|

Datganiad i'r Wasg i'w gyhoeddi ---
Yr Arglwydd Alderdice yn rhannu ei brofiad o Gynulliad Gogledd
Iwerddon yn sesiwn dystiolaeth derfynol Comisiwn Richard.
Bydd Comisiwn Richard yn cynnal ei sesiwn
dystiolaeth olaf am 2.00pm ddydd Gwener
19 Medi yn Nhy Caradog, Caerdydd.
Bydd yr Arglwydd Alderdice, llefarydd Cynulliad
Gogledd Iwerddon, yn rhannu ei brofiad gyda'r Comisiwn sy'n
edrych ar bwerau a threfniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Dyma sesiwn dystiolaeth olaf y Comisiwn yn
dilyn ei gyfnod ymgynghori a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf.
Mae manylion pellach am waith Comisiwn Richard ar gael o'n
gwefan:
http://www.comisiwnrichard.gov.uk
Rhaglen
|
Amser
|
Tyst
|
Lleoliad
|
|
14.00
|
Yr Arglwydd Alderdice
|
Comisiwn Richard
Yr Ystafell Gynadledda,
Llawr 3, Ty Caradog
1-6 Plas St Andreas
Caerdydd
|
|
15.30
|
Cynrychiolwyr Staff y Cynulliad
|
Gellir cysylltu â Chomisiwn Richard yn y cyfeiriad
canlynol: richard.commission@wales.gsi.gov.uk
neu drwy ffonio 029 2034 4274.
|