Ymgynghoriad Comisiwn Richard ar Bwerau Cynulliad Cenedlaethol CymruYmateb gan CGGCMehefin 03 CGGC, Ty Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FH |
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol CymruYmateb i Ymgynghoriad Comisiwn Richard ar Bwerau Cynulliad Cenedlaethol CymruCyflwyniad 1. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn hybu buddiannau mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a gwaith gwirfoddol yng Nghymru. Mae ganddo dros 900 o sefydliadau syn aelodau uniongyrchol a daw i gysylltiad â miloedd yn rhagor drwy rwydweithiau sector gwirfoddol cenedlaethol a rhanbarthol. Ceir o leiaf 30,000 o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, syn ennill incwm o £630 miliwn at ei gilydd, gweithlu o dros 20,000 o weithwyr ac mae 1.12 miliwn o oedolion yn gwirfoddoli un ai drwy gyfrwng mudiadau gwirfoddol neun anffurfiol. 2. Maer sector eang ac amrywiol hwn yn gwneud cyfraniad pwysig i fywyd economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru ac mae trefn lywodraethu effeithiol yng Nghymru yn dibynnu ar fod y llywodraeth yn gweithio gydar sector gwirfoddol. 3. Bu CGGC yn cyfrannun frwd at ddadleuon ynghylch rôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru ai berthynas gydar sector gwirfoddol ers 1996. Drwy gydol tymor cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol rydym wedi gweithion agos gydar sector gwirfoddol, y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn datblygur Cynllun Sector Gwirfoddol ac yn hyrwyddo Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol ynghyd â chyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn rhwng pob Gweinidog ar rhwydweithiau sector gwirfoddol perthnasol. Mewn ymateb i sefydlur Cynulliad Cenedlaethol, sefydlodd CGGC Ganolfan y Cynulliad a'r Sector Gwirfoddol i ddarparu cyfleoedd i rwydweithio, a chael gwybodaeth a chyngor am y Cynulliad yn ystod ei 3 blynedd cyntaf. Mae adran Polisi CGGC hefyd yn cynnal digwyddiadau chwarterol ledled Cymru, gan ganolbwyntion bennaf ar faterion syn gysylltiedig âr Cynulliad. 4. Yn ogystal, lluniwyd yr ymateb hwn yn dilyn gwaith ymgynghori helaeth gydar sector gwirfoddol gan gynnwys:
5. Mae CGGC yn croesawur cyfle i adrodd i Gomisiwn Richard am ein profiadau o weithio gydar Cynulliad, am effaith pweraur Cynulliad ar waith ein sefydliad ar effaith bosib y gallai unrhyw newidiadau a wneir i bweraur Cynulliad ir dyfodol ei chael ar y sector gwirfoddol yng Nghymru. |
| Sut y maer Cynulliad yn amharu
ar CGGC ar sefydliadau y gweithiwn gyda nhw?
6. Yn sgîl sefydlur Cynulliad Cenedlaethol maer broses llunio polisïau ar llunwyr penderfyniadau o fewn cyrraedd haws ir sector gwirfoddol. Yn arbennig, mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn rhoi ir Cynulliad ymrwymiad statudol i "lunio cynllun yn esbonio sut y maen bwriadu, wrth ymarfer ei swyddogaethau, hybu buddiannau mudiadau gwirfoddol perthnasol". Maer Cynllun Sector Gwirfoddol a gafwyd yn sgîl hyn, ac a gyhoeddwyd ym Medi 2000, yn esbonio ymrwymiad y Cynulliad i weithio mewn partneriaeth ac ymgynghori gydar sector, gan hybu gwaith gwirfoddol a datblygu cymunedol. Lluniwyd Cod Ymarfer ar gyfer Cyllido fel dogfen ar wahân. Mae hefyd yn esbonior prosesau er mwyn cynnal deialog rheolaidd ar lefel genedlaethol a cheir adroddiad blynyddol ar weithredur Cynllun. Cymru ywr unig wlad yn y DU lle ceir rhwymedigaeth i hybu a chefnogir sector gwirfoddol. Rhoddodd y sector groeso cynnes i hyn ac maer adroddiadau blynyddol yn dangos canlyniadau cynyddol bositif. 7. Maer trefniadau yng Nghymru wedi denu sylw rhyngwladol fel model or arfer gorau o safbwynt y berthynas rhwng y llywodraeth/ sector gwirfoddol. Mae hyn wedi ychwanegu at enw dar Cynulliad yn rhyngwladol fel sefydliad ir llywodraeth syn meithrin cysylltiadau newydd gydar bobl y maen eu gwasanaethu. Er enghraifft, ym mis Mawrth 2002, gwahoddwyd Norma Barry (Cyfarwyddwraig Cyfarwyddiaeth Cymunedau Llywodraeth Cynulliad Cymru) a Phil Jarrold (Dirprwy Brif Weithredwr CGGC) i Ganada i drafod perthynas Llywodraeth Cynulliad Cymru gydar sector gwirfoddol yng Nghymru, ac i gynghori Llywodraeth Ffederal Canada ar fwrw ymlaen eu Cyfamod gydar sector gwirfoddol. 8. Bu pwyslais hefyd ar sicrhau bod prosesau a strwythuraur Cynulliad o fewn cyrraedd i bawb ac yn dryloyw. Bu hyn yn gymharol lwyddiannus a chafodd mudiadau gwirfoddol eu gwahodd yn rheolaidd i gyflwyno tystiolaeth gerbron pwyllgoraur Cynulliad ac maen hawdd iddynt droi at aelodaur Cynulliad. Bur sector yn ymwneud â phroses llunio polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn sawl maes gan gynnwys cyfranogi mewn gweithgorau a grwpiau gwaith ac mewn ymgynghoriadau. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynnal rhai digwyddiadau yn benodol er mwyn annog cyfranogaeth ehangach ymysg y gymdeithas sifil yn ei gweithdrefnau deddfwriaethol a llunio polisïau. 9. Ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru nid oes unrhyw amheuaeth fod y sector gwirfoddol wedi bod mewn gwell sefyllfa i ymwneud gyda phrosesau gwneud penderfyniadau a llunio polisïaur llywodraeth. |
| Ydy pweraur Cynulliad yn ddigonol
i fodloni anghenion y sector gwirfoddol yng Nghymru?
