Alun Pugh AM
Minister for Culture, Welsh Language and Sport
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
|
|
Cardiff Bay / Bae Caerdydd
Cardiff / Caerdydd
CF99 1 NA / CF99 1 NA
Switchboard / Switsfwrdd|
02920 825111
FAX: 02920 89 8635
|
|
Y Gwir Anrh, Arglwydd Richard CF
Y Comisiwn ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn
Ty Caradog
Rhif 1-6 Plas Sant Andreas
Caerdydd CF10 3BE |
|
26ain Awst 2003
|
| Fy Arglwydd, |
| 1. Mae'n bleser gennyf gyflwyno fy nhystiolaeth ysgrifenedig
i'r Comisiwn. Mae'r dystiolaeth hon yn ategu'r dystiolaeth
a gyflwynwyd gan fy rhagflaenydd, Jenny Randerson AC,
fis Tachwedd diwethaf. Mae'r dystiolaeth hon yn rhoi sylw
i 3 maes penodol, sef yr iaith Gymraeg, arian Loteri a
darlledu. |
| Y Gymraeg |
| 2. Roedd tystiolaeth fy rhagflaenydd yn son am y sefyllfa
o ran Deddf yr laith Gymraeg 1993 a chyrff y Goron. Oherwydd
y ffordd mae'r Ddeddf wedi ei drafftio, mae Llywodraeth
y Cynulliad yn dibynnu ar ewyllys da cyrff y Goron i lynu
with ysbryd Deddf yr laith Gymraeg pan font yn gyfrifol
am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng hymru. Pan roddwyd
ystyriaeth i'r Ddeddf yn y Senedd ym 1993, rhoddodd y
Llywodraeth ymrwymiad y byddai'r cyrff hyn yn paratoi
Cynlluniau laith Gymraeg fel pe barn ofynnol iddynt wneud
hynny dan y Ddeddf, ac y byddai'r Cynlluniau hynny yn
cael eu paratoi i'r un safon a chynlluniau'r cyrff sydd
wedi eu henwi. Mae Llywodraethau dilynol wedi cadw'r ymrwymiad
hynny i raddau helaeth. |
| 3. Gan nodi sylwadau Bwrdd yr laith Gymraeg yn eu tystiolaeth
ysgrifenedig parthed ansawdd a phrydlondeb Cynlluniau
laith Gymraeg sy'n cael eu paratoi gan gyrff y Goron,
dangosodd yr achos diweddar mewn perthynas a'r Swyddfa
Cofnodion Troseddol pa mor wan yw'r ddeddfwriaeth bresennol.
Roedd angen lob'io ar y lefel wleidyddol uchaf i ddatrys
y sefyllfa. Bellach mae gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol
Gynllun laith Gymraeg y cytunwyd arno gan Fwrdd yr laith
Gymraeg er mwyn sicrhau ei fod yn darparu gwasanaeth priodol
i unigolion a sefydliadau yng Nghymru ac felly'n trin
y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Fodd bynnag, nid yw'n
foddhaol yn fy marn i bod y Cynulliad Cenedlaethol yn
gorfod dibynnu ar ewyllys da adrannau Llywodraeth a Gweinidogion
y DU i weithredu Deddf yr laith Gymraeg mewn perthynas
a chyrff y Goron yma yng Nghymru, er bod lobio effeithiol
wedi Ilwyddo ym mron bob achos hyd yma. |
| 4. Fel y bydd y Comisiwn bellach yn gwybod, byddai angen
diwygio'r Ddeddf bresennol neu cael Deddf laith newydd
er mwyn i Lywodraeth y Cynulliad gael y pwer i sicrhau
bod pob corff cyhoeddus a chorff y Goron yng Nghymru yn
darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg o ansawdd priodol. |
| 5. Yn ogystal, gofynnwyd imi ystyried a allai'r Cynulliad
Cenedlaethol basio deddfwriaeth i nnrymo cyrff annatganoledig
o ran eu gweithgareddau yng Nghymru pe bai gan y Cynulliad
bwerau i lunio deddfwriaeth sylfaenol. Yn 61 ein cyngor
cyfreithiol ni gallai'r Senedd roi'r pwerau i'r Cynulliad
Cenedlaethol i gyfannryddo adrannau'r Llywodraeth a chyrff
y Goron mewn meysydd annatganoledig gan bod y Senedd yn
gymharol ddilyffethair yn hyn o beth. Byddem yn croesawu
pe rhoddwyd pwerau deddfu sylfaenol i'r Cynulliad Cenedlaethol
mewn perthynas a'r Gymraeg. Byddai cam o'r fath yn unol
a chyfrifoldebau Llywodraeth y Cynulliad tuag at hynivyddo
a chefnogi'r Gymraeg. Mae Adran 32 o Ddeddf Llywodraeth
Cymru yn rhoi pvver cyffredinol i'r Cynulliad Cenedlaethol
i gymryd unrhyw gamau y mae'n ei ystyried yn briodol i
gefnogi'r Gymraeg. |
| 6. Gofynnodd y Comisiwn am adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf
o safbwynt y cyfleustodau. Mae Llywodraeth y Cynulliad
wedi ei hymrwymo i estyn cwmpas Deddf yr laith Gymraeg
i gynnwys y cyfleustodau, fel y nodwyd yn laith Pawb,
sef Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth y
Cynulliad ar gyfer Cymru Ddwyieithog. I'r pennryl hwn
mae Llywodraeth y Cynulliad yn paratoi offeryn statudol
a fydd yn enwi cwmniau dwr dan Ddeddf yr laith Gymraeg
i'w ystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol yn gynnar yn
2004. Dyma'r cyntaf mewn cyfres o offerynnau statudol
sy'n rhoi sylw Fr cyfleustodau ac mae'n adlewyrchu ymrwymiad
Llywodraeth y Cynulliad i ymchwilio'n (lawn i botensial
y Ddeddf gyfredol. |
| Arian Loteri |
| 7. Yn dilyn yr Adolygiad o Arian Loteri ar lefel y DU
y Ilynedd, ysgrifennodd fy rhagflaenydd at y Gwir Anrh.
