|
 |
| |
Ymgynghoriad Comisiwn
Richard ar Bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ymateb gan CGGC
Mehefin 03
CGGC, Ty Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10
5FH
|
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Ymateb i Ymgynghoriad Comisiwn Richard
ar Bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cyflwyniad
1. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
(CGGC) yn hybu buddiannau mudiadau gwirfoddol, grwpiau
cymunedol a gwaith gwirfoddol yng Nghymru. Mae ganddo
dros 900 o sefydliadau syn aelodau uniongyrchol
a daw i gysylltiad â miloedd yn rhagor drwy rwydweithiau
sector gwirfoddol cenedlaethol a rhanbarthol. Ceir o
leiaf 30,000 o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, syn
ennill incwm o £630 miliwn at ei gilydd, gweithlu o
dros 20,000 o weithwyr ac mae 1.12 miliwn o oedolion
yn gwirfoddoli un ai drwy gyfrwng mudiadau gwirfoddol
neun anffurfiol.
2. Maer sector eang ac amrywiol
hwn yn gwneud cyfraniad pwysig i fywyd economaidd, cymdeithasol,
amgylcheddol a diwylliannol Cymru ac mae trefn lywodraethu
effeithiol yng Nghymru yn dibynnu ar fod y llywodraeth
yn gweithio gydar sector gwirfoddol.
3. Bu CGGC yn cyfrannun frwd at ddadleuon
ynghylch rôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru ai berthynas
gydar sector gwirfoddol ers 1996. Drwy gydol tymor
cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol rydym wedi gweithion
agos gydar sector gwirfoddol, y Cynulliad Cenedlaethol
a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn datblygur Cynllun
Sector Gwirfoddol ac yn hyrwyddo Cyngor Partneriaeth
y Sector Gwirfoddol ynghyd â chyfarfodydd ddwywaith
y flwyddyn rhwng pob Gweinidog ar rhwydweithiau
sector gwirfoddol perthnasol. Mewn ymateb i sefydlur
Cynulliad Cenedlaethol, sefydlodd CGGC Ganolfan y Cynulliad
a'r Sector Gwirfoddol i ddarparu cyfleoedd i rwydweithio,
a chael gwybodaeth a chyngor am y Cynulliad yn ystod
ei 3 blynedd cyntaf. Mae adran Polisi CGGC hefyd yn
cynnal digwyddiadau chwarterol ledled Cymru, gan ganolbwyntion
bennaf ar faterion syn gysylltiedig âr Cynulliad.
4. Yn ogystal, lluniwyd yr ymateb
hwn yn dilyn gwaith ymgynghori helaeth gydar sector
gwirfoddol gan gynnwys:
- Grwp Cyswllt y Cynulliad, sef rhwydwaith gyda thros
30 o aelodau syn gweithion agos gydar
Cynulliad o fudiadau gwirfoddol ledled Cymru;
- bron i 100 o sefydliadau ledled Cymru yn nigwyddiadau
polisi rhanbarthol CGGC ym mis Ionawr 2002.
5. Mae CGGC yn croesawur cyfle i
adrodd i Gomisiwn Richard am ein profiadau o weithio
gydar Cynulliad, am effaith pweraur Cynulliad
ar waith ein sefydliad ar effaith bosib y gallai
unrhyw newidiadau a wneir i bweraur Cynulliad
ir dyfodol ei chael ar y sector gwirfoddol yng
Nghymru.
|
| Sut y maer Cynulliad yn amharu
ar CGGC ar sefydliadau y gweithiwn gyda nhw?
6. Yn sgîl sefydlur Cynulliad Cenedlaethol
maer broses llunio polisïau ar llunwyr penderfyniadau
o fewn cyrraedd haws ir sector gwirfoddol. Yn
arbennig, mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn rhoi ir
Cynulliad ymrwymiad statudol i "lunio cynllun yn esbonio
sut y maen bwriadu, wrth ymarfer ei swyddogaethau,
hybu buddiannau mudiadau gwirfoddol perthnasol". Maer
Cynllun Sector Gwirfoddol a gafwyd yn sgîl hyn, ac a
gyhoeddwyd ym Medi 2000, yn esbonio ymrwymiad y Cynulliad
i weithio mewn partneriaeth ac ymgynghori gydar
sector, gan hybu gwaith gwirfoddol a datblygu cymunedol.
Lluniwyd Cod Ymarfer ar gyfer Cyllido fel dogfen ar
wahân. Mae hefyd yn esbonior prosesau er mwyn
cynnal deialog rheolaidd ar lefel genedlaethol a cheir
adroddiad blynyddol ar weithredur Cynllun. Cymru
ywr unig wlad yn y DU lle ceir rhwymedigaeth i
hybu a chefnogir sector gwirfoddol. Rhoddodd y
sector groeso cynnes i hyn ac maer adroddiadau
blynyddol yn dangos canlyniadau cynyddol bositif.
7. Maer trefniadau yng Nghymru wedi
denu sylw rhyngwladol fel model or arfer gorau
o safbwynt y berthynas rhwng y llywodraeth/ sector gwirfoddol.
Mae hyn wedi ychwanegu at enw dar Cynulliad yn
rhyngwladol fel sefydliad ir llywodraeth syn
meithrin cysylltiadau newydd gydar bobl y maen
eu gwasanaethu. Er enghraifft, ym mis Mawrth 2002, gwahoddwyd
Norma Barry (Cyfarwyddwraig Cyfarwyddiaeth Cymunedau
Llywodraeth Cynulliad Cymru) a Phil Jarrold (Dirprwy
Brif Weithredwr CGGC) i Ganada i drafod perthynas Llywodraeth
Cynulliad Cymru gydar sector gwirfoddol yng Nghymru,
ac i gynghori Llywodraeth Ffederal Canada ar fwrw ymlaen
eu Cyfamod gydar sector gwirfoddol.
8. Bu pwyslais hefyd ar sicrhau bod prosesau
a strwythuraur Cynulliad o fewn cyrraedd i bawb
ac yn dryloyw. Bu hyn yn gymharol lwyddiannus a chafodd
mudiadau gwirfoddol eu gwahodd yn rheolaidd i gyflwyno
tystiolaeth gerbron pwyllgoraur Cynulliad ac maen
hawdd iddynt droi at aelodaur Cynulliad. Bur
sector yn ymwneud â phroses llunio polisïau Llywodraeth
Cynulliad Cymru mewn sawl maes gan gynnwys cyfranogi
mewn gweithgorau a grwpiau gwaith ac mewn ymgynghoriadau.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynnal rhai digwyddiadau
yn benodol er mwyn annog cyfranogaeth ehangach ymysg
y gymdeithas sifil yn ei gweithdrefnau deddfwriaethol
a llunio polisïau.
9. Ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru
nid oes unrhyw amheuaeth fod y sector gwirfoddol wedi
bod mewn gwell sefyllfa i ymwneud gyda phrosesau gwneud
penderfyniadau a llunio polisïaur llywodraeth.
|
| Ydy pweraur Cynulliad yn ddigonol
i fodloni anghenion y sector gwirfoddol yng Nghymru?
10. Maer sector gwirfoddol yn amrywiol
aruthrol ac maen gweithredu ar draws sbectrwm
y bywyd cyhoeddus yng Nghymru. Bydd gan wahanol feysydd
or sector gwirfoddol brofiadau gwahanol o sut
y mae pweraur Cynulliad yn effeithio ar eu gwaith
ar bobl y maent yn gweithio gyda nhw. Fel y corff
ymbarél i Gymru, bydd CGGC yn canolbwyntio ar faterion
cyffredin ir sector gwirfoddol a chymunedol yng
Nghymru ond bydd yn defnyddio esiamplau o blith profiadau
grwpiau unigol.
Cyflawniadau a chyfleoedd dan y model cyfredol
11. Mae gan y Cynulliad eisoes bwerau sylweddol
(er y dadleuwyd y gellid defnyddio rhai or rhain
yn fwy effeithiol) a chafwyd rhai cyflawniadau pwysig.
Un esiampl yw sefydlu corff cofrestredig Swyddfa Cofnodion
Troseddol yn arbennig ar gyfer y sector gwirfoddol yng
Nghymru. Maer Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB)
yn asiantaeth weithredol ir Swyddfa Gartref ac
maen cwmpasu Cymru a Lloegr. Rhaid i bobl syn
gweithio gyda phlant ac oedolion syn agored i
niwed mewn sefyllfaoedd penodol gael eu harchwilio gan
yr heddlu ac ni ellir ond gwneud hynny drwyr Swyddfa
Cofnodion Troseddol. Er gwaethaf lobïo o blith y sector
gwirfoddol yng Nghymru a Lloegr gwrthododd y Swyddfa
Gartref â darparu adnoddau er mwyn i sefydliadau bychain
gael mynediad at yr archwiliadau. Roedd hyn yn bygwth
gwaith gwerthfawr y maer sector gwirfoddol yn
ei wneud gyda phlant ac oedolion syn agored i
niwed. Beirniadwyd y CRB yn drwm hefyd am beidio â gweithio
yn ddwyieithog yng Nghymru. Yng Nghymru maer sector
gwirfoddol, drwyr VSPC, wedi lobïon llwyddiannus
er mwyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru sefydlu a chyllido
corff cofrestredig CRB ar gyfer y sector gwirfoddol
yng Nghymru. Mae rhagor o esiamplau o gyflawniadaur
Cynulliad iw gweld yn, From Protest to Process:
Stories from the National Assembly for Wales, 2003,
golygwyd gan Aled Edwards.
12. Tra nad oes gan y Cynulliad Cenedlaethol
bwerau deddfwriaethol sylfaenol, gellir cyflwyno deddfwriaeth
sylfaenol ar gyfer Cymru ai diwygio drwy San Steffan.
Yr esiampl hynodaf ir sector gwirfoddol oedd y
ddeddfwriaeth ynghylch y Comisiynydd Plant i Gymru.
Fodd bynnag, roedd y broses hon yn gymharol drafferthus,
fel a drafodir yn nes ymlaen. Byddai meddu ar y pwer
i wneud deddfwriaeth sylfaenol yn y Cynulliad yn golygu
y gellid llunio deddfwriaeth i Gymru yn llawer cyflymach,
gan ei gwneud yn haws i fudiadau gwirfoddol syn
ymgyrchu a byddain adlewyrchu anghenion Cymru
yn well.
13. Er gwaethaf y cyflawniadau hyn, dengys
trafodaethau yn ein digwyddiadau polisi rhanbarthol
cryn dipyn o rwystredigaeth o fewn y sector ynghylch
y setliad datganoli cyfredol; fel a ddisgrifir isod.
Mae yna hefyd nifer o ffyrdd y mae pwerau cyfredol y
Cynulliad yn cyfyngu ar gyfraniad y sector gwirfoddol
ac yn ei gwneud yn anos iddynt gyflawni eu nodau.
|
| Rhwystredigaethau cyfredol
14. Mae CGGC yn ymdrechu i gefnogi sefydliadau
a chymunedau i gyfranogi yn y broses llunio polisïau
ac ymwneud gydar llunwyr penderfyniadau. Cyfyngir
ar y gyfranogaeth hon oherwydd natur hynod gymhleth
pweraur Cynulliad. Mae hyn yn gwneud unigolion,
yn ogystal â sefydliadau yn llai tueddol o ymwneud âr
broses llunio polisïau ac, yn enwedig, y broses ddeddfwriaethol.
Maen rhwystror sefydliadau mwy hynny, sydd
ag adnoddau digonol iw buddsoddi mewn staff eiriol
a hyd yn oed mewn cyngor cyfreithiol proffesiynol i
bennu pweraur Cynulliad, rhag ymwneud yn llawn
âr broses. Fodd bynnag, ychydig or sefydliadau
mwy sydd wedi buddsoddi mewn gweithio gydar Cynulliad
a fyddain honni eu bod yn meddu ar ddealltwriaeth
ddiweddar o gyflwr cyfredol y ddeddfwriaeth yng Nghymru.
15. Mae hefyd yn rhwystr rhag tryloywder
ac atebolrwydd. Golygar cymhlethdod hyn, hyd yn
oed pan fydd y Cynulliad wedi llunio papurau gwybodaeth
symlach ar ei bwerau, fod yna ddryswch o hyd
hyd yn oed ymysg sefydliadau syn gweithio gydar
Cynulliad yn rheolaidd. Gall hyn arwain at ddrwgdybiaeth
oherwydd y credir nad ywr Cynulliad yn bod yn
agored gyda sefydliadau allanol.
16. Maer cymhlethdod hwn yn golygu
bod mudiadau gwirfoddol yn treulio llawer o amser ac
adnoddau yn ceisio gwneud synnwyr o bweraur Cynulliad
Cenedlaethol yn hytrach nau bod yn canolbwyntio
ar faterion brys syn ymwneud â defnyddwyr eu gwasanaethau
au haelodau.
