylai'r Gweinyddiaethau Datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gael mwy o ddylanwad with bennu blaenoriaethau a strategaethau penodol ar gyfer eu gwledydd. Mae'r papur hefyd yn nodi y bydd DCMS yn cyflwyno deddfwriaeth er mwyn cyflawni hyn os oes angen. Rwyf am drefnu cyfarfod buan a Tessa Jowell er mwyn cytuno ar y ffordd ymlaen yng Nghymru.
9. Nod Llywodraeth Cynulliad Cymru yw cael trefniadau dosbarthu sy'n sensitif i anghenion a dyheadau cymunedau Ileol ar hyd a Iled Cymru.
Darlledu

10. Rhoddwyd y Cydsyniad Brenhinol i'r Ddeddf Gyfathrebu ar 17 Gorffennaf. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno trefn reoliadol ar gyfer y sector darlledu a chyfathrebu ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn cytuno a phrif amcanion polisi y Ddeddf. Yn amlwg, mae darlledu a chyfathrebu o bwys mawr i fywydau holl ddinasyddion Cymru ac er nad yw'r maes polisi hwn wedi ei ddatganoli, mi fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cadw cysylltiad agos a Llywodraeth y DU a'r rheoleiddiwr newydd, Ofcom, er mwyn cynrychioli buddiannau a phryderon arbennig Cymru.

11. Ni fydd gan Gymru aelod enwebiedig ar brif fwrdd Ofcom, sydd a 9 aelod, er fy mod yn deall bod gan un o aelodau'r Bwrdd gysylltiadau a'r byd academiadd Cymreig. Mi fydd yna aelodau cenedlaethol penodol ar y Bwrdd Cynnwys a'r Panel Defnyddwyr. Yn dilyn sylwadau gan Lywodraeth y Cynulliad, mae'r Ddeddf yn sicrhau y bydd Swyddfa Ofcom yng Nghymru ac mae Llywodraeth y Cynulliad mewn trafodaethau ag Ofcom ynglyn a rol a swyddogaethau polisi y swyddfa genedlaethol.

12. Wrth i'r Mesur fynd ar ei hynt drwy'r Senedd, tynnodd Llywodraeth y Cynulliad sylw ASau ac Arglwyddi Cymru at y pwyntiau a oedd yn dal i beri pryder iddynt mewn perthynas a'r Mesur Cyfathrebu. Nododd nifer o Arglwyddi ddymuniad Llywodraeth y Cynulliad i gae+- Pwyllgorau Cynghorol Cenedlaethol statudol ar gyfer Ofcom. Yn dilyn trafodaethau yn Nhy'r Arglwyddi, cyflwynodd Llywodraeth y DU newidiadau i'r Mesur yn gynnar yn mis Gorffennaf gan roi dyletswydd statudol ar Ofcom i sefydlu Pwyllgor Cynghorol Cenedlaethol ar gyfer Cymru. Gwaith y Pwyllgor hwn fydd cynghori Ofcom ar faterion cyfathrebu sy'n ymwneud a Chymru a bydd ganddo gadeirydd annibynnol. Bydd gan y Pwyllgor rol bwysig with gynghori a rhoi gwybodaeth i Ofcom ar faterion cyfathrebu sy'n effeithio ar Gymru - and bydd Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn gwneud cyfraniad Ilawn i'r maes polisi hwn ar lefel strategol.

13. Nid yw'r Ddeddf yn mynd Fr afael yn Hawn a holl bryderon Llywodraeth y Cynulliad. Er enghraifft, gallai'r Ddeddf fod wedi son yn fwy pendodol am ein rol ym maes penodiadau ac o ran sicrhau ei bod yn ddyletswydd statudol ar Ofcom i ymgynghori a'r gweinyddiaethau datganoledig. Er mai'r ateb delfrydol fyddai dyletswyddau statudol, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gydag Ofcom i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu cynnwys mewn Memorandwm Dealltwriaeth rhwng y ddau gorff.

Yn gywir
Alan Pugh signature