Tessa Jowell AS yn gofyn iddi drosgwlyddo rhagor o'i phwerau
mewn perthynas a threfniadau dosbarthu arian loteri yng
Nghymru. Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor Diwylliant a chan
y Cynulliad ei hun. |
| 8. Mae'r Papur Gwyn ar y Loteri a lansiwyd gan Tessa
Jowell ar 3 Gorffennaf yn cydnabod y dylai'r Gweinyddiaethau
Datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
gael mwy o ddylanwad with bennu blaenoriaethau a strategaethau
penodol ar gyfer eu gwledydd. Mae'r papur hefyd yn nodi
y bydd DCMS yn cyflwyno deddfwriaeth er mwyn cyflawni
hyn os oes angen. Rwyf am drefnu cyfarfod buan a Tessa
Jowell er mwyn cytuno ar y ffordd ymlaen yng Nghymru. |
| 9. Nod Llywodraeth Cynulliad Cymru yw cael trefniadau
dosbarthu sy'n sensitif i anghenion a dyheadau cymunedau
Ileol ar hyd a Iled Cymru. |
| Darlledu |
|
10. Rhoddwyd y Cydsyniad Brenhinol i'r
Ddeddf Gyfathrebu ar 17 Gorffennaf. Mae'r Ddeddf yn
cyflwyno trefn reoliadol ar gyfer y sector darlledu
a chyfathrebu ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn cytuno
a phrif amcanion polisi y Ddeddf. Yn amlwg, mae darlledu
a chyfathrebu o bwys mawr i fywydau holl ddinasyddion
Cymru ac er nad yw'r maes polisi hwn wedi ei ddatganoli,
mi fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cadw cysylltiad agos
a Llywodraeth y DU a'r rheoleiddiwr newydd, Ofcom, er
mwyn cynrychioli buddiannau a phryderon arbennig Cymru.
|
|
11. Ni fydd gan Gymru aelod enwebiedig
ar brif fwrdd Ofcom, sydd a 9 aelod, er fy mod yn deall
bod gan un o aelodau'r Bwrdd gysylltiadau a'r byd academiadd
Cymreig. Mi fydd yna aelodau cenedlaethol penodol ar
y Bwrdd Cynnwys a'r Panel Defnyddwyr. Yn dilyn sylwadau
gan Lywodraeth y Cynulliad, mae'r Ddeddf yn sicrhau
y bydd Swyddfa Ofcom yng Nghymru ac mae Llywodraeth
y Cynulliad mewn trafodaethau ag Ofcom ynglyn a rol
a swyddogaethau polisi y swyddfa genedlaethol.
|
|
12. Wrth i'r Mesur fynd ar ei hynt drwy'r
Senedd, tynnodd Llywodraeth y Cynulliad sylw ASau ac
Arglwyddi Cymru at y pwyntiau a oedd yn dal i beri pryder
iddynt mewn perthynas a'r Mesur Cyfathrebu. Nododd nifer
o Arglwyddi ddymuniad Llywodraeth y Cynulliad i gae+-
Pwyllgorau Cynghorol Cenedlaethol statudol ar gyfer
Ofcom. Yn dilyn trafodaethau yn Nhy'r Arglwyddi, cyflwynodd
Llywodraeth y DU newidiadau i'r Mesur yn gynnar yn mis
Gorffennaf gan roi dyletswydd statudol ar Ofcom i sefydlu
Pwyllgor Cynghorol Cenedlaethol ar gyfer Cymru. Gwaith
y Pwyllgor hwn fydd cynghori Ofcom ar faterion cyfathrebu
sy'n ymwneud a Chymru a bydd ganddo gadeirydd annibynnol.
Bydd gan y Pwyllgor rol bwysig with gynghori a rhoi
gwybodaeth i Ofcom ar faterion cyfathrebu sy'n effeithio
ar Gymru - and bydd Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn
gwneud cyfraniad Ilawn i'r maes polisi hwn ar lefel
strategol.
|
|
13. Nid yw'r Ddeddf yn mynd Fr afael
yn Hawn a holl bryderon Llywodraeth y Cynulliad. Er
enghraifft, gallai'r Ddeddf fod wedi son yn fwy pendodol
am ein rol ym maes penodiadau ac o ran sicrhau ei bod
yn ddyletswydd statudol ar Ofcom i ymgynghori a'r gweinyddiaethau
datganoledig. Er mai'r ateb delfrydol fyddai dyletswyddau
statudol, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gydag
Ofcom i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu cynnwys
mewn Memorandwm Dealltwriaeth rhwng y ddau gorff.
|
| Yn gywir |
.gif) |
|
|