17. Maer setliad datganoli yn ei
gwneud yn anodd ir Cynulliad lunio polisïau integredig
mewn rhai ardaloedd, er enghraifft, trafnidiaeth integredig
heb unrhyw bwerau dros y rheilffyrdd, na mynd ir
afael â thlodi ymysg plant heb unrhyw bwerau dros dreth
na budd-daliadau. Un enghraifft yw, tra bod ELWa yn
gyfrifol am gynllunio a hybu addysg a hyfforddiant yng
Nghymru, nid oes ganddo gyfrifoldeb dros Gynghorau Sgiliau
Sectorau. Mae amharodrwydd llywodraeth y DU i sefydlu
Cyngor Sgiliau ir Sector Gwirfoddol yn groes ir
ymrwymiadau y maer Cynulliad yn eu mynegi drwyr
Cynllun. Enghraifft arall yw cyfiawnder yr ifanc, lle
maer maes ieuenctid wedii ddatganolin
cyfan gwbl bron ir Cynulliad, ond mae cyfiawnder
yn gyfrifoldeb nas datganolwyd yn y Swyddfa Gartref.
Cyfrifoldeb ir Swyddfa Gartref yw Cyfiawnder yr
Ifanc, ond gall hyn olygu, er gwaethaf polisïau Plant
yn Gyntaf ac Ymestyn Hawliau y Cynulliad,
na chaiff pobl ifanc sydd mewn trwbl yng Nghymru eu
trin fel plant yn gyntaf ac ni roddir yr un hawliau
iddynt â phobl ifanc yng Nghymru. Caiff hyn ei waethygu
pan fydd safiad polisi San Steffan ar Cynulliad
yn gwahaniaethu, a gall hyn arwain at bolisïau digyswllt
a chroes hyd yn oed fel yn achos y Mesur Iechyd Meddwl
drafft a Strategaeth Iechyd Meddwl Oedolion Llywodraeth
Cynulliad Cymru.
18. Mae cymhlethdod y setliad wedi arwain
at ddryswch ynghylch pa bolisïau a chronfeydd cyllid
Whitehall syn berthnasol i Gymru a pha rai sydd
fel arall. Mae hyn, unwaith eto yn arwain at wastraff
amser ac ymdrech ir mudiadau gwirfoddol. Ceir
enghreifftiau o adrannau yn y DU nas datganolwyd yn
cymryd camau ar faterion syn effeithio ar y DU
gyfan cyn iddo ddod ir amlwg, gryn amser i mewn
ir broses, mai mater i Loegr yn unig ydyw heb
unrhyw ganlyniad o safbwynt polisïau na chyllid i Gymru.
Un enghraifft or fath yw Adolygiad Trawsbleidiol
y Trysorlys o Rôl y Sector Gwirfoddol a Chymunedol mewn
Cyflwyno Gwasanaethau.
19. Nid yw ychwaith yn glir paham fod adrannaur
DU yn cynnal adolygiadau Lloegr yn unig syn cynnwys
materion nas datganolwyd. Er enghraifft, roedd Adolygiad
Trawsbleidiol y Trysorlys yn cynnwys ystyried TAW nad
ellir ei hawlio yn ôl ar gyfer elusennau cofrestredig,
mater nas datganolwyd; yn sgîl yr adolygiad hwn sefydlwyd
cronfa Lloegr yn unig i ddigolledu mudiadau gwirfoddol
am daliadau TAW. Gan mai Adolygiad Lloegr yn unig ydoedd,
ni roddwyd ychwaith ystyriaeth i rôl y sector gwirfoddol
a chymunedol yng Nghymru mewn cynllunio a chyflwyno
gwasanaethau syn gysylltiedig â swyddogaethau
nas datganolwyd. A fydd yr adnoddau i gynnal adolygiad
ar gyfer Cymru yn cael eu trosglwyddo ir Cynulliad,
a fydd y Trysorlys yn cynnal adolygiad tebyg i Gymru
neu a gaiff Cymru ei hepgor yn gyfan gwbl?
20. Un anhawster arall yw nad yw mudiadau
gwirfoddol a grwpiau cymunedol bob amser yn sicr pryd
y dylent gysylltu âu AC na phryd y dylent gysylltu
âu AS i fwrw pethau ymlaen. Unwaith eto, byddai
gwahanur pwerau yn fwy pendant yn hytrach nar
setliad gorgymhleth presennol yn gwneud hyn yn gliriach.
Gallai hyn arbed amser ac adnoddau i fudiadau gwirfoddol
a chynrychiolwyr etholedig, fel ei gilydd.
21. Mae llawer or ffyrdd newydd,
cadarnhaol o weithio y maer Cynulliad wedi eu
sefydlu, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth, wedi
esgor ar eu rhwystredigaethau eu hunain. Un broblem
allweddol, yn enwedig i grwpiau bach, ywr gallu
i gyfranogi mewn ymgynghoriadau, gweithgorau a chyrff
partneriaeth eraill. Mae hyn yn mynd ag amser staff
ac adnoddau, weithiau gyda chanlyniadau ansicr. Fodd
bynnag, mae egwyddorion gweithio mewn partneriaeth a
chynnwys y sector gwirfoddol ar gymdeithas sifil
ehangach mewn prosesau gwneud penderfyniadau yn allweddol
a rhaid peidio â chollir rhain. Yn hytrach, yn
ei ail dymor, dylair Cynulliad ganolbwyntio ar
wellar ffyrdd y maen gweithio gydai
bartneriaid er mwyn sicrhau bod pob sector or
gymdeithas yn dwyn gydag ef, ir broses llunio
polisïau a chyflwyno gwasanaethau, y sgiliau ar
adnoddau gorau posib.
Argymhelliad:
- Dylid diwygio Deddf Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau
eglurder ym mhwerau a chyfrifoldebau Cynulliad Cenedlaethol
Cymru a Llywodraeth y DU. Bydd hyn yn sicrhau bod
y sefydliadau ar prosesau o fewn cyrraedd haws
ac yn fwy tryloyw gan ganiatáu ar gyfer prosesau llunio
polisïau mwy integredig.
|
| Manteision posib rhagor o bwerau
22. Maer sector gwirfoddol wedi cyfrannu
llawer iawn o adnoddau ac egni at weithio gydar
Cynulliad. Mae datganoli wedi sicrhau llywodraeth haws
cyrraedd ati ac maer Cynulliad wedi ymwneud yn
helaeth gydar sector gwirfoddol, ond ceir teimlad
y bu llawer mwy o siarad nag o weithredu. Maen
bwysig bod y Cynulliad yn cyflawni gydar brwdfrydedd
hwn neu bydd yr awydd i gyfranogi yn cael ei golli.
Bydd hyn, i raddau helaeth, wastad yn ddibynnol ar ewyllys
wleidyddol. Fodd bynnag, os na all y Cynulliad ymateb
i gynlluniau Cymreig, gall y rhwystredigaethau gynyddu.
Dylai mwy o gymhwysedd deddfwriaethol yn y Cynulliad
Cenedlaethol ein galluogi i weld canlyniadaur
ffyrdd newydd o weithio mewn polisïau newydd syn
adlewyrchu anghenion Cymru.
