Llywodraeth Cynulliad Cymru Mynegai i'r Pynciau Y Comisiwn Richard
       
   
 
Llywodraeth Cynulliad Cymru Newyddion * Aelodau * Ymgynghoriad * Rhestr o Ddigwyddiadau * Rhestr o Dystiolaeth * Cwestiynau Cyffredin * Safleoedd Allanol * Adroddiad
*
 
Argraffu'r dudalen hon<% strPage = Request.ServerVariables("URL") response.write("") %>

Safleoedd Allanol

Safleoedd y Llywodraeth

  • Seneddau a Chynulliadau a Ddatganolwyd

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae gwefan y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cofnod llawn o drafodion y cyfarfodydd llawn yn ogystal â chyhoeddiadau, adroddiadau ac ymarferion ymgynghori y Cynulliad. Mae yna adrannau ar hanes y Cynulliad a'i swyddogaeth, manylion ynghylch pob o’r Aelod Cynulliad a gwybodaeth ar gyfer ymwelwyr.

Senedd yr Alban

Mae'r wefan yn cynnwys manylion cynhwysfawr am bob agwedd ar fusnes y Senedd - yn y Siambr ac yn y pwyllgorau. Ceir manylion am gyfarfodydd y dyfodol yn ogystal â chofnod llawn o’r holl drafodion ers mis Mai 1999. Ceir hefyd archif gyflawn o'r holl gyhoeddiadau Seneddol eraill, gan gynnwys adroddiadau, Cwestiynau Seneddol, cynigion ac ymchwil.

Cynulliad Gogledd Iwerddon

Ar y wefan ceir manylion am bob agwedd ar fusnes y Cynulliad nes iddo gael ei atal ganol nos ddydd Llun 14 Hydref 2002.

Mae'r safle'n rhoi gwybodaeth am Senedd y DU. Nid yw'n cynnwys deunydd am y Llywodraeth a sefydliadau eraill.

Eraill

Sefydliad Materion Cymreig (IWA)
Corff annibynnol yw'r IWA sy'n gweithredu fel pont rhwng y rhai sy'n llunio polisïau cyhoeddus, y gymuned academaidd, busnesau, a chyrff nad ydynt yn gwneud elw. Mae'n gweithredu drwy gomisiynu ymchwil, trefnu seminarau, darlithoedd a chynadleddau i hyrwyddo trafodaethau, a thrwy gyhoeddi adroddiadau a phapurau polisi.
The Economic and Social Research Council (ESRC)
Asiantaeth sy'n cyllido ac yn hyfforddi ymchwil yw'r ESRC ac mae’n ymdrin â materion economaidd a chymdeithasol. Darparu ymchwil o ansawdd uchel ar faterion sy'n bwysig i fusnesau, y sector cyhoeddus a'r llywodraeth yw'r nod. Rhoddir ystyriaeth i faterion megis cystadleurwydd economaidd, effeithiolrwydd gwasanaethau a pholisïau cyhoeddus, ac ansawdd ein bywyd.
Y Comisiwn Etholiadol
Corff annibynnol yw'r Comisiwn, a sefydlwyd gan y Senedd ym mis Tachwedd 2000. Ei nod yw magu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd o fewn y Deyrnas Unedig - ac annog pobl i gymryd rhan - drwy foderneiddio'r broses etholiadol, hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion etholiadol a rheoleiddio'r pleidiau gwleidyddol.
Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru
Canolfan ymchwil annibynnol yw Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, a sefydlwyd gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol i hybu astudiaethau academaidd a dadansoddi pob agwedd ar wleidyddiaeth Cymru.
Canolfan Llywodraethiant Cymru
Sefydlwyd Canolfan Llywodraethiant Cymru ym mis Chwefror 1999 ac mae'n Ganolfan Brifysgol sy'n cynnwys academyddion o holl ddisgyblaethau'r gwyddorau cymdeithasol. Canolfan yw hi ar gyfer ymchwil academaidd a chyngor ymarferol ar faterion cyfreithiol a gwleidyddol sy'n ymwneud â'r Cynulliad Cenedlaethol. Astudio gwladwriaeth 'newydd' y DU yw'r nod, yn ogystal ag astudio effaith dylanwadau allanol ar y DU, ei llywodraeth ganolog a'r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghaerdydd.

 

 

Back to top