Y Comisiwn ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol y Cynulliad

Cylch Gwaith

Roedd dogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru Rhoi Cymru’n Gyntaf yn cynnwys ymrwymiad i

sefydlu Comisiwn annibynnol i edrych ar bwerau a threfniadau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn sicrhau ei fod yn gallu gweithredu er budd pennaf pobl Cymru. Dylai’r arolwg hwn ymchwilio ymysg pethau eraill i ehangu cyfranoldeb yng nghyfansoddiad y Cynulliad, a’r grymoedd perthnasol a ddatganolwyd.

Nodir cylch gwaith manwl y Comisiwn isod.

Pwerau’r Cynulliad

Dylai’r Comisiwn ystyried a yw pwerau presennol y Cynulliad yn ddigonol, gan ystyried yn arbennig

-  a yw pwerau’r Cynulliad yn ddigon clir i sicrhau bod y broses o lunio polisïau mor effeithlon â phosibl;

-  a yw pwerau’r Cynulliad yn ddigon llydan (h.y. amrediad y meysydd y mae ganddo reolaeth drostynt) a dwfn (h.y. y gallu i newid pethau o fewn y meysydd hynny) i ganiatáu llunio polisïau integredig a chyson ar faterion lle ceir agenda Gymreig glir ac unigryw;

-  a yw’r mecanweithiau ar gyfer llunio polisïau sy’n effeithio ar Gymru ar lefel Llywodraeth y DU, a’r trefniadau ar gyfer sicrhau bod y Cynulliad yn dylanwadu arnynt, yn glir ac yn effeithiol ac, yn arbennig, a ydynt yn unioni unrhyw ddiffygion a ddaeth i’r amlwg mewn perthynas a’r pwynt blaenorol;

-  a yw’r rhaniad cyfrifoldebau rhwng y Cynulliad a Llywodraeth y DU yn rhoi cyfyngiadau amhriodol ar y broses o lunio polisïau yn Whitehall, o ran materion y mae’r Cynulliad yn gyfrifol amdanynt ac fel arall.

Dylai’r Comisiwn ystyried goblygiadau ariannol posibl rhoi ei argymhellion ar waith.


Trefniadau etholiadol

Dylai’r Comisiwn ystyried pa mor ddigonol yw trefniadau etholiadol y Cynulliad, gan ystyried yn arbennig

-  a yw’r Cynulliad yn ddigon mawr iddo allu gweithredu’n effeithiol o fewn yr wythnos waith arferol, a hynny heb roi pwysau annerbyniol ar Aelodau;

-  a yw’r dull o ethol y Cynulliad, gan gynnwys cyfran yr aelodau sy’n cael eu hethol drwy gynrychiolaeth gyfrannol, yn cynrychioli’r holl fuddiannau pwysicaf yng Nghymru yn ddigonol ac yn gywir

-  a fyddai unrhyw newidiadau y gellid eu hargymell o ran pwerau’r Cynulliad yn ei gwneud yn angenrheidiol neu’n ddymunol newid maint y Cynulliad neu’r dull o’i ethol.

Adroddiad

-  Dylai’r Comisiwn gyhoeddi adroddiad yn amlinellu ei benderfyniadau, gan gynnwys ei argymhellion ynghylch y materion uchod, erbyn diwedd 2003. Caniateir iddo gyhoeddi adroddiadau neu argymhellion interim fel y gwêl yn dda.

Materion gweithdrefnol

-  Ni fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru na’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd yn dylanwadu ar y Comisiwn mewn unrhyw ffordd. Y Comisiwn fydd yn penderfynu ar ei agenda a’i flaenoriaethau o fewn y cylch gwaith hwn.

-  Gall y Comisiwn benderfynu ar ei weithdrefnau ei hun. Rhaid iddo, fodd bynnag:

-  dderbyn tystiolaeth lafar ac/neu ysgrifenedig gan unrhyw un sy’n dymuno ei roi;

-  derbyn tystiolaeth o’r fath yn Gymraeg neu yn Saesneg;

-  cwrdd yn gyhoeddus oni bai fod y sawl sy’n rhoi tystiolaeth yn gofyn am gael cyflwyno ei dystiolaeth yn breifat neu fod y Comisiwn yn penderfynu cwrdd yn breifat, hynny o dan amgylchiadau eithriadol;

-  cyhoeddi adroddiadau achlysurol ar ei waith a’r dystiolaeth a dderbyniwyd.

-  Nid oes gan y Comisiwn yr hawl i orfodi unrhyw un i roi tystiolaeth nac i weld unrhyw ddogfen heblaw am y rheini sydd ar gael o dan bolisi’r Cynulliad ar ryddid gwybodaeth neu drefniadau cyfatebol.

Ysgrifenyddiaeth

Bydd Ysgrifenyddiaeth o weision sifil ar secondiad o’r Cynulliad yn cynorthwyo’r Comisiwn yn ei waith.