Llywodraeth Cynulliad Cymru Mynegai i'r Pynciau Y Comisiwn Richard
       
   
 
Llywodraeth Cynulliad Cymru Newyddion * Aelodau * Ymgynghoriad * Rhestr o Ddigwyddiadau * Rhestr o Dystiolaeth * Cwestiynau Cyffredin * Safleoedd Allanol * Adroddiad
*
 
Argraffu'r dudalen hon<% strPage = Request.ServerVariables("URL") response.write("") %>

Cwestiynau Cyffredin

Pam sefydlwyd y Comisiwn?
Penodwyd y Comisiwn ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn Richard) ym mis Gorffennaf 2002. Ein swydd oedd edrych ar bwerau a threfniadau etholiadol y Cynulliad a chynhyrchu adroddiad annibynnol. Bydd yr adroddiad hwn yn cyfrannu at benderfyniadau ar ddyfodol y Cynulliad Cenedlaethol a'r ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu yn y dyfodol.
Cliciwch yma i ddarllen y Cylch Gorchwyl llawn
Ar ba faterion edrychodd y Comisiwn?

Edrych ar bwerau a threfniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd cyfarwyddyd y Comisiwn. Mae'r materion yr edrychodd y Comisiwn arnynt yn cynnwys 3 prif elfen:

  • A yw maint y Cynulliad yn ddigonol i gyflawni ei swyddogaeth bresennol
  • A yw'r system etholiadol bresennol yn cynrychioli Cymru yn ddigonol
  • A fyddai angen unrhyw newidiadau pe bai gan y Cynulliad fwy o bwerau

 

Cliciwch yma i ddarllen Pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru - materion a chwestiynau i ymgynghori arnynt
Cliciwch yma i ddarllen Trefniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru - materion a chwestiynau i ymgynghori arnynt
Sut aeth y Comisiwn ati?
Roedd y Comisiwn yn awyddus i ddefnyddio dull ymarferol iawn - gan ganolbwyntio ar enghreifftiau manwl o sut mae pethau'n gweithio ar hyn o bryd a sut y gellir gwella arnynt. Roedd yn bwriadu seilio'i gasgliadau ar dystiolaeth o oblygiadau ymarferol y pwerau presennol sydd gan y Cynulliad ac i ddarparu atebion ymarfeol i wella'r ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu.
Er mwyn cyflawni hyn, fe wnaethom ymgynghori'n eang - drwy wahodd cyflwyniadau ysgrifenedig a chan gymryd tystiolaeth lafar oddi wrth y cyhoedd, pleidiau gwleidyddol, cyrff cyhoeddus, busnesau, y sector gwirfoddol, llywodraeth leol a sefydliadau eraill gan gynnwys San Steffan, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon.
Cliciwch yma i ddarllen y Rhestr o Dystiolaeth.
Pwy yw Aelodau'r Comisiwn?

Cadeiryd

Y Gwir Anrh Arglwydd Richard o Rydaman CF

Aelodau:

Eira Davies
Tom Jones
Dr Laura McAllister
Peter Price
Ted Rowlands
Vivienne Sugar
Huw Thomas
Syr Michael Wheeler-Booth KCB
Paul Valerio

Cliciwch fan hyn i ddarllen manylion pellach
Sut dewiswyd yr aelodau?

Yn ei ddatganiad ar 18 Ebrill a oedd yn cyhoeddi bod y Comisiwn wedi'i sefydlu o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Richard dywedodd y Prif Weinidog y byddai'r broses o benodi aelodau yn golygu dethol:

a.  enwebiadau gwleidyddol gan y pedair plaid wleidyddol yn y Cynulliad; a

b.  enwebiadau cyhoeddus a ddewiswyd trwy'r broses penodiadau cyhoeddus ar ar ôl hysbyseb gyhoeddus.

Cliciwch fan hyn i ddarllen datganiad y Prif Weinidog
A wnaeth y Comisiwn gynnal cyfarfodydd yn gyhoeddus?

Do. Mae Cylch Gorchwyl y Comisiwn yn nodi y dylid cyfarfod yn gyhoeddus oni bai bod y sawl sy'n rhoi tystiolaeth yn gofyn fel arall, neu oni bai bod y Comisiwn yn penderfynu cynnal cyfarfod yn breifat a hynny o dan amgylchiadau eithriadol.

Cliciwch fan hyn i ddarllen y Cylch Gorchwyl llawn
Ble wnaeth y Comisiwn gyfarfod?

Fe wnaeth y Comisiwn gyfarfod mewn amryw o leoliadau ledled Cymru. Cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd tu allan i Gymru e.e. yn Llundain neu Gaeredin lle roedd tystion allweddol.

Cliciwch fan hyn i weld y Rhestr o Ddigwyddiadau

A fydd yn bosib gweld y dystiolaeth sydd wedi dod i law'r Comisiwn, ac os felly, sut?

Bydd. Cyhoeddir yr holl dystiolaeth sydd wedi dod i law ar y wefan oni bai fod y sawl sydd wedi cyfrannu wedi nodi fel arall ac wedi nodi eu bod am gael cyflwyno tystiolaeth yn breifat.

Cliciwch fan hyn i ddarllen y rhestr o Dystiolaeth
Pryd wnaeth y Comisiwn gyhoeddi ei adroddiad?

Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad ar 31 Mawrth 2004. Cyflwynwyd y canfyddiadau yn ffurfiol gan yr Arglwydd Richard mewn lansiad yn Neuadd Dewi Sant.

Cliciwch fan hyn i weld araith yr Arglwydd Richard

Beth mae'r Comisiwn yn argymell?

Mae'r Comisiwn yn argymell:

  • y dylai Cymru gael Cynulliad deddfwriaethol wedi'i seilio ar y model ym Mhennod 13 o'r adroddiad;
  • yn y cyfamser, y dylid ymestyn y pwerau fframwaith dirprwyedig cyn belled â phosib gyda chytundeb Llywodraeth a Senedd y DU;
  • os bydd Cynulliad deddfwriaethol yn cael ei sefydlu, mae'n ddymunol, er nad yn angenrheidiol, iddo gael pwerau amrywio trethi;
  • er mwyn iddo ymarfer ei bwerau sylfaenol, mae angen cynyddu aelodaeth y Cynulliad i 80 Aelod;
  • y dylid ailsefydlu strwythur y Cynulliad gyda gweithrediaeth a chorff deddfwriaethol ar wahân;
  • na all y system bleidleisio bresennol gynnal cynnydd i 80 - y system amgen orau yw system STV;
  • Y dylai'r newidiadau hyn fod wedi'u sefydlu erbyn 2011 neu ynghynt os yw hynny'n ymarferol.
Sut gallaf gael copi o'r adroddiad a'r crynodeb?

Mae copiau ar gael o:

Y Ganolfan Gyhoeddiadau
Glanfa'r Cynulliad
Cynulliad Cenedlaethol Cynru
Pierhead Street
Bae Caerdydd
CF99 1NA

Rhif ffôn: 029 2089 8688

Neu o wefan y Comisiwn: www.comisiwnrichard.gov.uk

 

 

Back to top