10. Maer sector gwirfoddol yn amrywiol aruthrol ac maen gweithredu ar draws sbectrwm y bywyd cyhoeddus yng Nghymru. Bydd gan wahanol feysydd or sector gwirfoddol brofiadau gwahanol o sut y mae pweraur Cynulliad yn effeithio ar eu gwaith ar bobl y maent yn gweithio gyda nhw. Fel y corff ymbarél i Gymru, bydd CGGC yn canolbwyntio ar faterion cyffredin ir sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru ond bydd yn defnyddio esiamplau o blith profiadau grwpiau unigol. Cyflawniadau a chyfleoedd dan y model cyfredol 11. Mae gan y Cynulliad eisoes bwerau sylweddol (er y dadleuwyd y gellid defnyddio rhai or rhain yn fwy effeithiol) a chafwyd rhai cyflawniadau pwysig. Un esiampl yw sefydlu corff cofrestredig Swyddfa Cofnodion Troseddol yn arbennig ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru. Maer Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) yn asiantaeth weithredol ir Swyddfa Gartref ac maen cwmpasu Cymru a Lloegr. Rhaid i bobl syn gweithio gyda phlant ac oedolion syn agored i niwed mewn sefyllfaoedd penodol gael eu harchwilio gan yr heddlu ac ni ellir ond gwneud hynny drwyr Swyddfa Cofnodion Troseddol. Er gwaethaf lobïo o blith y sector gwirfoddol yng Nghymru a Lloegr gwrthododd y Swyddfa Gartref â darparu adnoddau er mwyn i sefydliadau bychain gael mynediad at yr archwiliadau. Roedd hyn yn bygwth gwaith gwerthfawr y maer sector gwirfoddol yn ei wneud gyda phlant ac oedolion syn agored i niwed. Beirniadwyd y CRB yn drwm hefyd am beidio â gweithio yn ddwyieithog yng Nghymru. Yng Nghymru maer sector gwirfoddol, drwyr VSPC, wedi lobïon llwyddiannus er mwyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru sefydlu a chyllido corff cofrestredig CRB ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae rhagor o esiamplau o gyflawniadaur Cynulliad iw gweld yn, From Protest to Process: Stories from the National Assembly for Wales, 2003, golygwyd gan Aled Edwards. 12. Tra nad oes gan y Cynulliad Cenedlaethol bwerau deddfwriaethol sylfaenol, gellir cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer Cymru ai diwygio drwy San Steffan. Yr esiampl hynodaf ir sector gwirfoddol oedd y ddeddfwriaeth ynghylch y Comisiynydd Plant i Gymru. Fodd bynnag, roedd y broses hon yn gymharol drafferthus, fel a drafodir yn nes ymlaen. Byddai meddu ar y pwer i wneud deddfwriaeth sylfaenol yn y Cynulliad yn golygu y gellid llunio deddfwriaeth i Gymru yn llawer cyflymach, gan ei gwneud yn haws i fudiadau gwirfoddol syn ymgyrchu a byddain adlewyrchu anghenion Cymru yn well. 13. Er gwaethaf y cyflawniadau hyn, dengys trafodaethau yn ein digwyddiadau polisi rhanbarthol cryn dipyn o rwystredigaeth o fewn y sector ynghylch y setliad datganoli cyfredol; fel a ddisgrifir isod. Mae yna hefyd nifer o ffyrdd y mae pwerau cyfredol y Cynulliad yn cyfyngu ar gyfraniad y sector gwirfoddol ac yn ei gwneud yn anos iddynt gyflawni eu nodau. |
| Rhwystredigaethau cyfredol
14. Mae CGGC yn ymdrechu i gefnogi sefydliadau a chymunedau i gyfranogi yn y broses llunio polisïau ac ymwneud gydar llunwyr penderfyniadau. Cyfyngir ar y gyfranogaeth hon oherwydd natur hynod gymhleth pweraur Cynulliad. Mae hyn yn gwneud unigolion, yn ogystal â sefydliadau yn llai tueddol o ymwneud âr broses llunio polisïau ac, yn enwedig, y broses ddeddfwriaethol. Maen rhwystror sefydliadau mwy hynny, sydd ag adnoddau digonol iw buddsoddi mewn staff eiriol a hyd yn oed mewn cyngor cyfreithiol proffesiynol i bennu pweraur Cynulliad, rhag ymwneud yn llawn âr broses. Fodd bynnag, ychydig or sefydliadau mwy sydd wedi buddsoddi mewn gweithio gydar Cynulliad a fyddain honni eu bod yn meddu ar ddealltwriaeth ddiweddar o gyflwr cyfredol y ddeddfwriaeth yng Nghymru. 15. Mae hefyd yn rhwystr rhag tryloywder ac atebolrwydd. Golygar cymhlethdod hyn, hyd yn oed pan fydd y Cynulliad wedi llunio papurau gwybodaeth symlach ar ei bwerau, fod yna ddryswch o hyd hyd yn oed ymysg sefydliadau syn gweithio gydar Cynulliad yn rheolaidd. Gall hyn arwain at ddrwgdybiaeth oherwydd y credir nad ywr Cynulliad yn bod yn agored gyda sefydliadau allanol. 16. Maer cymhlethdod hwn yn golygu bod mudiadau gwirfoddol yn treulio llawer o amser ac adnoddau yn ceisio gwneud synnwyr o bweraur Cynulliad Cenedlaethol yn hytrach nau bod yn canolbwyntio ar faterion brys syn ymwneud â defnyddwyr eu gwasanaethau au haelodau. 