Safleoedd Allanol
|
Safleoedd y Llywodraeth
|
- Seneddau a Chynulliadau a Ddatganolwyd
|
Cynulliad Cenedlaethol
Cymru
|
Mae gwefan y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cofnod
llawn o drafodion y cyfarfodydd llawn yn ogystal â
chyhoeddiadau, adroddiadau ac ymarferion ymgynghori
y Cynulliad. Mae yna adrannau ar hanes y Cynulliad
a'i swyddogaeth, manylion ynghylch pob or Aelod
Cynulliad a gwybodaeth ar gyfer ymwelwyr.
|
Senedd
yr Alban
|
Mae'r wefan yn cynnwys manylion cynhwysfawr am bob
agwedd ar fusnes y Senedd - yn y Siambr ac yn y pwyllgorau.
Ceir manylion am gyfarfodydd y dyfodol yn ogystal
â chofnod llawn or holl drafodion ers mis Mai
1999. Ceir hefyd archif gyflawn o'r holl gyhoeddiadau
Seneddol eraill, gan gynnwys adroddiadau, Cwestiynau
Seneddol, cynigion ac ymchwil.
|
Cynulliad
Gogledd Iwerddon
|
Ar y wefan ceir manylion am bob agwedd ar fusnes
y Cynulliad nes iddo gael ei atal ganol nos ddydd
Llun 14 Hydref 2002.
|
|
|
Mae'r safle'n rhoi gwybodaeth am Senedd y DU. Nid
yw'n cynnwys deunydd am y Llywodraeth a sefydliadau
eraill.
|
Eraill
|
| Sefydliad Materion
Cymreig (IWA) |
| Corff annibynnol yw'r IWA sy'n gweithredu fel pont rhwng
y rhai sy'n llunio polisïau cyhoeddus, y gymuned academaidd,
busnesau, a chyrff nad ydynt yn gwneud elw. Mae'n gweithredu
drwy gomisiynu ymchwil, trefnu seminarau, darlithoedd
a chynadleddau i hyrwyddo trafodaethau, a thrwy gyhoeddi
adroddiadau a phapurau polisi. |
| The Economic and Social
Research Council (ESRC) |
| Asiantaeth sy'n cyllido ac yn hyfforddi ymchwil yw'r
ESRC ac maen ymdrin â materion economaidd a chymdeithasol.
Darparu ymchwil o ansawdd uchel ar faterion sy'n bwysig
i fusnesau, y sector cyhoeddus a'r llywodraeth yw'r nod.
Rhoddir ystyriaeth i faterion megis cystadleurwydd economaidd,
effeithiolrwydd gwasanaethau a pholisïau cyhoeddus, ac
ansawdd ein bywyd. |
| Y Comisiwn
Etholiadol |
| Corff annibynnol yw'r Comisiwn, a sefydlwyd gan y Senedd
ym mis Tachwedd 2000. Ei nod yw magu hyder y cyhoedd yn
y broses ddemocrataidd o fewn y Deyrnas Unedig - ac annog
pobl i gymryd rhan - drwy foderneiddio'r broses etholiadol,
hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion etholiadol a rheoleiddio'r
pleidiau gwleidyddol. |
| Sefydliad
Gwleidyddiaeth Cymru |
| Canolfan ymchwil annibynnol yw Sefydliad Gwleidyddiaeth
Cymru, a sefydlwyd gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
i hybu astudiaethau academaidd a dadansoddi pob agwedd
ar wleidyddiaeth Cymru. |
| Canolfan
Llywodraethiant Cymru |
| Sefydlwyd Canolfan Llywodraethiant Cymru ym mis Chwefror
1999 ac mae'n Ganolfan Brifysgol sy'n cynnwys academyddion
o holl ddisgyblaethau'r gwyddorau cymdeithasol. Canolfan
yw hi ar gyfer ymchwil academaidd a chyngor ymarferol
ar faterion cyfreithiol a gwleidyddol sy'n ymwneud â'r
Cynulliad Cenedlaethol. Astudio gwladwriaeth 'newydd'
y DU yw'r nod, yn ogystal ag astudio effaith dylanwadau
allanol ar y DU, ei llywodraeth ganolog a'r weinyddiaeth
ddatganoledig yng Nghaerdydd. |
|
|