23. Maen bosib bod rhai sefydliadaur
DU a rhai rhyngwladol yn credu bod gan y Cynulliad statws
is na gweinyddiaethau datganoledig eraill oherwydd ei
ddiffyg pwerau deddfwriaethol. Mae gan y sefydliadau
hyn yr arbenigedd ar adnoddau y gallant ddwyn
gyda nhw ir gymdeithas sifil yng Nghymru au
porthi i broses llunio a chyflwyno polisïau Llywodraeth
Cynulliad Cymru. Maen bosib y caent eu denu mwy
i gyfrannu at drefn lywodraethu Cymru pe ceid rhagor
o gyfleoedd i wneud pethaun wahanol ac yn well.
Maen bosib y byddai twf ym mhweraur Cynulliad
hefyd yn esgor ar dwf ymysg sefydliadaur gymdeithas
sifil yng Nghymru wrth i ragor o gyfleoedd ymddangos
i ddylanwadu ar y broses gwneud penderfyniadau.
24. Mae ein cydweithwyr sector gwirfoddol
yn yr Alban wedi croesawu pwerau deddfwriaethol cynyddol
eu Senedd. Mae mudiadau gwirfoddol wedi defnyddio eu
perthynas waith dda yn effeithiol, gan gyfranogin
weithgar yn y prosesau a arweiniodd at ddeddfwriaeth
ar ddiwygio cyfraith tir, gofal personol rhad-ac-am-ddim
ir henoed a rhwymedigaethau cyfreithiol ar awdurdodau
lleol i gefnogi pobl ddigartref.
25. Yn absenoldeb pwerau deddfwriaethol
sylfaenol, ceir perygl bod y Cynulliad yn cael ei dwyn
i mewn i ystyriaethau ar fanylion gweithredu yn hytrach
na chadw ei ffocws ar faterion deddfwriaethol a pholisïau
strategol.
Argymhelliad:
- Dylid diwygio Deddf Llywodraeth Cymru
- er mwyn rhoi gwell eglurhad o bweraur
Cynulliad;
- er mwyn rhoi ir Cynulliad bwerau
mwy cynhwysfawr er mwyn i hyn alluogir Cynulliad
i fodloni anghenion Cymru yn well.
|
| Y posibiliadau o safbwynt defnyddio
pwerau deddfwriaethol sylfaenol
26. Maer pwerau syn effeithio
ar y sector gwirfoddol yn amrywion aruthrol ac
maen bosib bod gan sefydliadau unigol sawl maes
lle gallai pwer deddfwriaethol sylfaenol ir Cynulliad,
o bosib, gael effaith gadarnhaol ar waith eu sefydliad.
27. Un cyfyngiad ywr diffyg pwer
cyffredinol i wneud taliadau i fudiadau gwirfoddol a
grwpiau cymunedol wrth ymarfer ei swyddogaethau er gwaethaf
ei ddyletswydd statudol i hybur sector gwirfoddol.
Ni all y Cynulliad ond cyllido mudiadau gwirfoddol i
wneud gwaith os cynhwysir hyn mewn deddfwriaeth sylfaenol.
Tra nad yw hyn, maen debyg, wedi atal cyllid cyn
belled, mae yn fwlch pwysig yng ngallur Cynulliad
i gefnogi a hybur sector. Mae hyn yn arbennig
o wir o safbwynt adeiladu seilwaith y sector gwirfoddol.
28. Pe byddai gan y Cynulliad bwerau deddfwriaethol
sylfaenol, byddai CGGC wedi gallu lobïo am Ddeddf Elusennau
newydd. Mae hyn yn rhywbeth y bu ein chwaer-sefydliad
yn yr Alban, Cyngor yr Alban dros Sefydliadau Gwirfoddol
yn ei hybu, ac yn rhywbeth y maer Weithrediaeth
yn yr Alban yn awr wedi ymrwymo iddo. Diben Deddf Elusennau
fyddai diwygior diffiniad o elusen ar fframwaith
rheoleiddio ar gyfer y sector gwirfoddol. Tra bod llywodraeth
y DU yn bwrw hyn ymlaen dros Gymru a Lloegr, maen
annhebygol y cyflwynir Mesur yn diffinio elusennau gerbron
Senedd y DU tan 2005 ar y cynharaf. Drwy sefydlu Deddf
Elusennau drwyr Cynulliad, byddair ddeddfwriaeth
yn canolbwyntio mwy ar y sector gwirfoddol yng Nghymru
a byddain bosib iddi gael ei sefydlu ynghynt.
29. Pe byddai gan y Cynulliad bwerau mewn
perthynas âr system fudd-daliadau, byddair
Cynulliad yn gallu diwygior ddeddfwriaeth ar
polisïau presennol i drawsnewid ein dull o (ail)gynnwys
pobl mewn bywyd cymunedol ac economaidd. Gyda phwerau
or fath, gallai polisïau Llywodraeth Cynulliad
Cymru megis Cymunedau yn Gyntaf ar Rhaglen Gweithredu
dros Gymunedau Gwledig gyflwyno dulliau gweithredu mwy
hyblyg a chyfannol i helpu pobl i ymddiddori mewn mentrau
cymunedol a gweithgareddau cymunedol heb beryglu eu
sefyllfa hirdymor o safbwynt budd-daliadau.
30. Gallair sector gwirfoddol yng
Nghymru hefyd elwa pe byddai gan Lywodraeth Cynulliad
Cymru y pwerau i gyd-drafod eithriadau ir Rheoliadau
Ewropeaidd ar Gymorth Gwladol; y rheoliadau hyn syn
pennu faint o gymorth cyhoeddus y gellir ei roi i gwmnïau.
Y Comisiwn Ewropeaidd syn pennur Rheoliadau
Cymorth Gwladol ac, ar hyn o bryd, y DTI syn cyd-drafod
eithriadau gydar Comisiwn Ewropeaidd. Yna caiff
y rhain eu hadlewyrchu yng nghynllun cymorth gwladol
y DTI. Mae cynllun y DTI yn seiliedig ar anghenion y
DU. Oherwydd bod gan ran fawr o Gymru statws Amcan 1,
mae ei blaenoriaeth ar gyfer Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd
yn wahanol i weddill y DU. Pe bai gan Gymrur pwer
i bennu ei chynllun cymorth gwladol ei hun a chyd-drafod
gydar CE yn uniongyrchol, gallair polisi
eithriadau ganolbwyntio llawer mwy ar amgylchiadau Cymru.