17. Maer setliad datganoli yn ei gwneud yn anodd ir Cynulliad lunio polisïau integredig mewn rhai ardaloedd, er enghraifft, trafnidiaeth integredig heb unrhyw bwerau dros y rheilffyrdd, na mynd ir afael â thlodi ymysg plant heb unrhyw bwerau dros dreth na budd-daliadau. Un enghraifft yw, tra bod ELWa yn gyfrifol am gynllunio a hybu addysg a hyfforddiant yng Nghymru, nid oes ganddo gyfrifoldeb dros Gynghorau Sgiliau Sectorau. Mae amharodrwydd llywodraeth y DU i sefydlu Cyngor Sgiliau ir Sector Gwirfoddol yn groes ir ymrwymiadau y maer Cynulliad yn eu mynegi drwyr Cynllun. Enghraifft arall yw cyfiawnder yr ifanc, lle maer maes ieuenctid wedii ddatganolin cyfan gwbl bron ir Cynulliad, ond mae cyfiawnder yn gyfrifoldeb nas datganolwyd yn y Swyddfa Gartref. Cyfrifoldeb ir Swyddfa Gartref yw Cyfiawnder yr Ifanc, ond gall hyn olygu, er gwaethaf polisïau Plant yn Gyntaf ac Ymestyn Hawliau y Cynulliad, na chaiff pobl ifanc sydd mewn trwbl yng Nghymru eu trin fel plant yn gyntaf ac ni roddir yr un hawliau iddynt â phobl ifanc yng Nghymru. Caiff hyn ei waethygu pan fydd safiad polisi San Steffan ar Cynulliad yn gwahaniaethu, a gall hyn arwain at bolisïau digyswllt a chroes hyd yn oed fel yn achos y Mesur Iechyd Meddwl drafft a Strategaeth Iechyd Meddwl Oedolion Llywodraeth Cynulliad Cymru. 18. Mae cymhlethdod y setliad wedi arwain at ddryswch ynghylch pa bolisïau a chronfeydd cyllid Whitehall syn berthnasol i Gymru a pha rai sydd fel arall. Mae hyn, unwaith eto yn arwain at wastraff amser ac ymdrech ir mudiadau gwirfoddol. Ceir enghreifftiau o adrannau yn y DU nas datganolwyd yn cymryd camau ar faterion syn effeithio ar y DU gyfan cyn iddo ddod ir amlwg, gryn amser i mewn ir broses, mai mater i Loegr yn unig ydyw heb unrhyw ganlyniad o safbwynt polisïau na chyllid i Gymru. Un enghraifft or fath yw Adolygiad Trawsbleidiol y Trysorlys o Rôl y Sector Gwirfoddol a Chymunedol mewn Cyflwyno Gwasanaethau. 19. Nid yw ychwaith yn glir paham fod adrannaur DU yn cynnal adolygiadau Lloegr yn unig syn cynnwys materion nas datganolwyd. Er enghraifft, roedd Adolygiad Trawsbleidiol y Trysorlys yn cynnwys ystyried TAW nad ellir ei hawlio yn ôl ar gyfer elusennau cofrestredig, mater nas datganolwyd; yn sgîl yr adolygiad hwn sefydlwyd cronfa Lloegr yn unig i ddigolledu mudiadau gwirfoddol am daliadau TAW. Gan mai Adolygiad Lloegr yn unig ydoedd, ni roddwyd ychwaith ystyriaeth i rôl y sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru mewn cynllunio a chyflwyno gwasanaethau syn gysylltiedig â swyddogaethau nas datganolwyd. A fydd yr adnoddau i gynnal adolygiad ar gyfer Cymru yn cael eu trosglwyddo ir Cynulliad, a fydd y Trysorlys yn cynnal adolygiad tebyg i Gymru neu a gaiff Cymru ei hepgor yn gyfan gwbl? 20. Un anhawster arall yw nad yw mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol bob amser yn sicr pryd y dylent gysylltu âu AC na phryd y dylent gysylltu âu AS i fwrw pethau ymlaen. Unwaith eto, byddai gwahanur pwerau yn fwy pendant yn hytrach nar setliad gorgymhleth presennol yn gwneud hyn yn gliriach. Gallai hyn arbed amser ac adnoddau i fudiadau gwirfoddol a chynrychiolwyr etholedig, fel ei gilydd. 21. Mae llawer or ffyrdd newydd, cadarnhaol o weithio y maer Cynulliad wedi eu sefydlu, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth, wedi esgor ar eu rhwystredigaethau eu hunain. Un broblem allweddol, yn enwedig i grwpiau bach, ywr gallu i gyfranogi mewn ymgynghoriadau, gweithgorau a chyrff partneriaeth eraill. Mae hyn yn mynd ag amser staff ac adnoddau, weithiau gyda chanlyniadau ansicr. Fodd bynnag, mae egwyddorion gweithio mewn partneriaeth a chynnwys y sector gwirfoddol ar gymdeithas sifil ehangach mewn prosesau gwneud penderfyniadau yn allweddol a rhaid peidio â chollir rhain. Yn hytrach, yn ei ail dymor, dylair Cynulliad ganolbwyntio ar wellar ffyrdd y maen gweithio gydai bartneriaid er mwyn sicrhau bod pob sector or gymdeithas yn dwyn gydag ef, ir broses llunio polisïau a chyflwyno gwasanaethau, y sgiliau ar adnoddau gorau posib. Argymhelliad:
|
| Manteision posib rhagor o bwerau
