
CYNHADLEDD YMATEB I RICHARD
Gwesty'r Thistle (Park) Caerdydd, 23 Ebrill 2004
Bydd argymhellion Comisiwn Richard yn cael eu trafod mewn cynhadledd yng Ngwesty'r Thistle yng Nghaerdydd ar ddydd Gwener 23 Ebrill. Fe'i trefnir gan yr IWA ar y cyd â rhaglen ESRC ar Ddatganoli a Newid Cyfansoddiadol.
Bydd yr Arglwydd Richard ei hun yn siarad yn y gynhadledd a cheir anerchiadau hefyd gan rai sy'n arbenigwyr ar y cyfansoddiad ac eraill. Mae'r rhain yn cynnwys yr Athro Charlie Jeffery, Cyfarwyddwr Rhaglen ESRC; Alan Trench, o Uned y Cyfansoddiad Coleg Prifysgol, Llundain; yr Athro Laura McAllister o Brifysgol Lerpwl; yr Athro Kevin Morgan o Brifysgol Caerdydd a Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Gymreig. Hefyd bydd Aelodau'r Cynulliad Gareth Thomas Gorllewin Clwyd, Leighton Andrews, Mike German, Helen Mary Jones, a Glyn Davies yn cymryd rhan.
Costau:
Y Gynhadledd a chinio - gwr gwadd, yr Arglwydd Richard: £50
Y Gynhadledd yn unig: £25
Bwrdd cinio i ddeg, i gynnwys y gynhadledd: £300
I fynychu cysylltwch â swyddfa'r IWA yng Nghaerdydd:
1 Stryd yr Amgueddfa,
Caerdydd,
CF10 3BD
029 2066 6606
e-bost: wales@iwa.org.uk