Byddai hyn i bob pwrpas hefyd yn cael gwared âr
dyn canol yng nghyd-drafodaethau WEFO gydar
Comisiwn Ewropeaidd.
|
| Strwythur a threfniadau gwaith y Cynulliad
31. Maer trefniadau cyfredol yn
ddryslyd a gallant fod yn rhwystr arall at dryloywder
ac atebolrwydd pendant. Mae llawer o sefydliadau nad
ydynt yn deall y gwahaniaeth rhwng Cynulliad Cenedlaethol
Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gall hyd yn oed
y rhai hynny syn gweithion rheolaidd gydar
Cynulliad fod yn ansicr. Maer termau Llywodraeth
Cynulliad Cymru a Cynulliad yn dal i gael
eu defnyddio, y naill am y llall, ymysg swyddogion Llywodraeth
Cynulliad Cymru yn anad neb. Gan fod y Cynulliad, yn
ymarferol, wedi mabwysiadu model seneddol, dylid esbonio
hyn yn gyfreithiol yn awr yn ogystal ag ir cyhoedd.
32. Caiff y dryswch ei adlewyrchu yn y
berthynas rhwng y sector gwirfoddol ar Cynulliad.
Er enghraifft, dynoda Deddf Llywodraeth Cymru fod yn
rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sefydlu Cynllun
syn esbonio sut y bydd yn cefnogi ac yn hybur
sector a chyhoeddi adroddiad ar y Cynllun. Lluniwyd
y Cynllun Sector Gwirfoddol cyn gwahanur swyddogaeth
ddeddfwriaethol ar swyddogaeth weithredol, felly
hefyd Gynllun Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn ymarferol,
Cynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru ydyw yn awr ac mae
Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddir Cod
Ymarfer ar gyfer Cyllido ar Ail Adroddiad Blynyddol.
Mae hyn wedi esgor ar Gynllun Sector Gwirfoddol gan
Gynulliad Cenedlaethol Cymru syn canolbwyntion
gyfan gwbl ar weithgareddau Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae hyn yn taenu niwl dros atebolrwydd.
Argymhelliad:
- Dylid bod rhaniad clir rhwng cangen weithredol a
changen ddeddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
|
| Y Berthynas rhwng Cynulliad Cenedlaethol
Cymru ym Mae Caerdydd ar sector gwirfoddol
33. Bur berthynas rhwng y Cynulliad
yn y Bae ar sector gwirfoddol yn gynhwysol ac
yn agored iawn. Pe byddech yn ymweld âr Cynulliad
yn ystod unrhyw wythnos waith fe fyddech yn gweld amrywiol
grwpiau gwirfoddol yn arddangos yn y man ymgynnull,
yn cynnal dadleuon neu dderbyniadau amser cinio neu
gydar nos, yn ymweld ag ACau, yn gwrando ar drafodaethaur
cyfarfod llawn, neun rhoi cyflwyniadau gerbron
Pwyllgorau.
34. Maer posibilrwydd i drafodaethaur
cyfarfodydd llawn ddylanwadu ar newid gwirioneddol ambell
dro yn amheus. Fodd bynnag, mae grwpiau gwirfoddol wedi
gweithio gyda gwahanol bleidiau gwleidyddol i sicrhau
newid gwirioneddol drwy gyfrwng deddfwriaeth eilaidd,
drwy ddefnyddio peirianweithiaur Cynulliad ir
eithaf. Un enghraifft o hwn ywr Gorchymyn Digartrefedd
(Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001; maer
sector gwirfoddol tai yn honni mai hon ywr "ddeddfwriaeth
eilaidd bwysicaf y maer Cynulliad wedi ei
phasio hyd yma.
35. Maer Pwyllgorau hefyd wedi gweithion
agos gydar sector gwirfoddol ac mae gan y Pwyllgor
Cyfle Cyfartal wahoddiad sefydlog i Fforwm LGB Cymru
i fynychur cyfarfodydd fel cynghorydd. Maer
Pwyllgorau Pwnc wedi trafod gydar sector drwy
gyfrwng ymgynghoriadau a thrwy wahodd grwpiau i roi
cyflwyniadau. Mae trafodaethau anffurfiol gydag Aelodaur
Cynulliad ar y pwyllgorau hefyd wedi galluogi grwpiau
gwirfoddol i ddylanwadu ar bynciau adolygiadau polisi.
Er enghraifft, llwyddodd aelodau Cyswllt Amgylchedd
Cymru i lobïor Pwyllgor Datblygu Economaidd i
gynnal adolygiad o ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Maer
Pwyllgorau yn chwarae rôl bwysig iawn i gasglu gwybodaeth
a thystiolaeth. Maent hefyd yn chwarae rôl bwysig yn
dylanwadu ar bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Fodd
bynnag, gall perchnogaeth adroddiadau Pwyllgor fod yn
ddryslyd pan fydd Gweinidog yn cefnogi adroddiad yn
gyffredinol, ond nid yn dynodi pa rannau or adroddiadau
a fydd yn bolisi i Lywodraeth Cynulliad Cymru na fel
arall.
36. Maer Pwyllgorau Pwnc hefyd yn
chwarae rôl i graffu ar Lywodraeth Cynulliad Cymru ac,
unwaith eto, maer grwpiau gwirfoddol wedi gweithio
gydag Aelodaur Cynulliad i wneud hyn. Fodd bynnag,
ceir pryder sylweddol y bydd y gostyngiad y bwriedir
ei wneud yn nifer cyfarfodydd y Pwyllgorau Pwnc yn golygu
gostyngiad yn y broses o graffu ar Weinidogion.
37. Tra bod mudiadau gwirfoddol cenedlaethol
a rhanbarthol mwy wedi llwyddo i fod yn rhan or
prosesau hyn, mae hefyd angen cynnwys grwpiau lleol
ledled Cymru. Maer mudiadau hyn yn gweithion
uniongyrchol gydau cymunedau ond y grwpiau hyn,
yn aml, syn teimlo mai ychydig iawn sydd gan y
Cynulliad i wneud â nhw. Ni lwyddodd y Pwyllgorau Rhanbarthol
i roi sylw i hyn ac nid ywn glir sut y maent yn
effeithio ar broses gwneud penderfyniadaur Cynulliad.
|
| Y Berthynas rhwng y Cynulliad yng Nghaerdydd
ar Senedd yn San Steffan
38. Maer Cynulliad yn dibynnu ar
lywodraeth y DU i gyflwyno neu ddiwygio deddfwriaeth
sylfaenol i beri newid yng Nghymru. Mae Rheolau Sefydlog
y Cynulliad yn pennur gweithdrefnau ar gyfer dylanwadu
ar ddeddfwriaeth sylfaenol ond mae rhai mudiadau gwirfoddol
yn teimlo fod y Cynulliad un ai wedi methu â dylanwadu
ar benderfyniadau a wneir yn San Steffan neun
amharod i wneud hynny. Er enghraifft, yn ystod tair
blynedd cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, dim ond dwy
statud Cymru yn unig a ddaeth o San Steffan. Un rheswm
am hyn yw diffyg amser yn y senedd.