22. Maer sector gwirfoddol wedi cyfrannu llawer iawn o adnoddau ac egni at weithio gydar Cynulliad. Mae datganoli wedi sicrhau llywodraeth haws cyrraedd ati ac maer Cynulliad wedi ymwneud yn helaeth gydar sector gwirfoddol, ond ceir teimlad y bu llawer mwy o siarad nag o weithredu. Maen bwysig bod y Cynulliad yn cyflawni gydar brwdfrydedd hwn neu bydd yr awydd i gyfranogi yn cael ei golli. Bydd hyn, i raddau helaeth, wastad yn ddibynnol ar ewyllys wleidyddol. Fodd bynnag, os na all y Cynulliad ymateb i gynlluniau Cymreig, gall y rhwystredigaethau gynyddu. Dylai mwy o gymhwysedd deddfwriaethol yn y Cynulliad Cenedlaethol ein galluogi i weld canlyniadaur ffyrdd newydd o weithio mewn polisïau newydd syn adlewyrchu anghenion Cymru. 23. Maen bosib bod rhai sefydliadaur DU a rhai rhyngwladol yn credu bod gan y Cynulliad statws is na gweinyddiaethau datganoledig eraill oherwydd ei ddiffyg pwerau deddfwriaethol. Mae gan y sefydliadau hyn yr arbenigedd ar adnoddau y gallant ddwyn gyda nhw ir gymdeithas sifil yng Nghymru au porthi i broses llunio a chyflwyno polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Maen bosib y caent eu denu mwy i gyfrannu at drefn lywodraethu Cymru pe ceid rhagor o gyfleoedd i wneud pethaun wahanol ac yn well. Maen bosib y byddai twf ym mhweraur Cynulliad hefyd yn esgor ar dwf ymysg sefydliadaur gymdeithas sifil yng Nghymru wrth i ragor o gyfleoedd ymddangos i ddylanwadu ar y broses gwneud penderfyniadau. 24. Mae ein cydweithwyr sector gwirfoddol yn yr Alban wedi croesawu pwerau deddfwriaethol cynyddol eu Senedd. Mae mudiadau gwirfoddol wedi defnyddio eu perthynas waith dda yn effeithiol, gan gyfranogin weithgar yn y prosesau a arweiniodd at ddeddfwriaeth ar ddiwygio cyfraith tir, gofal personol rhad-ac-am-ddim ir henoed a rhwymedigaethau cyfreithiol ar awdurdodau lleol i gefnogi pobl ddigartref. 25. Yn absenoldeb pwerau deddfwriaethol sylfaenol, ceir perygl bod y Cynulliad yn cael ei dwyn i mewn i ystyriaethau ar fanylion gweithredu yn hytrach na chadw ei ffocws ar faterion deddfwriaethol a pholisïau strategol. Argymhelliad:
- er mwyn rhoi gwell eglurhad o bweraur
Cynulliad; |
| Y posibiliadau o safbwynt defnyddio
pwerau deddfwriaethol sylfaenol
26. Maer pwerau syn effeithio ar y sector gwirfoddol yn amrywion aruthrol ac maen bosib bod gan sefydliadau unigol sawl maes lle gallai pwer deddfwriaethol sylfaenol ir Cynulliad, o bosib, gael effaith gadarnhaol ar waith eu sefydliad. 27. Un cyfyngiad ywr diffyg pwer cyffredinol i wneud taliadau i fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol wrth ymarfer ei swyddogaethau er gwaethaf ei ddyletswydd statudol i hybur sector gwirfoddol. Ni all y Cynulliad ond cyllido mudiadau gwirfoddol i wneud gwaith os cynhwysir hyn mewn deddfwriaeth sylfaenol. Tra nad yw hyn, maen debyg, wedi atal cyllid cyn belled, mae yn fwlch pwysig yng ngallur Cynulliad i gefnogi a hybur sector. Mae hyn yn arbennig o wir o safbwynt adeiladu seilwaith y sector gwirfoddol. 28. Pe byddai gan y Cynulliad bwerau deddfwriaethol sylfaenol, byddai CGGC wedi gallu lobïo am Ddeddf Elusennau newydd. Mae hyn yn rhywbeth y bu ein chwaer-sefydliad yn yr Alban, Cyngor yr Alban dros Sefydliadau Gwirfoddol yn ei hybu, ac yn rhywbeth y maer Weithrediaeth yn yr Alban yn awr wedi ymrwymo iddo. Diben Deddf Elusennau fyddai diwygior diffiniad o elusen ar fframwaith rheoleiddio ar gyfer y sector gwirfoddol. Tra bod llywodraeth y DU yn bwrw hyn ymlaen dros Gymru a Lloegr, maen annhebygol y cyflwynir Mesur yn diffinio elusennau gerbron Senedd y DU tan 2005 ar y cynharaf. Drwy sefydlu Deddf Elusennau drwyr Cynulliad, byddair ddeddfwriaeth yn canolbwyntio mwy ar y sector gwirfoddol yng Nghymru a byddain bosib iddi gael ei sefydlu ynghynt. 29. Pe byddai gan y Cynulliad bwerau mewn perthynas âr system fudd-daliadau, byddair Cynulliad yn gallu diwygior ddeddfwriaeth ar polisïau presennol i drawsnewid ein dull o (ail)gynnwys pobl mewn bywyd cymunedol ac economaidd. Gyda phwerau or fath, gallai polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru megis Cymunedau yn Gyntaf ar Rhaglen Gweithredu dros Gymunedau Gwledig gyflwyno dulliau gweithredu mwy hyblyg a chyfannol i helpu pobl i ymddiddori mewn mentrau cymunedol a gweithgareddau cymunedol heb beryglu eu sefyllfa hirdymor o safbwynt budd-daliadau. 