Llywodraeth Cynulliad Cymru Mynegai i'r Pynciau Y Comisiwn Richard
       
   
 
Llywodraeth Cynulliad Cymru Newyddion * Aelodau * Ymgynghoriad * Rhestr o Ddigwyddiadau * Rhestr o Dystiolaeth * Cwestiynau Cyffredin * Safleoedd Allanol * Adroddiad
*
 
Argraffu'r dudalen hon<% strPage = Request.ServerVariables("URL") response.write("") %>

Aelodau'r Comisiwn

Cadeirydd – Y Gwir Anrh Arglwydd Richard o Rydaman CF
Gynt yn Arweinydd Ty'r Arglwyddi, Comisiynydd y GEE, Aelod Seneddol a Llysgennad y DU i'r Cenhedloedd Unedig
 

Eira Davies

Yn dod o Wrecsam, Rheolwr Gyfarwyddwr ar fusnes cyhoeddi ar y we. Aelod o Fwrdd S4C a Choleg Llandrillo Cymru.
 

Tom Jones

Ffermwr o'r Trallwng, Powys. Cadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirofoddol Cymru, aelod o Gyngor Gefn Gwlad Cymru, a Chadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm.
 

Dr Laura McAllister

Uwch Ddarlithydd mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Gwleidyddiaeth, Ysgol Reolaeth, Prifysgol Lerpwl. Mae'n dod o Ben-y-bont ar Ogwr ac yn byw yn Lerpwl.
 

Peter Price

Gynt yn Aelod o Senedd Ewrop. Aelod o Gomisiwn Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol. Cyfreithiwr, Cadeirydd rhan amser y Tribiwnlys Cyflogaeth. Yn byw yng Nghaerdydd.
 

Ted Rowlands

Gynt yn AS Merthyr Tudful a Rhymni a Gogledd Caerdydd, Gweinidog yn y Swyddfa Gymreig a Gweinidog yn y Swyddfa Dramor. Mae'n byw yn Sir Gaerfyrddin.
 

Vivienne Sugar

Ymgynghorydd Llywodraeth Leol, cyn Brif Weithredwr Dinas a Sir Abertawe. Yn byw yn Abertawe.
 

Huw Thomas

Yn dod o Fae Colwyn. Cyfarwyddwr Cwmni Ymgynghori Taro Cyf. a chyn Brif Weithredwr Cyngor Sir Dinbych. Ymddiriedolwr RNID Cymru, Aelod Lleyg o Gyngor Cymdeithas y Cyfreithwyr ac aelod ddefnyddiwr o'r Cyngor Cymhorthion Clywed.
 

Sir Michael Wheeler-Booth KCB

Gynt yn Glerc y Seneddau yn San Steffan. Aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Ddiwygio Ty'r Arglwyddi a Chomisiwn Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol. Darlithydd arbennig yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen.
 

Paul Valerio

Arglwydd Faer cyntaf Abertawe ym 1982. Cynghorydd, Dinas Abertawe. Wedi ymddeol o'r busnes teuluol yn y diwydiant arcedau difyrion. Yn byw ym Mhenryn Gwyr.
Back to top