Llywodraeth Cynulliad Cymru Mynegai i'r Pynciau Y Comisiwn Richard
       
   
 
Llywodraeth Cynulliad Cymru Hafan * Newyddion * Aelodau * Ymgynghoriad * Rhestr o Ddigwyddiadau * Rhestr o Dystiolaeth * Cwestiynau Cyffredin * Safleoedd Allanol
*
 

PWERAU CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

CYFLWYNIAD – JIM O’ROURKE

Yr wyf yn ymateb i’r ymgynghoriad fel Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, ond ni fedraf honni fy mod yn cynrychioli safbwyntiau Urdd Gobaith Cymru fel y’u mynegwyd gan y Cyngor Cenedlaethol na’r gwahanol fforymau trafod ieuenctid sydd heb drafod y materion dan sylw. Fy safbwyntiau personol i a fynegir felly, wedi’u lliwio gan fy mhrofiad fel aelod o staff mudiad yr Urdd dros y 25 mlynedd diwethaf.
  1. Mae’r Cynulliad wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r ffordd y bydd yr Urdd yn cyfathrebu â’i brif noddwyr. Yn y gorffennol, byddem wedi mynd at yr Ysgrifennydd Gwladol Dros Gymru, gyda chap yn ein dwylo, gan obeithio am ymateb unigolyn i ddiwallu ein hanghenion. Mae’r trefniant presennol lawer iawn yn fwy agored, democrataidd, atebol a chlir. Mae’r pwysigrwydd a roddir ar dreftadaeth ddiwylliannol a gweithgareddau ieuenctid yng Nghymru wedi gwella’n arw, yn enwedig wrth greu swydd gabinet ac adran sydd â ffocws clir ar faterion sy’n effeithio ar nawdd a gweithgareddau’r Urdd.

Mae presenoldeb gwleidyddion, gweision sifil ac arddangosfeydd y Cynulliad, a’r gwahanol gyrff cyllido yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn gam mawr ymlaen wrth feithrin perthynas rhwng y Cynulliad a’r bobl, yn enwedig pobl ifainc Cymru. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod yn rhaid gwneud llawer iawn yn fwy i godi proffil y Cynulliad.

  1. Ceir nifer o broblemau sy’n gysylltiedig â phwerau cyfyngedig y Cynulliad
  1. Deallaf fod Llywodraeth Leol yn aml yn atebol i ddau feistr – y Cynulliad ar gyfer rhai agweddau a’r Swyddfa Gartref ar gyfer rhai eraill – mae cyrff fel yr YOTs yn ymateb i’r naill gyfeiriad tra bydd yr YPP yn ymateb i gyfeiriad arall.
  2. Ysgrifennaf hwn cyn yr etholiad ar 1af Mai, ond rwyf yn rhagweld nifer isel yn troi allan oherwydd mai cyfyngedig yw’r Cynulliad o ran ei bwerau.
  3. Ceir canfyddiad nad oes gan y Cynulliad yr un statws â Senedd yr Alban a bod angen cymeradwyaeth y DU ar gyfer llawer iawn o’r hyn y dymunai ei wneud.
  4. Mae pwerau codi trethi eisoes ar gael ar lefel Cynghorau Cymuned ac Awdurdod Lleol. Nid wyf yn siwr pwy sy’n penderfynu lefel y gyfradd leol i’r gwasanaeth Heddlu. Disynnwyr yw gwarafun i’r Cynulliad y gallu i amrywio trethi – mae agweddau yng Nghymru’n wahanol i’r agenda ar lefel y DU sy’n cael ei gymell gan ystyriaethau etholiadol de-ddwyrain Lloegr.
  1. Ni theimlaf fy mod yn gymwys i wneud sylwadau am y Strwythur a’r trefniadau gwaith.
  1. Hyd y gwelaf, nid oes ond ychydig enghreifftiau o gydweithrediad da e.e. sefydlu’r Comisiynydd Plant – mae’r gwendidau yn y strwythur yn amlwg iawn mewn perthynas, er enghraifft, â ffioedd addysgu myfyrwyr – drysfa heb unrhyw ganlyniad clir ar ôl misoedd o ymrafael, neu benderfyniadau cynlluniau ar gyfer ynni gwynt, neu, yn yr un modd, cyfrifoldeb am fuddsoddi yn y rheilffyrdd. Ni allaf weld unrhyw fantais mewn proses sy’n cael ei rhannu rhwng Caerdydd a San Steffan; dylai pethau fod yn glir – mae’r materion hyn wedi’u lleoli yng Nghaerdydd ac mae rhain yn Llundain, ond dylai’r rheini a gedwir yn Llundain fod yn faterion sy’n amlwg yn rhai perthnasol i’r DU, megis amddiffyn a materion rhyngwladol, ac nid materion sy’n dod o dan rawd y Swyddfa Gartref a ddylai gael eu llywodraethu’n briodol o Gaerdydd. Dylai Awdurdodau Lleol fod yn atebol am eu holl swyddogaethau i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae swyddogaeth yr AS Cymreig eisoes wedi’i lleihau yn yr un modd â’u proffil ar lefel leol. Ni chredaf fod hyn yn arbennig o andwyol gan fod eu dylanwad yn gyfyngedig iawn o dan natur bresennol llywodraeth yn San Steffan. Ni fyddai gennyf wrthwynebiad i ostyngiad o ran eu niferoedd nac i drefniant arall mewn perthynas â’r tir cyffredin sydd rhwng Caerdydd a San Steffan.