30. Gallair sector gwirfoddol yng Nghymru hefyd elwa pe byddai gan Lywodraeth Cynulliad Cymru y pwerau i gyd-drafod eithriadau ir Rheoliadau Ewropeaidd ar Gymorth Gwladol; y rheoliadau hyn syn pennu faint o gymorth cyhoeddus y gellir ei roi i gwmnïau. Y Comisiwn Ewropeaidd syn pennur Rheoliadau Cymorth Gwladol ac, ar hyn o bryd, y DTI syn cyd-drafod eithriadau gydar Comisiwn Ewropeaidd. Yna caiff y rhain eu hadlewyrchu yng nghynllun cymorth gwladol y DTI. Mae cynllun y DTI yn seiliedig ar anghenion y DU. Oherwydd bod gan ran fawr o Gymru statws Amcan 1, mae ei blaenoriaeth ar gyfer Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn wahanol i weddill y DU. Pe bai gan Gymrur pwer i bennu ei chynllun cymorth gwladol ei hun a chyd-drafod gydar CE yn uniongyrchol, gallair polisi eithriadau ganolbwyntio llawer mwy ar amgylchiadau Cymru. Byddai hyn i bob pwrpas hefyd yn cael gwared âr dyn canol yng nghyd-drafodaethau WEFO gydar Comisiwn Ewropeaidd. |
| Strwythur a threfniadau gwaith y Cynulliad
31. Maer trefniadau cyfredol yn ddryslyd a gallant fod yn rhwystr arall at dryloywder ac atebolrwydd pendant. Mae llawer o sefydliadau nad ydynt yn deall y gwahaniaeth rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gall hyd yn oed y rhai hynny syn gweithion rheolaidd gydar Cynulliad fod yn ansicr. Maer termau Llywodraeth Cynulliad Cymru a Cynulliad yn dal i gael eu defnyddio, y naill am y llall, ymysg swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru yn anad neb. Gan fod y Cynulliad, yn ymarferol, wedi mabwysiadu model seneddol, dylid esbonio hyn yn gyfreithiol yn awr yn ogystal ag ir cyhoedd. 32. Caiff y dryswch ei adlewyrchu yn y berthynas rhwng y sector gwirfoddol ar Cynulliad. Er enghraifft, dynoda Deddf Llywodraeth Cymru fod yn rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sefydlu Cynllun syn esbonio sut y bydd yn cefnogi ac yn hybur sector a chyhoeddi adroddiad ar y Cynllun. Lluniwyd y Cynllun Sector Gwirfoddol cyn gwahanur swyddogaeth ddeddfwriaethol ar swyddogaeth weithredol, felly hefyd Gynllun Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn ymarferol, Cynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru ydyw yn awr ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddir Cod Ymarfer ar gyfer Cyllido ar Ail Adroddiad Blynyddol. Mae hyn wedi esgor ar Gynllun Sector Gwirfoddol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru syn canolbwyntion gyfan gwbl ar weithgareddau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae hyn yn taenu niwl dros atebolrwydd. Argymhelliad:
|
| Y Berthynas rhwng Cynulliad Cenedlaethol
Cymru ym Mae Caerdydd ar sector gwirfoddol
33. Bur berthynas rhwng y Cynulliad yn y Bae ar sector gwirfoddol yn gynhwysol ac yn agored iawn. Pe byddech yn ymweld âr Cynulliad yn ystod unrhyw wythnos waith fe fyddech yn gweld amrywiol grwpiau gwirfoddol yn arddangos yn y man ymgynnull, yn cynnal dadleuon neu dderbyniadau amser cinio neu gydar nos, yn ymweld ag ACau, yn gwrando ar drafodaethaur cyfarfod llawn, neun rhoi cyflwyniadau gerbron Pwyllgorau. 34. Maer posibilrwydd i drafodaethaur cyfarfodydd llawn ddylanwadu ar newid gwirioneddol ambell dro yn amheus. Fodd bynnag, mae grwpiau gwirfoddol wedi gweithio gyda gwahanol bleidiau gwleidyddol i sicrhau newid gwirioneddol drwy gyfrwng deddfwriaeth eilaidd, drwy ddefnyddio peirianweithiaur Cynulliad ir eithaf. Un enghraifft o hwn ywr Gorchymyn Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001; maer sector gwirfoddol tai yn honni mai hon ywr "ddeddfwriaeth eilaidd bwysicaf y maer Cynulliad wedi ei phasio hyd yma. 35. Maer Pwyllgorau hefyd wedi gweithion agos gydar sector gwirfoddol ac mae gan y Pwyllgor Cyfle Cyfartal wahoddiad sefydlog i Fforwm LGB Cymru i fynychur cyfarfodydd fel cynghorydd. Maer Pwyllgorau Pwnc wedi trafod gydar sector drwy gyfrwng ymgynghoriadau a thrwy wahodd grwpiau i roi cyflwyniadau. Mae trafodaethau anffurfiol gydag Aelodaur Cynulliad ar y pwyllgorau hefyd wedi galluogi grwpiau gwirfoddol i ddylanwadu ar bynciau adolygiadau polisi. Er enghraifft, llwyddodd aelodau Cyswllt Amgylchedd Cymru i lobïor Pwyllgor Datblygu Economaidd i gynnal adolygiad o ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Maer Pwyllgorau yn chwarae rôl bwysig iawn i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth. Maent hefyd yn chwarae rôl bwysig yn dylanwadu ar bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Fodd bynnag, gall perchnogaeth adroddiadau Pwyllgor fod yn ddryslyd pan fydd Gweinidog yn cefnogi adroddiad yn gyffredinol, ond nid yn dynodi pa rannau or adroddiadau a fydd yn bolisi i Lywodraeth Cynulliad Cymru na fel arall. 