Cwestiynau Cyffredin
|
| Beth yw pwrpas
y Comisiwn? |
| Penodwyd y Comisiwn ar Bwerau a Threfniadau
Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn Richard)
ym mis Gorffennaf 2002. Ein swydd yw edrych ar bwerau
a threfniadau etholiadol y Cynulliad. Byddwn yn cynhyrchu
adroddiad annibynnol, a bydd yr adroddiad hwn yn cyfrannu
at benderfyniadau ar ddyfodol y Cynulliad Cenedlaethol
a'r ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu yn y dyfodol. |
| Cliciwch yma
i ddarllen y Cylch Gorchwyl llawn |
| Ar ba faterion
y mae'r Comisiwn yn edrych? |
|
Edrych ar bwerau a threfniadau
etholiadol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru yw cyfarwyddyd y Comisiwn. Mae'r materion y bydd
y Comisiwn yn edrych arnynt yn cynnwys 3 prif elfen:
- A yw maint y Cynulliad yn
ddigonol i gyflawni ei swyddogaeth bresennol
- A yw'r system etholiadol bresennol
yn cynrychioli Cymru yn ddigonol
- A fyddai angen unrhyw newidiadau
pe bai gan y Cynulliad fwy o bwerau
|
| Cliciwch yma
i ddarllen Pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru - materion
a chwestiynau i ymgynghori arnynt |
| Cliciwch yma
i ddarllen Trefniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru - materion a chwestiynau i ymgynghori arnynt |
| Sut mae'r Comisiwn
yn mynd ati? |
| Mae'r Comisiwn yn
awyddus i ddefnyddio dull ymarferol iawn - gan ganolbwyntio
ar enghreifftiau manwl o sut mae pethau'n gweithio ar
hyn o bryd a sut gellir gwella arnynt. Mae'n bwriadu seilio'i
gasgliadau ar dystiolaeth o oblygiadau ymarferol y pwerau
presennol sydd gan y Cynulliad ac i ddarparu atebion ymarferol
i wella'r ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu. |
| Er mwyn cyflawni hyn,
rydym yn ymgynghori'n eang - drwy wahodd cyflwyniadau
ysgrifenedig a chan gymryd tystiolaeth lafar oddi wrth
y cyhoedd, pleidiau gwleidyddol, cyrff cyhoeddus, busnesau,
y sector gwirfoddol, llywodraeth leol a sefydliadau eraill
gan gynnwys Senedd yr Alban a San Steffan. |
| Cliciwch yma
i ddarllen am y cynnydd hyd yn hyn. |
| Pwy yw Aelodau'r Comisiwn? |
Cadeiryd
|
Y Gwir Anrh Arglwydd Richard
o Rydaman CF |
Aelodau:
|
Eira Davies
Tom Jones
Dr Laura McAllister
Peter Price
Ted Rowlands
Vivienne Sugar
Huw Thomas
Syr Michael Wheeler-Booth KCB
Paul Valerio
|
| Cliciwch fan
hyn i ddarllen manylion pellach |
| Sut dewiswyd yr aelodau? |
Yn ei ddatganiad ar 18 Ebrill a oedd yn cyhoeddi
sefydlur Comisiwn dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd
Richard, dywedodd Prif Weinidog Cymru y byddair
aelodau yn cael eu penodi drwy:
|
a. enwebiadau gwleidyddol gan y pedair plaid
wleidyddol yn y Cynulliad; a
|
b. penodiadau a wneid drwy'r broses penodiadau
cyhoeddus ar ôl hysbysebun gyhoeddus.
|
| Cliciwch fan
hyn i ddarllen datganiad y Prif Weinidog |
| A ydy'r Comisiwn yn cynnal cyfarfodydd
yn gyhoeddus? |
Ydy. Mae Cylch Gorchwyl y Comisiwn yn nodi y dylid
cyfarfod yn gyhoeddus oni bai fod y sawl sy'n rhoi
tystiolaeth yn gofyn fel arall, neu oni bai fod y
Comisiwn, mewn amgylchiadau eithriadol, yn penderfynu
cynnal cyfarfod yn breifat.
|
| Cliciwch fan
hyn i ddarllen y Cylch Gorchwyl llawn |
| Ble mae'r Comisiwn yn cyfarfod? |
Mae'r Comisiwn yn cyfarfod mewn amryw o leoliadau
ledled Cymru. Caiff cyfarfodydd hefyd eu cynnal y
tu allan i Gymru, e.e. yn Llundain a Chaeredin lle
bo tystion allweddol.
|
Cliciwch fan
hyn i weld y rhestr o ddigwyddiadau
|
| A fydd unrhyw un yn cael rhoi tystiolaeth
i'r Comisiwn, ac os felly, sut? |
Bydd. Gofynnir i unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno tystiolaeth
i'r Comisiwn anfon cyflwyniad ysgrifenedig atom sy'n
nodi ei sylwadau a'u safbwyntiau. Yna mae'n bosib
y gwahoddir y cyfrannwr i ddod i roi tystiolaeth bellach
gerbron y Comisiwn mewn sesiwn dystiolaeth ffurfiol
a gynhelir yn gyhoeddus.
|
Fel arall, gall y sawl sy'n dymuno rhoi tystiolaeth
wneud hynny mewn cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus a
gynhelir ledled Cymru.
|
| Cliciwch fan
hyn i ddarllen y rhestr o ddigwyddiadau |
| A fydd yn bosib gweld y dystiolaeth sydd
wedi dod i law'r Comisiwn, ac os felly, sut? |
Bydd. Cyhoeddir yr holl dystiolaeth sydd wedi dod
i law ar y wefan oni bai fod y sawl sydd wedi cyfrannu
wedi nodi eu bod yn dymuno iw tystiolaeth gael
ei gadwn breifat. Gall y Comisiwn hefyd anfon
copïau o'r dystiolaeth atoch os gwewch gais.
|
Cliciwch fan hyn
i ddarllen y rhestr o dystiolaeth
|
| Pryd bydd y Comisiwn yn paratoi adroddiad?
|
Mae'r Comisiwn yn bwriadu adrodd ar ei benderfyniadau,
gan gynnwys ei argymhellion, yn gynnar yn 2004. Bydd
hyn yn digwydd ychydig yn hwyrach nag a ragwelwyd
yn wreiddiol, er mwyn i'r Comisiwn allu ystyried rhai
o'r materion newydd a ddaw yn sgil y newidiadau cyfansoddiadol
a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
|
| Sut gellir cysylltu â'r Comisiwn? |
Gallwch gysylltu â'r Comisiwn yn y ffyrdd canlynol:
|
- E-bost: richard.commission@wales.gsi.gov.uk
- Rhif Ffôn: 029 2034 4274
- Ffacs: 029 2039 5792
- Drwy ysgrifennu at: Comisiwn Richard, Ty Caradog,
1-6 Plas Sant Andreas, Caerdydd, CF10 3BE
|