  1. Ni chredaf i fuddiannau Cymru gael eu gwasanaethu’n arbennig o dda dros y 30 mlynedd diwethaf gan Ysgrifenyddion Gwladol olynol sydd wedi gweithredu mewn rhai ffyrdd fel Llywodraethwyr Cyffredinol, llawer ohonynt â’u diddordeb pennaf mewn defnyddio’u swydd i ddylanwadau ar lefel y DU. Byddwn yn fodlon gweld y swydd yn cael ei dileu fel un ddiangen a pheryglus pe bai Ysgrifenyddion yn y dyfodol yn rhwystro ewyllys y Cynulliad.
  1. Byddai gwahaniaeth cliriach rhwng swyddogion yn fanteisiol. Enghraifft arall o’r diffyg dealltwriaeth yn y Swyddfa Gartref am faterion sy’n bwysig i Gymru oedd y sefyllfa mewn perthynas â darparu Gwasanaethau Cymraeg gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.

Rhaid i ni feithrin a datblygu gwasanaeth sifil uchel ei safon yng Nghymru dros Gymru. Unig ganlyniad meysydd llwyd y drefn ddatganoli fel ag y mae yw cymylu materion gan amharu ar gynnydd a chan roi cyfle i oedi a rhwystro a hynny i ddim diben.

  1. Ni honnaf fod yn arbenigwr ar Fformiwla Barnet, ond mae angen setliad tecach ar Gymru. Deallaf nad yw’r fformiwla’n cymryd sylw, er enghraifft, i israddio presenoldeb y diwydiannau amddiffyn yng Nghymru. Dyma enghraifft, fe ymddengys lle mae trethi Cymru’n ariannu gweithgareddau y Llywodraeth Brydeinig sy’n gwario yn bennaf mewn rhannau eraill o’r DU. Mae datganoli swyddi o Lundain a de-ddwyrain Lloegr yn gwneud synnwyr yn economaidd ac yn gymdeithasol ac os na fydd Cymru’n cael cyfran deg o deisen gwariant Llywodraeth y DU, yna, dylem gael ein digolledu yn y setliad.
Ffrydiau Cyllid
Testun pryder i mi yw bod rhai ffynonellau cyllid yn dilyn cyfarwyddiadau’r DU nad ydynt yn ymatebol i anghenion yng Nghymru. Mae’r Gronfa Cyfleoedd Newydd ar gyfer Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored yn un enghraifft lle na fydd penderfyniadau polisi yn Llundain yn addas ar gyfer ein hanghenion ni.
Yr wyf hefyd yn bryderus fod diffyg ffocws cenedlaethol i gyllid Amcan 1 yng Nghymru a’i fod wedi’i orddatganoli i ardaloedd yr Awdurdodau Lleol, yn aml ar sail poblogaeth. Mae hyn yn creu "potiau" sy’n rhy fach i ddygymod â phrosiectau cenedlaethol eu harwyddocâd.
Mae Cymru angen llywodraeth gref o’r Cynulliad a all ddylanwadau ar Awdurdodau Lleol a’u cyfeirio i weithredu dros welliannau mewn gwasanaethau. Byddwn yn cefnogi mwy o bwerau i’r Cynulliad a llai o bwerau i Awdurdodau Lleol a phwerau llai gan Lywodraeth y DU. Drwy roi cyfeiriad clir i’w swyddogaeth a mwy o bwer go iawn iddo, bydd y Cynulliad yn datblygu’n sefydliad llywodraethol ystyrlon a ddylai, yn ychwanegol, leoli rhai adrannau mewn rhannau eraill o Gymru, yn enwedig yn y Gogledd a’r Gorllewin.
Hanner y ffordd yw’r setliad presennol, sydd heb ei ddeall ond gan ychydig o bobl ac yn aneffeithiol yn y ffordd mae’n gwneud penderfyniadau ac o ran eglurder ei bwrpas a’i swyddogaeth.
Y Trefniadau Etholiadol
Byddwn yn cefnogi ehangu’r Cynulliad i gynnwys oddeutu 80 o seddau. Credaf fod rhywfaint o resymeg dros gadw ffiniau tebyg ar gyfer etholwyr seneddol a’r Cynulliad, ond nid oes gennyf farn gref yn y cyswllt hwn.
Yn yr un modd o ran y system etholiadol, credaf fod i system gymysg ei rhinweddau, ond ni fedraf weld bod rhestr genedlaethol yn berthnasol iawn – gallai rhestr etholaeth, gyda 2 gynrychiolydd yn cael eu hethol (y cyntaf a’r ail yn y bleidlais) fod yn haws ei deall nag un ar lefel ranbarthol, ond nid wyf yn teimlo’n ddigon cryf ynghylch y mater i wneud unrhyw sylw.
 
 
 

  Jim O’Rourke
25 Ebrill 2003

 

Yn ôl i'r Brig