36. Maer Pwyllgorau Pwnc hefyd yn chwarae rôl i graffu ar Lywodraeth Cynulliad Cymru ac, unwaith eto, maer grwpiau gwirfoddol wedi gweithio gydag Aelodaur Cynulliad i wneud hyn. Fodd bynnag, ceir pryder sylweddol y bydd y gostyngiad y bwriedir ei wneud yn nifer cyfarfodydd y Pwyllgorau Pwnc yn golygu gostyngiad yn y broses o graffu ar Weinidogion. 37. Tra bod mudiadau gwirfoddol cenedlaethol a rhanbarthol mwy wedi llwyddo i fod yn rhan or prosesau hyn, mae hefyd angen cynnwys grwpiau lleol ledled Cymru. Maer mudiadau hyn yn gweithion uniongyrchol gydau cymunedau ond y grwpiau hyn, yn aml, syn teimlo mai ychydig iawn sydd gan y Cynulliad i wneud â nhw. Ni lwyddodd y Pwyllgorau Rhanbarthol i roi sylw i hyn ac nid ywn glir sut y maent yn effeithio ar broses gwneud penderfyniadaur Cynulliad. |
| Y Berthynas rhwng y Cynulliad yng Nghaerdydd
ar Senedd yn San Steffan
38. Maer Cynulliad yn dibynnu ar lywodraeth y DU i gyflwyno neu ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol i beri newid yng Nghymru. Mae Rheolau Sefydlog y Cynulliad yn pennur gweithdrefnau ar gyfer dylanwadu ar ddeddfwriaeth sylfaenol ond mae rhai mudiadau gwirfoddol yn teimlo fod y Cynulliad un ai wedi methu â dylanwadu ar benderfyniadau a wneir yn San Steffan neun amharod i wneud hynny. Er enghraifft, yn ystod tair blynedd cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, dim ond dwy statud Cymru yn unig a ddaeth o San Steffan. Un rheswm am hyn yw diffyg amser yn y senedd. 39. Pe byddai gan y Cynulliad bwerau deddfwriaeth sylfaenol byddai ganddor potensial i ddelio â materion o bwys i Gymru yn llawer cyflymach. Wrth lobïo am Gomisiynydd Plant i Gymru gydar cylch gwaith eang angenrheidiol i hybu hawliau a lles plant yng Nghymru, bun rhaid i fudiadau plant yng Nghymru ymgyrchun galed nid yn unig gerbron y Cynulliad, ond hefyd gerbron Tyr Cyffredin a Thyr Arglwyddi. Maen bosib y byddai hyn wedi cael sylw yn gyflymach pe byddai gan y Cynulliad Cenedlaethol y pwerau i ddiwygior ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol a chyflwyno deddfwriaeth sylfaenol newydd. Bur pwysau oherwydd amser cyfyngedig yn y senedd i fanylu ar y Mesur Comisiynydd Plant i Gymru ai ddiwygio yn bygwth gallu sefydliadau plant i sicrhaur diwygiadau y teimlent a oedd yn hanfodol i lwyddiant y swydd. Bydd Comisiwn Richard yn clywed yn uniongyrchol oddi wrth Plant yng Nghymru, gallant hwy roi adroddiad manylach. 40. Nid ywn glir sut y maer Cynulliad yn ymwneud â thrafodaethau am ddeddfwriaeth sylfaenol newydd na diwygiadau ir ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol. Mae deddfwriaeth sylfaenol yn llunior holl ddeddfwriaeth eilaidd a gall llunio deddfwriaeth sylfaenol newydd neu ddiwygior ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol gynyddu neu leihau pweraur Cynulliad. Croesewir yr ymrwymiad ir gweithdrefnau manylu cyn-ddeddfwriaethol, ond rhaid i brosesau gwneud penderfyniadaur Cynulliad ynghylch deddfwriaeth ddrafft fod yn dryloyw ac yn unol ag ymrwymiadaur Cynllun Sector Gwirfoddol. Argymhelliad:
|
| Y Berthynas rhwng y Cynulliad a Whitehall
Y Berthynas rhwng Whitehall ar sector gwirfoddol yng Nghymru 41. Mae gan y sector gwirfoddol yng Nghymru berthynas gadarn gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy gyfrwng y Cynllun Sector Gwirfoddol. Yn Lloegr, maer sector gwirfoddol ar Llywodraeth wedi llofnodi Cyfamod syn esbonio perthnasau tebyg a ffyrdd o weithio y cytunwyd arnynt er bod y Cynllun ar Cyfamod wedi datblygun wahanol. 42. Nid oes gan y sector gwirfoddol yng Nghymru unrhyw berthnasau y cytunwyd arnynt ar gyfer gweithio gydag unrhyw rai o adrannau Whitehall ar faterion nas datganolwyd. Bu hon yn broblem sylweddol ers datganoli a rhoddwyd y sector gwirfoddol mewn sefyllfa tipyn gwannach o safbwynt dylanwadu ar lunio polisïau, cyflwyno gwasanaethau a chefnogir gymdeithas sifil yng Nghymru ar faterion nas datganolwyd. Dywedodd un person a gyfranogai yn ein digwyddiad polisi ei bod yn haws, ers datganoli, dylanwadu ar y Cynulliad ac Ewrop, ond bod llai o gyfle i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth sylfaenol ac ar bolisïau a lunnir ar