39. Pe byddai gan y Cynulliad bwerau deddfwriaeth
sylfaenol byddai ganddor potensial i ddelio â
materion o bwys i Gymru yn llawer cyflymach. Wrth lobïo
am Gomisiynydd Plant i Gymru gydar cylch gwaith
eang angenrheidiol i hybu hawliau a lles plant yng Nghymru,
bun rhaid i fudiadau plant yng Nghymru ymgyrchun
galed nid yn unig gerbron y Cynulliad, ond hefyd gerbron
Tyr Cyffredin a Thyr Arglwyddi. Maen
bosib y byddai hyn wedi cael sylw yn gyflymach pe byddai
gan y Cynulliad Cenedlaethol y pwerau i ddiwygior
ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol a chyflwyno deddfwriaeth
sylfaenol newydd. Bur pwysau oherwydd amser cyfyngedig
yn y senedd i fanylu ar y Mesur Comisiynydd Plant i
Gymru ai ddiwygio yn bygwth gallu sefydliadau
plant i sicrhaur diwygiadau y teimlent a oedd
yn hanfodol i lwyddiant y swydd. Bydd Comisiwn Richard
yn clywed yn uniongyrchol oddi wrth Plant yng Nghymru,
gallant hwy roi adroddiad manylach.
40. Nid ywn glir sut y maer
Cynulliad yn ymwneud â thrafodaethau am ddeddfwriaeth
sylfaenol newydd na diwygiadau ir ddeddfwriaeth
sylfaenol bresennol. Mae deddfwriaeth sylfaenol yn llunior
holl ddeddfwriaeth eilaidd a gall llunio deddfwriaeth
sylfaenol newydd neu ddiwygior ddeddfwriaeth sylfaenol
bresennol gynyddu neu leihau pweraur Cynulliad.
Croesewir yr ymrwymiad ir gweithdrefnau manylu
cyn-ddeddfwriaethol, ond rhaid i brosesau gwneud penderfyniadaur
Cynulliad ynghylch deddfwriaeth ddrafft fod yn dryloyw
ac yn unol ag ymrwymiadaur Cynllun Sector Gwirfoddol.
Argymhelliad:
- Dylid diwygio Deddf Llywodraeth Cymru gyda rhagdybiaeth
o blaid datganoli pwerau ir Cynulliad Cenedlaethol
oni bai y ceir rheswm anorfod dros gadw pwerau ar
lefel y DU, er mwyn gallu bwrw ymlaen materion syn
ymwneud â Chymru yn gyflymach.
- Dylair peirianweithiau ar gyfer ymgynghori
gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghylch yr effaith
y bydd deddfwriaeth sylfaenol a sefydlir maes o law
yn ei chael ar ei bwerau, fod yn fwy tryloyw a dylai
gynnwys ymgynghori gydag adrannau perthnasol y gymdeithas
sifil.
|
| Y Berthynas rhwng y Cynulliad a Whitehall
Y Berthynas rhwng Whitehall ar sector gwirfoddol
yng Nghymru
41. Mae gan y sector gwirfoddol yng Nghymru
berthynas gadarn gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy
gyfrwng y Cynllun Sector Gwirfoddol. Yn Lloegr, maer
sector gwirfoddol ar Llywodraeth wedi llofnodi
Cyfamod syn esbonio perthnasau tebyg a ffyrdd
o weithio y cytunwyd arnynt er bod y Cynllun
ar Cyfamod wedi datblygun wahanol.
42. Nid oes gan y sector gwirfoddol yng
Nghymru unrhyw berthnasau y cytunwyd arnynt ar gyfer
gweithio gydag unrhyw rai o adrannau Whitehall ar faterion
nas datganolwyd. Bu hon yn broblem sylweddol ers datganoli
a rhoddwyd y sector gwirfoddol mewn sefyllfa tipyn gwannach
o safbwynt dylanwadu ar lunio polisïau, cyflwyno gwasanaethau
a chefnogir gymdeithas sifil yng Nghymru ar faterion
nas datganolwyd. Dywedodd un person a gyfranogai yn
ein digwyddiad polisi ei bod yn haws, ers datganoli,
dylanwadu ar y Cynulliad ac Ewrop, ond bod llai o gyfle
i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth sylfaenol ac ar bolisïau
a lunnir ar lefel y DU.
43. Yn aml nid yw adrannau Whitehall wedi
gwahodd y sector gwirfoddol yng Nghymru i gyfranogi
i ddylanwadu ar y broses llunio polisïau yn gynnar,
adeg ffurfior manylion. Er enghraifft, yn ddiweddar
gwahoddodd yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon
y Cyngor Cenedlaethol dros Fudiadau Gwirfoddol (chwaer-sefydliad
CGGC yn Lloegr) a thri grwp ymbarél y sector gwirfoddol
yn Lloegr i drafodaethau rhagarweiniol am bolisïau cyllid
y loteri. Ar ôl i gynrychiolwyr y sector gwirfoddol,
or tu allan i Loegr, gysylltu âr DCMS dywedodd
yn bendant na fwriadai gynnal trafodaethau tebyg gyda
chynrychiolwyr sector gwirfoddol or tair gwlad
arall er gwaethar ffaith y byddair polisi
yn cael cymaint o effaith ar y sector yn y gwledydd
hynny.
44. Mewn ymgynghoriadau eraill, mae adrannaur
DU wedi ymgynghori drwy gyfrwng y Cynulliad Cenedlaethol.
Tra adroddodd y sefydliadau eu bod yn teimlo bod yr
ymgynghoriadau hyn, gan amlaf, yn gynhwysol ac yr adlewyrchwyd
eu barn yn yr adroddiadau, maer diffyg dylanwad
sydd gan y Cynulliad dros brosesau gwneud penderfyniadau
Whitehall yn golygu na wrandawyd arnynt er iddynt leisio
barn.
45. Maen amlwg nad yw adrannau Whitehall
yn aml yn gwybod a yw eu polisïau yn berthnasol i feysydd
datganoledig ai peidio nac yn gwybod eu bod yn peri
dryswch ac yn gwastraffu amser mudiadau gwirfoddol.
Mae Gweinidogion y DU yn aml yn gwneud cyhoeddiadau
heb egluro sut y maent yn ymwneud â Chymru. Mae sefydliadau
yng Nghymru wedi treulio amser ac adnoddau yn ymateb
i ymgynghoriadau gan adrannau Whitehall cyn darganfod,
yn ddiweddarach yn y broses, na fydd y polisi yn effeithio
ar Gymru. Er enghraifft, cyfranogodd y sector yng Nghymru
mewn ymarferiad ymgynghori ynghylch adolygiad trawsbleidiol
y Trysorlys cyn darganfod mai Lloegr yn unig yr oedd
cylch gwaith yr adolygiad yn ei gynnwys.
