Comisiwn Richard logo


Embargo: 10.30 a.m. 31 Mawrth 2004

31 Mawrth 2004

 

COMISIWN RICHARD YN ARGYMELL

DATGANOLI PELLACH I GYMRU ERBYN 2011

 

Mwy o bwerau i'r Cynulliad, ugain o Aelodau ychwanegol a system etholiadol newydd – dyna argymhellion Comisiwn Richard, a gyhoeddodd ei adroddiad heddiw (31 Mawrth 2004).

Mae'r adroddiad yn nodi'r graddau y mae'r berthynas rhwng y Cynulliad a San Steffan wedi esblygu dros y pum mlynedd ddiwethaf, gan barhau'r broses o ddatganoli a ddechreuodd bron ganrif yn ôl. Mae'n argymell:

Yn ôl y Cadeirydd, yr Arglwydd Richard, wrth gyflwyno adroddiad y Comisiwn i Brif Weinidog y Cynulliad, Rhodri Morgan, yng Nghaerdydd: "Braint o'r mwyaf oedd ymgymryd â thasg mor bwysig. Aethom ati i wneud y gwaith â meddwl agored, gan ganolbwyntio ar dystiolaeth o brofiadau ymarferol o ran sut y mae'r trefniadau yn gweithio ar hyn o bryd a sut y gellid gwella arnynt er budd pobl Cymru.

"Bu'r arolwg hwn yn un trylwyr ac eang iawn – cymerwyd tystiolaeth ledled Cymru gan bobl yn y Cynulliad, y rheiny sy'n gweithio gyda nhw o ddydd i ddydd a chan bobl gyffredin yng Nghymru."

Wrth sôn am gasgliadau'r adroddiad, dywedodd yr Arglwydd Richard: "Mae'r trefniadau presennol wedi bod yn llwyddiannus mewn sawl ffordd, ac mae ein cynigion yn adeiladu ar y profiad a gafwyd – profiad sy'n dal i dyfu ac aeddfedu – ers sefydlu'r Cynulliad ym 1999.

"Yn unfrydol rydym wedi dod i'r casgliad bod ar y Cynulliad angen mwy o bwerau er mwyn mynd i'r afael ag anghenion Cymru a'i blaenoriaethau yn y ffordd fwyaf effeithiol ac er mwyn bod yn uniongyrchol atebol i bobl Cymru. Rydym o'r farn y bydd y newidiadau hyn hefyd yn chwarae rhan hanfodol o ran cryfhau ymwneud y cyhoedd â’r Cynulliad.

"Mae ein dadansoddiad yn dangos y byddai pwerau pellach yn esblygiad o'r sefyllfa bresennol lle y gwelir Llywodraeth y Cynulliad, yn ymarferol, yn gosod yr agenda ddeddfwriaethol i Gymru fwyfwy, ac yna'n dibynnu ar Senedd San Steffan i graffu ar gynigion a'u cymeradwyo wedi hynny. Gyda pholisïau gwahanol i Gymru, rydym o'r farn y byddai'n symlach ac yn fwy effeithlon i'r broses gyfan gael ei gweithredu gan y Cynulliad etholedig. Ond mae profiad ymarferol yn awgrymu y byddai angen o hyd cael rhaglen sylweddol o ddeddfwriaeth Cymru a Lloegr yn San Steffan – felly bydd y bartneriaeth â Whitehall a San Steffan yn parhau i fod yn hanfodol.

"Rydym yn cydnabod y byddai pwerau ychwanegol yn golygu gwaith ychwanegol sylweddol, ac y byddai goblygiadau o ran maint a chost y Cynulliad a'r ffordd y caiff yr Aelodau eu hethol. Rydym wedi nodi'r rhain yn llawn yn ein hadroddiad, a’n gobaith yw y bydd pobl yn edrych yn ofalus ar ein dadleuon wrth iddynt benderfynu drostynt eu hunain.

"Mae'n bleser gennyf gyflwyno adroddiad y Comisiwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru, a fydd bellach yn gyfrifol am arwain y drafodaeth ar ddatblygu datganoli yng Nghymru – yn y Cynulliad ei hun a ledled Cymru."

Nodiadau

  1. Sefydlwyd y Comisiwn annibynnol ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("Comisiwn Richard") gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Gorffennaf 2002, wedi i'r Cynulliad gymeradwyo'i gylch gorchwyl ar 20 Mehefin 2002.
  2. Mae'r adroddiad cryno sydd ynghlwm yn nodi prif ganfyddiadau ac argymhellion y Comisiwn.
  3. Nodir hefyd aelodaeth y Comisiwn yn yr adroddiad cryno.
  4. Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan Comisiwn Richard yn www.comisiwnrichard.gov.uk . Mae copïau papur ar gael oddi wrth Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn (rhif ffôn 029 2034 4274).
  5. Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Comisiwn hefyd ar gael ar ei wefan ac fe gaiff ei chyhoeddi ar wahân cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny.

31 Mawrth 2004