lefel y DU. 43. Yn aml nid yw adrannau Whitehall wedi gwahodd y sector gwirfoddol yng Nghymru i gyfranogi i ddylanwadu ar y broses llunio polisïau yn gynnar, adeg ffurfior manylion. Er enghraifft, yn ddiweddar gwahoddodd yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon y Cyngor Cenedlaethol dros Fudiadau Gwirfoddol (chwaer-sefydliad CGGC yn Lloegr) a thri grwp ymbarél y sector gwirfoddol yn Lloegr i drafodaethau rhagarweiniol am bolisïau cyllid y loteri. Ar ôl i gynrychiolwyr y sector gwirfoddol, or tu allan i Loegr, gysylltu âr DCMS dywedodd yn bendant na fwriadai gynnal trafodaethau tebyg gyda chynrychiolwyr sector gwirfoddol or tair gwlad arall er gwaethar ffaith y byddair polisi yn cael cymaint o effaith ar y sector yn y gwledydd hynny. 44. Mewn ymgynghoriadau eraill, mae adrannaur DU wedi ymgynghori drwy gyfrwng y Cynulliad Cenedlaethol. Tra adroddodd y sefydliadau eu bod yn teimlo bod yr ymgynghoriadau hyn, gan amlaf, yn gynhwysol ac yr adlewyrchwyd eu barn yn yr adroddiadau, maer diffyg dylanwad sydd gan y Cynulliad dros brosesau gwneud penderfyniadau Whitehall yn golygu na wrandawyd arnynt er iddynt leisio barn. 45. Maen amlwg nad yw adrannau Whitehall yn aml yn gwybod a yw eu polisïau yn berthnasol i feysydd datganoledig ai peidio nac yn gwybod eu bod yn peri dryswch ac yn gwastraffu amser mudiadau gwirfoddol. Mae Gweinidogion y DU yn aml yn gwneud cyhoeddiadau heb egluro sut y maent yn ymwneud â Chymru. Mae sefydliadau yng Nghymru wedi treulio amser ac adnoddau yn ymateb i ymgynghoriadau gan adrannau Whitehall cyn darganfod, yn ddiweddarach yn y broses, na fydd y polisi yn effeithio ar Gymru. Er enghraifft, cyfranogodd y sector yng Nghymru mewn ymarferiad ymgynghori ynghylch adolygiad trawsbleidiol y Trysorlys cyn darganfod mai Lloegr yn unig yr oedd cylch gwaith yr adolygiad yn ei gynnwys. 46. Fei hadlewyrchir hefyd mewn llifau nawdd. Maen gymharol glir beth y maer Cynulliad yn ei gyllido, ond maen anodd iawn pennu beth y mae adrannau Whitehall yn ei gyllido yng Nghymru a pham. Ni cheir unrhyw eglurder adeg y cyhoeddiad, na hyd yn oed sawl mis yn ddiweddarach, fel a drafodir yn nes ymlaen. Argymhelliad:
|
| Y Berthynas rhwng y Cynulliad a Whitehall
47. Maer dryswch yn y sector gwirfoddol ynghylch sut y mae polisïau Whitehall yn effeithio ar Gymru hefyd iw weld yn sefydliadaur llywodraeth. Pan aiff mudiadau gwirfoddol yn uniongyrchol at adrannau llywodraeth y DU neur Cynulliad i gael eglurhad, maent yn aml wedi methu âi roi. 48. Ceir esiamplau clir lle nad yw adrannau Whitehall wedi cynnwys yr adrannau cyfatebol iddynt yn y Cynulliad i lunio polisïau ar faterion a gaiff effaith sylweddol yng Nghymru. Er enghraifft, ni ymgynghorodd yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon âr isadran berthnasol yn y Cynulliad am y Mesur Trwyddedu arfaethedig. Tra bod trwyddedu yn fater nas datganolwyd, bydd gan ddarpariaethau yn y Mesur oblygiadau pwysig ar sawl maes polisi allweddol syn gyfrifoldeb i Lywodraeth y Cynulliad gan gynnwys y celfyddydau, cynaladwyedd cymunedau a chynhwysiant cymdeithasol. 49. Maer diffyg cyfathrebu yn gwneud y broses llunio polisïau integredig rhwng y Cynulliad a Whitehall yn anos fyth. Yn aml, nid yw Whitehall yn ymwybodol o gynlluniau a luniwyd yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, ac nid ywr gweinyddiaethau datganoledig yn ymwybodol neu ddim yn gysylltiedig âr broses o lunio cynlluniau yn Whitehall. Mae hyn hefyd yn ei gwneud yn anodd i rannur arferion gorau. Tryloywder ac atebolrwydd 50. Pryder arall yw tryloywder. Maen bosib y bydd Gweinidog neu was sifil yn y Cynulliad yn cyflwyno mater o ddiddordeb ir sector gwirfoddol ond maen aml yn anodd deall sut y gwnaed hyn neu beth yn union ywr canlyniad. Mae hyn yn peri pryder yn arbennig pan fydd trafodaethau yn dilyn Penderfyniad yn y Cynulliad. Rhaid cael gwell tryloywder a rhaid cadw cofnodion ffurfiol pryd bynnag y bo hynnyn briodol. 51. Ceir dryswch hefyd ynghylch atebolrwydd o fewn rhai o isadrannaur Cynulliad os bydd eu gwaith yn ymwneud yn bendant â materion nas datganolwyd neu os bydd uned yn bennaf atebol i Whitehall. Er enghraifft, mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru Dîm Gostwng Troseddu. Tra ceir rhai pwerau datganoledig ar Alcohol a Chyffuriau, maer uned a leolir yn y Cynulliad yn bennaf atebol i lywodraeth y DU. Argymhellion:
|
| Ysgrifennydd Gwladol Cymru
52. Fel a ddisgrifir uchod, ceir anawsterau amlwg o safbwynt cyfathrebu a deall, ar lefel y DU, beth syn digwydd yng Nghymru a sut y mae polisïau yn effeithio ar Gymru. Dylair Ysgrifennydd Gwladol chwarae rôl amlwg i gefnogi buddiannau Cymru, gan gynnwys y sector gwirfoddol, mewn materion polisi nas datganolwyd. Bydd CGGC yn ceisio cefnogi Ysgrifennydd Gwladol Cymru i sicrhau ymrwymiad adrannaur DU i ddilyn egwyddorion y Cynllun Sector Gwirfoddol mewn perthynas â materion nas datganolwyd. Argymhelliad:
|
| Llifau nawdd
53. Maer ddogfen ymgynghori yn tynnu sylw dilys at yr anawsterau y maer ansicrwydd am lifau nawdd yn ei achosi. Trafodwyd y materion hyn yn fyr eisoes. 54. Un broblem allweddol ywr dryswch a grëir drwy fod Gweinidogion y DU yn cyhoeddi cyllid heb ddweud yn iawn pa un a ywn ymwneud âr DU gyfan ynteu â Lloegr yn unig. Gellir dwysáu hyn drwy ddefnyddior gair cenedlaethol. Defnyddir hwn yn aml i ddisgrifio cynlluniau newydd neu arian ychwanegol sydd ar gael a, maes o law, maen ymddangos mai ar gyfer Lloegr yn unig y mae. Yn aml, nid yw adrannaur DU eu hunain yn ymwybodol o sut y mae cyhoeddiadau cyllid yn ymwneud â Chymru a chaiff llawer iawn o amser ac egni eu gwastraffu yn ceisio gwneud synnwyr or cyfan. 55. Un esiampl dda o hyn ywr futurebuilders. Yn sgîl Adolygiad Trawsbleidiol y Trysorlys (a drafodir uchod) sefydlwyd cronfa or enw futurebuilders. Bun anodd cael esboniad ynghylch ar gyfer beth y maer gronfa a phwy a all ymgeisio. Ysgrifennodd CGGC yn gyntaf at y Trysorlys am esboniad ym mis Ionawr 2003. Atebodd y Trysorlys ym mis Chwefror gan ddweud yn bendant mai cronfa i Loegr yn unig ydoedd, ond y byddai Cymru yn cael cyllid canlyniadol ar Cynulliad a fyddain penderfynu sut i warior arian hwn. Mewn ymateb i gwestiwn yn y Senedd ym mis Mawrth, fodd bynnag, dywedwyd bod y gronfa yn ddewis arall yn lle cyflwyno newidiadau yn y modd y maer system TAW yn gweithredu i elusennau. Gan fod TAW yn fater nas datganolwyd, byddain ymddangos yn briodol y dylair arian gael ei dargedu at gronfa debyg yng Nghymru. Ym mis Mai 2003, maen dal yn bell o fod yn glir a fydd sefydliadau yng Nghymru yn gallu defnyddio cronfa debyg. 56. Nid dim ond yr amser ar egni a dreulir yn darganfod a ywr cyllid yn berthnasol i Gymru ai peidio syn peri pryder. Mewn sawl enghraifft, maer ffordd ymddangosiadol fympwyol o wneud penderfyniadau am a fydd y cyllid yn berthnasol i Gymru ai peidio yn golygu fod Cymru, o bosib, yn methu cyfleoedd pwysig i gael nawdd. Gan fod y sector gwirfoddol yng Nghymru eisoes yn cael llawer llai o nawdd nar sector yn Lloegr, mae hyn yn bryder gwirioneddol. Nid esiampl unigryw yw hon, ond yn hytrach maen brofiad cyffredin. 57. Nid ywr dryswch yn dod i ben gyda chyllid o adrannau llywodraeth y DU. Mae mudiadau gwirfoddol yn adrodd fod nifer o gyrff rhoddi grantiau nad ydynt yn deall y gwahaniaethau yng Nghymru, na pha bryd y bydd cyllid y DU ar gael i sefydliadau neu beidio. Dywedodd rhai sefydliadau yn ein digwyddiadau polisi fod hyn wedii gwneud yn anos iddynt gael gafael ar arian oddi wrth noddwyr y tu allan i Gymru, yn enwedig os oedd rhagdybiaeth bod arian cyfatebol ar gael oddi wrth y llywodraeth. 58. Caiff y diffyg integreiddio wrth lunio polisïau ei adlewyrchu yn y diffyg integreiddio mewn llifau nawdd ar gyfer mathau tebyg o waith. Rhaid i sefydliadau wneud ceisiadau am waith tebyg ar gyfer y Cynulliad a llywodraeth y DU, fel ei gilydd. Mae hyn yn golygu dyblygu ymdrech ac, unwaith eto, maen tynnu sylw at yr angen am ragor o gydweithio rhwng y Cynulliad a Whitehall. Argymhelliad:
|
| Casgliad
59. Maer strwythurau ar gyfer cydweithio rhwng y sector gwirfoddol yng Nghymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn gryf a dylid hefyd eu hadlewyrchu ym mherthnasaur sector gwirfoddol gydag adrannau nas datganolwyd. Y gobaith yw bod yr ymateb yn amlinellu rhai or manteision ar rhwystredigaethau a geir o weithio o fewn y setliad datganoli presennol. Mae hefyd yn glir nad yw ymrwymiad y llywodraeth i weithio gydar sector gwirfoddol yn cael ei gyfyngu ir strwythurau sefydliadol ond mae hefyd yn ddibynnol ar ewyllys wleidyddol. 60. Mae CGGC yn gofyn ir Comisiwn ystyried yr argymhellion canlynol:
|
|
|