46. Fei hadlewyrchir hefyd mewn llifau
nawdd. Maen gymharol glir beth y maer Cynulliad
yn ei gyllido, ond maen anodd iawn pennu beth
y mae adrannau Whitehall yn ei gyllido yng Nghymru a
pham. Ni cheir unrhyw eglurder adeg y cyhoeddiad, na
hyd yn oed sawl mis yn ddiweddarach, fel a drafodir
yn nes ymlaen.
Argymhelliad:
- Concordat DU a fyddain dweud yn bendant y
dylai adrannau nas datganolwyd ddefnyddior egwyddorion
a bennir yn y Cynllun Sector Gwirfoddol i arwain eu
perthynas gydar sector gwirfoddol yng Nghymru;
- Rhaid sicrhau eglurder cwbl glir ar sut y mae polisïaur
DU yn effeithio ar Gymru mor gynnar â phosib wrth
eu llunio.
|
| Y Berthynas rhwng y Cynulliad a Whitehall
47. Maer dryswch yn y sector gwirfoddol
ynghylch sut y mae polisïau Whitehall yn effeithio ar
Gymru hefyd iw weld yn sefydliadaur llywodraeth.
Pan aiff mudiadau gwirfoddol yn uniongyrchol at adrannau
llywodraeth y DU neur Cynulliad i gael eglurhad,
maent yn aml wedi methu âi roi.
48. Ceir esiamplau clir lle nad yw adrannau
Whitehall wedi cynnwys yr adrannau cyfatebol iddynt
yn y Cynulliad i lunio polisïau ar faterion a gaiff
effaith sylweddol yng Nghymru. Er enghraifft, ni ymgynghorodd
yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon âr
isadran berthnasol yn y Cynulliad am y Mesur Trwyddedu
arfaethedig. Tra bod trwyddedu yn fater nas datganolwyd,
bydd gan ddarpariaethau yn y Mesur oblygiadau pwysig
ar sawl maes polisi allweddol syn gyfrifoldeb
i Lywodraeth y Cynulliad gan gynnwys y celfyddydau,
cynaladwyedd cymunedau a chynhwysiant cymdeithasol.
49. Maer diffyg cyfathrebu yn gwneud
y broses llunio polisïau integredig rhwng y Cynulliad
a Whitehall yn anos fyth. Yn aml, nid yw Whitehall yn
ymwybodol o gynlluniau a luniwyd yn yr Alban, Cymru
a Gogledd Iwerddon, ac nid ywr gweinyddiaethau
datganoledig yn ymwybodol neu ddim yn gysylltiedig âr
broses o lunio cynlluniau yn Whitehall. Mae hyn hefyd
yn ei gwneud yn anodd i rannur arferion gorau.
Tryloywder ac atebolrwydd
50. Pryder arall yw tryloywder. Maen
bosib y bydd Gweinidog neu was sifil yn y Cynulliad
yn cyflwyno mater o ddiddordeb ir sector gwirfoddol
ond maen aml yn anodd deall sut y gwnaed hyn neu
beth yn union ywr canlyniad. Mae hyn yn peri pryder
yn arbennig pan fydd trafodaethau yn dilyn Penderfyniad
yn y Cynulliad. Rhaid cael gwell tryloywder a rhaid
cadw cofnodion ffurfiol pryd bynnag y bo hynnyn
briodol.
51. Ceir dryswch hefyd ynghylch atebolrwydd
o fewn rhai o isadrannaur Cynulliad os bydd eu
gwaith yn ymwneud yn bendant â materion nas datganolwyd
neu os bydd uned yn bennaf atebol i Whitehall. Er enghraifft,
mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru Dîm Gostwng Troseddu.
Tra ceir rhai pwerau datganoledig ar Alcohol a Chyffuriau,
maer uned a leolir yn y Cynulliad yn bennaf atebol
i lywodraeth y DU.
Argymhellion:
- Gwell cysylltiadau a pherthnasau gwaith rhwng swyddogion
Whitehall a swyddogion y Cynulliad yn enwedig ar faterion
lle mae cyfrifoldebau yn gorgyffwrdd a gwell tryloywder
ynghylch y perthnasau hyn.
|
| Ysgrifennydd Gwladol Cymru
52. Fel a ddisgrifir uchod, ceir anawsterau
amlwg o safbwynt cyfathrebu a deall, ar lefel y DU,
beth syn digwydd yng Nghymru a sut y mae polisïau
yn effeithio ar Gymru. Dylair Ysgrifennydd Gwladol
chwarae rôl amlwg i gefnogi buddiannau Cymru, gan gynnwys
y sector gwirfoddol, mewn materion polisi nas datganolwyd.
Bydd CGGC yn ceisio cefnogi Ysgrifennydd Gwladol Cymru
i sicrhau ymrwymiad adrannaur DU i ddilyn egwyddorion
y Cynllun Sector Gwirfoddol mewn perthynas â materion
nas datganolwyd.
Argymhelliad:
- Bod rôl yr Ysgrifennydd Gwladol yn aros yn bwysig
yn y setliad datganoli cyfredol.
|
| Llifau nawdd
53. Maer ddogfen ymgynghori yn tynnu
sylw dilys at yr anawsterau y maer ansicrwydd
am lifau nawdd yn ei achosi. Trafodwyd y materion hyn
yn fyr eisoes.
54. Un broblem allweddol ywr dryswch
a grëir drwy fod Gweinidogion y DU yn cyhoeddi cyllid
heb ddweud yn iawn pa un a ywn ymwneud âr
DU gyfan ynteu â Lloegr yn unig. Gellir dwysáu hyn drwy
ddefnyddior gair cenedlaethol. Defnyddir
hwn yn aml i ddisgrifio cynlluniau newydd neu arian
ychwanegol sydd ar gael a, maes o law, maen ymddangos
mai ar gyfer Lloegr yn unig y mae. Yn aml, nid yw adrannaur
DU eu hunain yn ymwybodol o sut y mae cyhoeddiadau cyllid
yn ymwneud â Chymru a chaiff llawer iawn o amser ac
egni eu gwastraffu yn ceisio gwneud synnwyr or
cyfan.
55. Un esiampl dda o hyn ywr futurebuilders.
Yn sgîl Adolygiad Trawsbleidiol y Trysorlys (a drafodir
uchod) sefydlwyd cronfa or enw futurebuilders.
