A Young Persons Policy For Agriculture 2003

Cefndir CFfI Cymru

Mae Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru yn cynrychioli 5,500 o bobl ifanc rhwng 10 a 26 oed, 12 Ffederasiwn Sirol a 172 o Glybiau. Er bod enw’r Mudiad yn cyfeirio at ffermwyr ifanc, mae ein haelodaeth yn cynnwys bobl ifanc o bob cefndir sy’n byw yng nghefn gwlad. Cynnwys amcanion y Mudiad y nod o hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ddiwylliannol sy’n bodoli yng Nghymru a chodi delwedd yr iaith Gymraeg yn ogystal â hybu cyfle cyfartal i bawb.

Trefnu’r rhaglen eang o hyfforddiant, cynlluniau a digwyddiadau bob blwyddyn i ddatblygu profiadau a sgiliau aelodau, profiadau sydd hefyd yn cyfoethogi eu haddysg ffurfiol.

Cynnwys y rhaglen hyfforddi gymorth a gwybodaeth ynglyn â thechnoleg gwybodaeth, ymwybyddiaeth o beryglon cyffuriau ag alcohol, datblygu arweinyddion, hyfforddiant galwedigaethol, ymwybyddiaeth o ddwyieithrwydd, menter, drama, sgriptio yn ogystal ag hyfforddiant i wirfoddolwyr gynnal nosweithiau rhaglenni Clwb.

Cyswllt gyda’r Cynulliad

Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, ers sefydlu’r Cynulliad yng Nghymru, mae CFfI Cymru wedi bod yn awyddus i ddatblygu’r Mudiad a sicrhau fod pobl ifanc Cymru yn cael cyfle i fynegi eu barn yn effeithiol. Mae datganoli wedi rhoi mwy o bwyslais ar gymunedau Cymreig sydd wedi cryfhau’r cyswllt rhwng aelodau CFfI a gwleidyddion.

O gymharu â San Steffan, mae adeilad y Cynulliad yn gyfoes sydd o gymorth i sicrhau fod unigolion yn gyfforddus i drin a thrafod gyda gwleidyddion o’i fewn.

Yn ogystal, o’r dechrau, mae ymgais wedi ei wneud gan y Cynulliad i ymgynghori a chydweithio’n rheolaidd gyda thraws doriad eang o fudiadau. Gwerthfawrogwn y cyfle hyn yn fawr a pharodrwydd staff y Cynulliad i ymdrin ag unrhyw ymholiad neu fater a all godi.

O ganlyniad, o gymharu â San Steffan, mae cyswllt agos wedi datblygu rhyngthom ni fel Mudiad a’r Cynulliad.

Anhawster mwyaf y Cynulliad, fel a welwyd yn ystod y Clwy Traed a’r Genau yw diffyg grym – mae angen sicrhau fod mwy o bwerau yn cael eu datganoli, os yw’r Cynulliad yn mynd i fedru cyflawni gwasaneth effeithiol i’w llawn botensial i’r boblogaeth yng Nghymru.

Yr anhawster arall yw, tra bod cyswllt agos wedi datblygu rhwng Aelodau’r Cynulliad ac aelodau’r Mudiad, mae cymhlethdod– ‘pwy sy’n gyfrifol am beth’ yn medru creu oedi wrth geisio darganfod a’i y Cynulliad neu San Steffan sy’n gyfrifol e.e. o safbwynt rheolau 6 diwrnod symud anifeiliaid neu reolau trwyddedu adloniant.

Casgliad

Fel Mudiad, rydym o’r farn fod y Cynulliad yn ddatblygiad er gwell i Gymru megis y Cynllun Cyswllt Ffermio sy’n gwedd newid amaeth yng Nghymru yn yr un modd mae’r cynlluniau i ddatblygu gwasanaethau i bobl ifanc yn cael canlyniadau positif oherwydd am y tro cyntaf erioed mae Llywodraeth y Cynulliad yn medru ateb angenion llawer mwy na fedr Llywodraeth San Steffan. Y diffyg mwyaf yw diffyg grym a mawr obeithiwn y bydd hyn yn medru cael ei ddatrus yn fuan.

Mae cyfrifoldeb gennym yn ogystal fel poblogaeth i fonitro’r Cynulliad, i ymateb a thrafod ac i bleidleisio ac fel Mudaid, byddwn yn parhau i annog aelodau i wneud hynny.

CFfI Cymru

Ebrill 2003