Bun anodd cael esboniad ynghylch ar gyfer beth
y maer gronfa a phwy a all ymgeisio. Ysgrifennodd
CGGC yn gyntaf at y Trysorlys am esboniad ym mis Ionawr
2003. Atebodd y Trysorlys ym mis Chwefror gan ddweud
yn bendant mai cronfa i Loegr yn unig ydoedd, ond y
byddai Cymru yn cael cyllid canlyniadol ar Cynulliad
a fyddain penderfynu sut i warior arian
hwn. Mewn ymateb i gwestiwn yn y Senedd ym mis Mawrth,
fodd bynnag, dywedwyd bod y gronfa yn ddewis arall yn
lle cyflwyno newidiadau yn y modd y maer system
TAW yn gweithredu i elusennau. Gan fod TAW yn fater
nas datganolwyd, byddain ymddangos yn briodol
y dylair arian gael ei dargedu at gronfa debyg
yng Nghymru. Ym mis Mai 2003, maen dal yn bell
o fod yn glir a fydd sefydliadau yng Nghymru yn gallu
defnyddio cronfa debyg.
56. Nid dim ond yr amser ar egni
a dreulir yn darganfod a ywr cyllid yn berthnasol
i Gymru ai peidio syn peri pryder. Mewn sawl enghraifft,
maer ffordd ymddangosiadol fympwyol o wneud penderfyniadau
am a fydd y cyllid yn berthnasol i Gymru ai peidio yn
golygu fod Cymru, o bosib, yn methu cyfleoedd pwysig
i gael nawdd. Gan fod y sector gwirfoddol yng Nghymru
eisoes yn cael llawer llai o nawdd nar sector
yn Lloegr, mae hyn yn bryder gwirioneddol. Nid esiampl
unigryw yw hon, ond yn hytrach maen brofiad cyffredin.
57. Nid ywr dryswch yn dod i ben
gyda chyllid o adrannau llywodraeth y DU. Mae mudiadau
gwirfoddol yn adrodd fod nifer o gyrff rhoddi grantiau
nad ydynt yn deall y gwahaniaethau yng Nghymru, na pha
bryd y bydd cyllid y DU ar gael i sefydliadau
neu beidio. Dywedodd rhai sefydliadau yn ein digwyddiadau
polisi fod hyn wedii gwneud yn anos iddynt gael
gafael ar arian oddi wrth noddwyr y tu allan i Gymru,
yn enwedig os oedd rhagdybiaeth bod arian cyfatebol
ar gael oddi wrth y llywodraeth.
58. Caiff y diffyg integreiddio wrth lunio
polisïau ei adlewyrchu yn y diffyg integreiddio mewn
llifau nawdd ar gyfer mathau tebyg o waith. Rhaid i
sefydliadau wneud ceisiadau am waith tebyg ar gyfer
y Cynulliad a llywodraeth y DU, fel ei gilydd. Mae hyn
yn golygu dyblygu ymdrech ac, unwaith eto, maen
tynnu sylw at yr angen am ragor o gydweithio rhwng y
Cynulliad a Whitehall.
Argymhelliad:
- Rhaid i adrannau Whitehall fod yn gwbl sicr o oblygiadaur
llifau nawdd i Gymru a bod yn sicr pam y gwnaed y
penderfyniadau hyn.
|
| Casgliad
59. Maer strwythurau ar gyfer cydweithio
rhwng y sector gwirfoddol yng Nghymru a Chynulliad Cenedlaethol
Cymru yn gryf a dylid hefyd eu hadlewyrchu ym mherthnasaur
sector gwirfoddol gydag adrannau nas datganolwyd. Y
gobaith yw bod yr ymateb yn amlinellu rhai or
manteision ar rhwystredigaethau a geir o weithio
o fewn y setliad datganoli presennol. Mae hefyd yn glir
nad yw ymrwymiad y llywodraeth i weithio gydar
sector gwirfoddol yn cael ei gyfyngu ir strwythurau
sefydliadol ond mae hefyd yn ddibynnol ar ewyllys wleidyddol.
60. Mae CGGC yn gofyn ir Comisiwn
ystyried yr argymhellion canlynol:
- Dylid diwygio Deddf Llywodraeth Cymru:
- er mwyn sicrhau eglurder ynghylch
pwerau a chyfrifoldebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
a Llywodraeth y DU. Bydd hyn yn sicrhau bod y sefydliadau
ar prosesau o fewn cyrraedd haws ac yn fwy tryloyw
gan ganiatáu ar gyfer proses llunio polisïau fwy integredig;
- er mwyn rhoi pwerau mwy
cynhwysfawr ir Cynulliad Cenedlaethol er mwyn
galluogir Cynulliad i fodloni anghenion Cymru
yn well;
- gyda rhagdybiaeth o blaid
datganoli pwerau ir Cynulliad Cenedlaethol oni
bai y ceir rheswm anorfod dros gadw pwerau ar lefel
y DU, er mwyn gallu bwrw ymlaen materion syn
ymwneud â Chymru yn gyflymach.
- Dylid bod y Cynulliad yn meddu ar bwer cyffredinol
i wneud taliadau i fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol
wrth gyflawni ei swyddogaethau
- Dylid bod rhaniad clir rhwng swyddogaeth weithredol
a swyddogaeth ddeddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru.
- Dylair peirianweithiau ar gyfer ymgynghori
â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch effaith deddfwriaeth
sylfaenol a sefydlir maes o law ar ei bwerau fod yn
fwy tryloyw a dylai gynnwys ymgynghori gydag adrannau
perthnasol y gymdeithas sifil.
- Dylai adrannau nas datganolwyd ddefnyddior
egwyddorion a bennir yn y Cynllun Sector Gwirfoddol
i arwain eu perthynas gydar sector gwirfoddol
yng Nghymru.
- Rhaid sicrhau eglurder ar sut y mae polisïaur
DU yn effeithio ar Gymru mor gynnar â phosib wrth
eu llunio.
- Dylid bod eglurdeb ar y goblygiadau i Gymru o safbwynt
llifau nawdd o adrannau nas datganolwyd ac eglurdeb
ynghylch pam y gwnaed y penderfyniadau hyn.
- Dylid bod gwell cysylltiadau a pherthnasau gwaith
rhwng swyddogion Whitehall a swyddogion y Cynulliad
yn enwedig ar faterion lle mae cyfrifoldebau yn gorgyffwrdd
a gwell tryloywder ynghylch y perthnasau hyn.
- Dylid cadw swydd yr Ysgrifennydd Gwladol, o leiaf
o fewn y setliad datganoli presennol.
- Dylid asesu swyddogaethau nas datganolwyd i bennu
a ddylair dull ou gweithredu yng Nghymru
fod yn wahanol ac a ddylid eu cyflwyno drwy gyfrwng
Llywodraeth Cynulliad Cymru.
|
|
|
|
|
|